Mae cymaint o bobl yn credu bod rhywbeth neu rywun y tu ôl i bob peth. Os ydyn ni’n onest, mae llawer ohonom yn cael trafferth gyda’r syniad ein bod ni wedi ymddangos o ddim, neu nad oes gwerth na rheswm i fywyd, a phan fydd rhywun annwyl yn marw, gwrthodwn gredu mai dyna’r diwedd. Credwn fod mwy na hynny, rywsut rywle fod rheswm i fywyd a gobaith ar ôl marwolaeth. Mae rhai pobl yn credu mewn lwc, eraill mewn karma, neu hyd yn oed yn y sêr. Mae rhai yn credu bod gan natur ei hun rym ac mae eraill yn credu, pan fyddwn ni’n marw, y byddwn ni’n mynd ymlaen i rywle arall. Mae eraill yn credu mewn person neu ‘fod’ o ryw fath - grym neu dduw. Tybed beth rydych chi’n ei gredu.
Yng Nghymru, mae’r gair duw yn creu llawer o ddelweddau - o hen ddyn yn y nefoedd â barf wen, i unben blin sy’n casáu pobl. Ond mae Duw’r Beibl ymhell o fod yn syniad o waith dyn. Mae’n llawer agosach atom ni nag yr ydym ni’n ei feddwl – ef yw’r unig wir Dduw byw. Gallwn weld ei ogoniant ym mawredd y mynyddoedd ac rydym yn ymwybodol o’i safonau perffaith pan welwn anghyfiawnder. Pan fyddwn yn galw allan arno yn ein hanawsterau mae hyn oherwydd bod gennym ymdeimlad o’i bŵer a’i ddaioni. Rydyn ni i gyd yn y pen draw yn ceisio ymbalfalu tuag ato ac yn chwilio am yr hyn y gall ef yn unig ei roi. Ond a allwn ni ddod o hyd iddo?
Mae’n bwysig sylweddoli bod yn rhaid inni nesau at Dduw ar ei delerau ei hun. Os na wnawn ni hyn, dim ond rhywun dychmygol fydd gennym – rhywbeth sy’n adlewyrchu sut yr hoffem ni i Dduw fod. Ond pan ofynnwn iddo ddangos ei hun a phan fyddwn ni’n galw arno’n ostyngedig, efallai y byddwn ni’n synnu at yr hyn y down o hyd iddo – fel y gwnaeth cymaint synnu ar y noson gyntaf honno pan dorrodd Duw mewn i’n byd ym Methlehem...
Disgrifir genedigaeth a bywyd Iesu mewn dogfennau hanesyddol – gallwch ddysgu mwy am gywirdeb y stori trwy ymweld â’n gwefan. Maen nhw’n disgrifio sut y daeth y Duw a greodd ein bydysawd i achub dynoliaeth oedd wedi troi cefn arno. Does dim angen ein hargyhoeddi bod rhywbeth o’i le ar ein byd – rydyn ni’n ei weld ym myd natur (gyda daeargrynfeydd a firysau), rydyn ni’n ei weld mewn eraill (cymaint o droseddu ac anghyfiawnder) ac os ydyn ni’n onest rydyn ni’n ei weld ynom ni ein hunain. Dydyn ni byth yn gwbl fodlon, ac rydym bob amser yn chwilio am fwy; mae ein cydwybod hefyd yn ein pigo’n aml gan ddangos ein bod yn methu’r safon. Mae’r Beibl yn ein dysgu ein bod yn y llanast hwn oherwydd ein bod wedi troi ein cefnau ar Dduw – dyma wnaeth ein cyndadau, ac rydyn ni i gyd yn euog o’r un peth. Rydyn ni’n byw fel rydyn ni eisiau, nid fel y mae Duw yn ei ddisgwyl. Mae’r Beibl yn dysgu y bydd yn rhaid i ni, pan fyddwn ni’n marw, wynebu Duw a chael ein barnu am y bywydau rydyn ni wedi’u byw.
Ond nid yw Duw wedi ein gadael yn y llanast hwn. Anfonodd ei Fab i’n byd. Dyna hanfod stori’r Nadolig. Daeth Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a greodd y byd hwn, yn un ohonom a gwneud hynny gyda phwrpas arbennig. Daeth i’n cynrychioli, gan fyw bywyd perffaith ac yna marw ar y groes i gymryd y gosb rydyn ni yn ei haeddu. Tridiau yn ddiweddarach daeth yn ôl yn fyw a phrofi i bawb ei fod yn Dduw a’i fod yn gallu cynnig bywyd i eraill. Daeth un o ffrindiau agosaf Iesu (Ioan) i’r casgliad hwn - ysgrifennodd “Gwnaethpwyd popeth trwyddo… Ynddo ef oedd bywyd, a’r bywyd oedd goleuni dynion. Mae’r golau’n llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.”
Mae hwn yn fater pwysig i ni gyd – mae angen maddeuant arnom fel ein bod yn cael ein cymodi â Duw a chael ein dwyn yn ôl i’r goleuni.
Efallai eich bod yn chwilio am rywbeth mwy mewn bywyd, am rywbeth neu rywun a all ddiwallu’ch anghenion dyfnaf. Efallai eich bod yn ymwybodol bod Duw yn agos ac yn galw arnoch. Mae’n bwysig eich bod chi’n nesáu at Iesu. Edrychwch y tu hwnt i’r syniadau amdano sydd gennym ni yng Nghymru heddiw. Darllenwch amdano yn y Beibl, siaradwch ag eraill sy’n ei adnabod ac yn ei garu (efallai’r person a roddodd y cylchgrawn hwn i chi) ac yn bwysicach fyth, trowch ato. Gofynnwch iddo faddau’r drwg rydych chi wedi ei wneud a gofynnwch iddo ddangos ei hun i chi. Bydd yn ateb ac yn siŵr o wneud hynny. Does dim byd yn well nag adnabod yr un a wnaeth y sêr!
Comments