top of page

Rysáit Nadolig

HOLI

Mae’r eglwys fel cinio Nadolig!


Byddai’r rhan fwyaf yn cytuno mai un o uchafbwyntiau dydd Nadolig yw’r cinio – y twrci, grefi, soch mewn sach, llysiau, saws bara… mae’r rhestr yn mynd ymlaen! Er y byddem yn cytuno ar y wledd, byddai llai o gytundeb ar yr elfen orau o’r pryd bwyd. Mae rhai yn caru’r cig, eraill y sawsiau, eraill y llysiau a hynny cyn i ni hyd yn oed feddwl am y pwdin a’r diodydd! Mae’n debyg mai’r amrywiaeth sy’n ei wneud mor arbennig.


Mae llawer heddiw yn meddwl bod eglwys neu gapel yn llawn o bobl dda gyda diddordebau a chefndiroedd tebyg. Efallai eich bod wedi osgoi mynd i’r capel oherwydd eich bod yn teimlo na fyddech yn ffitio i mewn nac yn cael eich croesawu. Ond mewn gwirionedd, mae eglwysi a chapeli byw yn llawn amrywiaeth, yn union fel cinio Nadolig. Rydyn ni i gyd yn wahanol – gwahanol oedrannau, cefndiroedd, swyddi – mae croeso i bawb.


Beth am ymweld ag eglwys neu gapel lleol y Nadolig hwn?

Byddwch yn siwr o gael croeso cynnes.


Cacen Gaws Mins Pei





Cyfoethog a hufennog, gyda blas tymhorol!


Paratoi: 10 mun Gadael: 60 mun Yn ddigon i: 8 person


Cynhwysion:

  • 150g bisgedi digestive

  • 50g bisgedi sinsir

  • 125g menyn, wedi toddi

  • 500g caws meddal ysgafn

  • 50g siwgwr eising

  • 100ml hufen dwbl

  • 100g briwgig Nadolig

  • croen 1 oren


Dull


  1. Irwch dun pobi 20cm gydag olew yn ysgafn a’i leinio â phapur pobi.

  2. Blitsiwch y bisgedi mewn prosesydd bwyd nes eu bod yn ymdebygu i friwsion bara mân. Mewn powlen ar wahân, cymysgwch â’r menyn wedi’i doddi. Trowch i mewn i’r tun pobi, ei wasgaru i haen wastad a gwasgwch i lawr yn gadarn. Oerwch yn yr oergell wrth i chi baratoi’r gymysgedd cacen gaws.

  3. Curwch y caws meddal nes ei fod yn llyfn, rhidyllwch y siwgr eising i mewn iddo a’i guro i gyfuno. Trowch yr hufen i mewn yn raddol nes ei fod yn llyfn a phlygwch drwy’r briwgig Nadolig.

  4. Taenwch y gymysgedd dros y gwaelod yn gyfartal ac oeri am tua 1 awr, nes ei fod wedi setio.

  5. Tynnwch y gacen gaws yn ofalus o’r tun trwy godi’r papur pobi a’i thorri’n wyth darn. Addurnwch gyda’r stribedi tenau o groen oren a mwynhewch.

0 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page