top of page
HOLI

Pwy yw Duw?

Updated: Mar 31, 2020

Pa ddarlun sy’n llenwi’ch meddwl o ganlyniad i’r cwestiwn hwn? Hen ddyn hefo gwallt a barf gwyn yn eistedd ymhell uwch ein pennau ar gymylau yn barnu pob camgymeriad? Ar y llaw arall efallai eich bod yn meddwl am Dduw fel ryw egni sydd y tu ôl i’r byd ond sydd bellach ddim i’w wneud â ni heddiw. Neu efallai nad oes gennych ymateb – dydy Duw ddim yn bodoli, a hyd yn oed os ydy o, o brofi dioddefaint yn bersonol a’i weld yn maeddu’r holl fyd, pwy fyddai eisiau ymwneud â’r fath greawdwr?


Ond tu hwnt i’r dadlau athronyddol pybyr mae rhyw hen dynfa ynom yn tarfu ac yn taeru bod mwy, bod yna ystyr i fywyd, bod galar yn udo annhegwch ac yn datgan mewn dagrau bod marwolaeth yn brifo. Mae marw yn tynnu’n groes i’r graen, yn styrbio ein bywydau bach taclus a’n creithio. Pam? Pam ein bod yn dyheu am rywbeth gwell? Os nad oes pwrpas mewn bywyd pam y dyhead dwfn am fwy?

Tybed a oes yna, wedi’r cyfan, werth i’r cwestiwn ‘Pwy ydy Duw’? Tybed a oes rhywun y tu ôl i’r cyfan wedi’n creu i fwy na bodoli? Gadewch i ni, am ennyd, stopio i ystyried, tybed a oes Duw ac os oes pwy ydy o?

Ble ddechreuwn ni? Edrychwn o’n cwmpas ar brydferthwch natur ac ar fanylder y greadigaeth. Ystyriwn gymhlethdod y llygad dynol – y gallu i sicrhau fod adlewyrchiad golau yn rhoi golwg. Anhygoel! Ystyriwn berthynas y ddaear â’r creaduriaid sydd yn byw arni. Mae ganddynt oll eu cynefin, lle iddynt drigo ynghanol eu holl hanfodion. Damwain ydy hyn? Damwain achosodd popeth i ffynnu? Na, mae gan bob creadigaeth greawdwr yn ein byd ni. Felly onid oes creawdwr i’r bydysawd? Fel y dywed y Beibl...

Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi’u creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!

Felly os derbyniwn fod Duw wedi ein creu pa gysylltiad sydd ganddo bellach â ni? Pam ei fod yn teimlo mor bell i ffwrdd?

I ddod o hyd i’r gwir rhaid i ni edrych arnom ein hunain. Fel pobl rydym wedi dewis byw ar wahân i Dduw ers y cychwyn, rydym wedi troi ein cefn arno a’i ffyrdd a daeth marwolaeth a dioddefaint yn sgîl y dewis hwn. Mae Duw yn dda ac oddi wrtho mae popeth da yn deillio, felly o ddewis fod hebddo, tywyllwch yw’n tynged ni.

Ai dyna ddiwedd y stori? Ein bod wedi’n gwahanu oddi wrth Dduw, a dyna ni? Bod Duw yn bell oddi wrthym, yn dda ond yn bell. Diolch fod dipyn mwy i’r stori yma.

Dyma, efallai, y prawf mwyaf o fodolaeth Duw. Ysgrifennodd Duw ei hun i mewn i’n hanes ni drwy Iesu Grist, ei fab, yr un a ddaeth i gyflawni’r hyn sydd yn amhosib i ni. Trwy gydol ei fywyd arhosodd yn driw i beth oedd yn iawn, yr unig un erioed i fyw bywyd perffaith a dangos Duw ei dad i ni.

Mae ei fywyd yn disgleirio ac yn dangos fod Duw yn real. Ond byw i farw a wnaeth Iesu, marw a chymryd cosb yr amherffaith – ein cosb ni (am y pethau anghywir yr ydym yn eu gwneud sy’n mynd yn erbyn daioni Duw). Trwy wneud hyn fe agorodd ffordd i ni ddod yn ôl at Dduw y Tad trwy ei ddaioni ef ac felly cael bywyd tragwyddol trwyddo. Bellach, drwy ei aberth ef, mae modd i ni ddod i adnabod Duw a phrofi ei fod yn real.

O ganlyniad i gariad Duw rwyf wrth fy modd yn cael dweud mod i yn ei adnabod rŵan. Rwyf yn ei adnabod fel creawdwr; yr hwn a wnaeth pob dim. Rwyf yn ei adnabod fel Gwaredwr; yr hwn a’m hachubodd o farwolaeth i fywyd. Rwyf yn ei adnabod fel Tad nefol; yr hwn sy’n fy ngharu er i mi droi fy nghefn arno ac sy’n fy nerbyn yn blentyn iddo.

Nid hen ddyn blin nac egni anelwig yw Duw. Mae’n real ac mae wedi mynd i eithafion i dy adnabod di, fel mae’n dweud yn ei eiriau ei hun:

Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

Wyt ti eisiau ei adnabod?


Elin Bryn

2 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page