Mae gan bob un ohonom ein hoff garol Nadolig - beth yw eich hoff un chi?
Un o’r ffyrdd gorau o deimlo ysbryd y Nadolig yw gwrando ar (a chanu!) Carolau Nadolig. P’un a’i ydych chi’n mwynhau’r traddodiadol neu’n fwy anturus gyda’r newydd, mae gan ein rhestr chwarae Spotify garolau i bawb.
‘Clywch Lu’r Nef’
Mae hon yn ffefryn i’w chanu mewn gwasanaethau carolau. Ers i mi drystio yn yr Arglwydd Iesu Grist, mae’r geiriau wedi dyfnhau yn eu hystyr i mi, a dwi wrth fy modd gyda’r gwirioneddau rhyfeddol mae’n ddweud mewn ffordd mor syml. Trwy enedigaeth Iesu, “heddwch sydd rhwng nef a llawr”, ac “iechyd yn ei esgyll sydd”. Dwi’n hapus yn canu hwn pob Nadolig, wrth gofio beth mae Iesu yn cynnig i ni fel Ceidwad dyn.
Rebecca (Bangor)
‘O Deued Pob Cristion’
gan Jane Elis yw fy ffefryn. Mae’n werth cymharu’r gwreiddiol o 1840 a’r fersiwn poblogaidd heddiw. Iesu fel Gwaredwr y Byd yw canolbwynt y canu. A dyna’n wir yw rhyfeddod y Nadolig - fod Duw wedi dod i’n gwaredu.
Cynan (Caerdydd)
‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’
Mae’r garol yma wedi mynd yn boblogaidd iawn ac yn ffefryn i lawer mewn blynyddoedd diweddar ac mae’n rhwydd gweld pam. Mae cyfoeth y darluniau a chyfeiriadau Beiblaidd y ddwy bennill cyntaf yn tanio’r dychymyg. Yna mae’r trydydd pennill yn cynhesu’r galon wrth ystyried fod Crist wedi dod i’r byd i ddioddef “O’i wir fodd”. Ac yna wrth gwrs y bennill olaf yn galw pob un ohonom felly i frysio ato fel ydym ni er mwyn ein hachub! Dydw i methu aros i’w chanu eto!
Emyr (Caerdydd)
Comments