top of page

Storïau

Un o'r pethau mwyaf sylfaenol sy'n wir am bob un ohonom yw bod gennym stori. Mae stori pob un ohonom yn unigryw, yn aml yn gymhleth, yn llawn troeon a digwyddiadau annisgwyl - ond mae stori pob un ohonom yn ddwfn o bersonol a phwysig. Rydym yn llawer mwy na chig a gwaed ac mae pwrpas a thrysor yn gweu eu hunain drwy stori pob un ohonom.

Wrth i gymdeithas newid, ac wrth i ni wynebu heriau hen a newydd, mae hi felly'n beth da i gymryd cam yn ôl ac edrych ar ein stori... stori ein cenedl, stori ein cymdeithas a'n stori ni'n bersonol.

 

Beth sy'n rhoi pwrpas, gwerth a mwynhad i ni? I ble mae ein stori ni'n mynd? Allwn ni wneud unrhywbeth i wella ein stori?

Yn yr adran yma, fe gewch nifer o erthyglau a chyfweliadau'n adrodd storïau eraill; storïau Cymry arferol sydd wedi wynebu bob math o sefyllfaoedd gwahanol - llwyddiant, gwaith, salwch meddwl, trasiedi, newid mawr a hyd yn oed ansicrwydd llethol. Er bod y storïau'n gyferbyniol, maent i gyd yn ddiddorol ac fe ddysgwn gymaint wrth eu darllen - diolch i bawb am fod mor onest.

bottom of page