top of page
HOLI

Gobaith mewn Galar - Stori Catherine


Mae Catherine Barker yn dal i allu gweld Samuel gyda’i freichiau ar led, ei siaced yn hedfan yn y gwynt, a’i esgidiau glaw yn tasgu dŵr wrth iddo redeg drwy’r cae y tu ôl i’w gartref yn Ne Cymru. Mae gwên ddireidus y bachgen seithmlwydd oed yn pelydru llawenydd pur. Ond cyn gynted ag y mae’r darlun o Samuel yn ymddangos, mae’n pylu’n atgof. Un mis ar ddeg yn ôl, bu Samuel mewn damwain draffig y tu allan i’w gartref. Bu Samuel farw, ac mae galar ei fam yn dal yn real iawn.


“Does dim geiriau i ddisgrifio sut roeddwn yn teimlo y noson gyntaf honno. Ond rhoddodd Duw lawenydd yn fy nghalon i’r graddau fy mod i’n gallu gwenu wyth awr ar ôl iddo ddigwydd. Dyw hynny ddim yn ddynol bosib. Dim cryfder ewyllys all wneud hynny, dim ond trwy Dduw yr oedd yn bosib.”


“Yr hyn a roddodd y wên honno ar fy wyneb oedd y sicrwydd o ble mae Samuel. Fel rhiant, dydych chi byth yn hapusach na’ch plentyn tristaf. Os yw’ch plentyn yn sâl, rydych chi’n brifo hefyd. Dwi’n gwybod na fydd Samuel byth yn blentyn tristaf i mi. I galon mam alarus dyna’r balm gorau y gallwch ei roi. Dwi’n ofnadwy o drist ar adegau, ac rydw i’n gweld ei eisiau. Ond rwyf yn gallu dweud wrthyf fy hun nad yw ar goll. Mae e gyda Iesu.”

Trwy ei dioddefaint, mae Duw wedi gwneud i realiti’r gobaith sydd gennym ein bod yn cael ein hachub, i dyfu yn Catherine. Nawr, yn fwy nag erioed, mae hi’n glynu wrth addewid Duw y bydd yn adfer pob peth.


“Mae’r byd hwn yn gysgod, ie cysgod hardd, ond cysgod serch hynny o’r hyn sydd i ddod. Mae bywyd yn werthfawr iawn, ond nid bywyd yn y byd hwn yw pob dim. Mae fy mhrofiad o ddioddefaint wedi gwneud i mi sylweddoli’r gwahaniaeth rhwng y bywyd hwn a pha mor wych y bydd y nefoedd – dim marwolaeth, dim galaru, dim cael ein baglu gan ein dyheadau toredig ein hunain. Byddwn yn bur ac yn berffaith ac yn sefyll ym mhresenoldeb sanctaidd Duw, oherwydd yr hyn y mae Iesu wedi’i wneud drosom.”


Er bod ei galar yn rhedeg yn ddwfn, mae llawenydd a gobaith Catherine yn rhedeg yn ddyfnach. Er iddi golli ei mab gwerthfawr, mae perthynas Catherine â Iesu yn rhoi iddi’r nerth i ddeffro yn y bore, chwerthin gyda’i meibion eraill a’i gŵr, a chysuro ffrindiau Samuel. Dyna fydd yn ei chadw wrth iddi wynebu eu Nadolig cyntaf heb Samuel.


Yn chwech oed, ysgrifennodd Samuel Salm (cerdd Gristnogol). Yn ei lawysgrifen syml, mae wedi dal rhywbeth o burdeb cariad Duw tuag at Ei bobl. Ar ôl iddo farw, rhannwyd Salm Samuel drwy’r gymuned leol, y cyfryngau cenedlaethol a thu hwnt. Rydyn ni’n rhannu’r Salm hon gyda chi heddiw fel y gallwch chi weld pa mor syml a rhyfeddol yw credu yn Iesu.




6 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentarios


bottom of page