top of page
HOLI

Gonestrwydd a Gobaith


Nadolig Llawen! Rydym i gyd yn mawr obeithio y bydd yr wythnosau nesaf yn rhai hudolus a hapus. Er y bydd yn Nadolig gwahanol i’r arfer, ac mae’n debyg y bydd rhai pethau na fyddwn yn medru eu gwneud, mae’n ddigon posib y bydd yn un o’r Nadoligau mwyaf arbennig a phwysig yr ydym wedi’i brofi ers blynyddoedd lawer! Yn sicr rydym angen rhywfaint o lawenydd a thangnefedd yn ein bywydau ar hyn o bryd.


Er bod gennym obaith am yr wythnosau nesaf, rhaid inni hefyd fod yn onest â’n hunain. Ychydig a wyddem yr adeg hon y llynedd am yr hyn a oedd o’n blaenau o ganlyniad i Covid-19, misoedd o gyfnod clo, y dioddefaint, y colledion a’r newidiadau dramatig yn ein bywydau. Rydym wedi gweld a phrofi cymaint – mae wedi effeithio ar bob rhan o’n bywydau.

Mae’n ymddangos bod llygaid nifer ohonom wedi eu hagor a’n gobaith wedi’i ysgwyd. Ydy, mae bywyd yn llawn o bethau da, ac mae yna amseroedd gwell i ddod yn sicr, ond mae cymaint yn ansicr, ac nid ydym mor gryf ag yr hoffem feddwl. Mae angen gobaith arnom fydd yn parhau drwy bob storm.


Mae’r cylchgrawn hwn wedi ei roi i chi gan rywun sydd eisiau rhannu’r gobaith hwnnw gyda chi. Fel Cristnogion, nid oes gennym y gobaith hwn ynom ein hunain - ond rydym wedi dod o hyd iddo mewn person o’r enw Iesu Grist. Rwy’n gweddïo y byddwch yn mwynhau’r straeon a’r erthyglau, a chofiwch, os ydych chi eisiau gwybod mwy, gallwch ddilyn y dolenni sydd ar ddiwedd yr erthyglau i ddod o hyd i gynnwys ychwanegol ar-lein (neu drwy fynd i www.holi-cymru.org).


Rwy wir yn gobeithio y cewch chi a’r rhai sy’n annwyl i chi y Nadolig gorau erioed, ac yn fwy na dim rwy’n gobeithio y dewch o hyd i obaith sy’n parhau.


Steffan Job

2 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentários


bottom of page