Gall y Nadolig fod yn hwyl i’r teulu cyfan, gyda phawb yn rhoi tinsel ar y goeden (gyda seren yn y nen) ac yn gofyn pwy sy’n dŵad dros y bryn. Er hyn i gyd, mae’n ymddangos yn anoddach dod o hyd i rywbeth y mae pawb yn ei fwynhau y dyddiau yma. Hyd yn oed os gallwch chi fforddio ymweliad â Winter Wonderland, does dim sicrwydd y bydd yn werth yr arian. Mae ffilm Nadolig yn swnio’n braf os gallwch chi gytuno ar un. Gwneud cwcis Nadolig gyda’ch gilydd? Yw’r anhrefn yn werth y calorïau?
Yr hyn yr ydym ei eisiau yw rhywbeth traddodiadol sy’n dda i bob oedran ac nad yw’n costio unrhyw arian. Felly a gaf i awgrymu gwasanaeth carolau? Mae’n ticio’r blychau i gyd.
Mae gwasanaethau carolau yn draddodiadol. Mae Cymry wedi bod yn mynd i’r eglwys adeg y Nadolig ers dros fil o flynyddoedd felly byddwch chi’n rhan o hanes. Mae carolau yn rhan o’n hetifeddiaeth. Fe wnaethoch chi eu canu eich hun yn yr ysgol felly byddwch chi’n cysylltu â’ch hanes eich hun hefyd.
Mae stori’r Nadolig yn siarad â phob oedran. Stori cwpl ifanc yn llawn ofn a chyffro babi ar ei ffordd. Mae yna wyddonwyr, gwleidyddion, ffermwyr a phensiynwyr yn cymryd rhan hefyd. Mae’n stori o obaith lle mae’r goleuni yn trechu’r tywyllwch, rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei glywed. (Awgrym: Rwyf wedi bod yn trefnu gwasanaethau Nadolig ers ugain mlynedd. Bydd eich teulu’n grwgnach ymlaen llaw ond byddant yn falch eu bod wedi mynd yn y diwedd.)
Gorau oll mae gwasanaethau carolau am ddim! Nid yn unig y digwyddiad ei hun ond y coffi, siocled poeth, bisgedi, stollen, gwin cynnes neu beth bynnag arall y maent yn ei gynnig i chi ar y diwedd.
A wnewch chi ei ystyried? Byddwch yn gwneud llawer y Nadolig hwn a gobeithio y bydd y rhan fwyaf ohono yn hwyl. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud un peth sy’n gofiadwy gan fynd i’ch gwasanaeth carolau lleol.
Kommentare