Beth all taylor Swift ddysgu i ni am y Nadolig?
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn fawr i Swifties, gyda thaith ERAS a rhyddhau albwm newydd, The Tortured Poets Department. Mae ffans ym mhobman wedi bod yn gwrando ar yr albwm gan geisio gweithio allan am bwy mae’r caneuon yn sôn, ac yn hela unrhyw ‘Wyau Pasg’ cudd. I’r rhai nad ydyn nhw’n gwybod, mae Taylor wedi cyfaddef ei bod hi wedi bod yn rhoi cliwiau ac awgrymiadau bach (Wyau Pasg) yn ei cherddoriaeth a’i pherfformiadau ers iddi ddechrau ei gyrfa lwyddiannus. O’i halbwm cyntaf un, mae ei chefnogwyr wedi bod yn cwestiynu a yw eitem mewn fideo neu ddarn o emwaith a wisgodd yn Ŵy Pasg ar gyfer cân newydd neu’n gyfeiriad at gyn-gariad.
Mae Wyau Pasg Taylor yn aml yn rhagfynegi pethau i ddod yn ei gyrfa ond nid hi yw’r person cyntaf i feddwl am yr awgrymiadau a’r cliwiau hyn oherwydd mae’r Beibl yn llawn ohonyn nhw hefyd.
Mae’r Nadolig yn bwysig i Gristnogion oherwydd rydyn ni’n dathlu genedigaeth Iesu. Mae’n un o’r digwyddiadau pwysicaf mewn hanes ond nid ydym yn darllen am enedigaeth Iesu tan fwy na hanner ffordd drwy’r Beibl.
Roedd Duw wedi cynllunio genedigaeth Iesu cyn i amser ddechrau. O benodau cyntaf un y Beibl, rydyn ni’n gwybod y bydd yn digwydd oherwydd yr holl Wyau Pasg!
Rhoddodd lwyth o gliwiau gan gynnwys lle byddai Iesu yn cael ei eni, pa fath o Waredwr fyddai, pwy yw ei hen, hen, hen daid a dysgwn beth fydd yn ei wneud. Mae’r Beibl yn dweud wrthym y bydd yn achub pobl.
Dyna pam mae’r Nadolig mor bwysig. Am gannoedd o flynyddoedd, roedd pobl Dduw yn aros am yr un a fyddai’n eu hachub, yr un a addawodd Duw, yr un a ragfynegwyd o’r cychwyn cyntaf. Trwy’r Beibl cyfan, roedd pobl Dduw yn aros am Waredwr a fyddai’n dod â phobl yn ôl i berthynas ag ef ei hun. Dyma nhw’n aros ac aros. Yna ymddangosodd y Gwaredwr! Mewn preseb, wedi’i amgylchynu gan ddefaid, bugeiliaid a doethion – y Nadolig cyntaf.
Mae hyn yn bwysig heddiw oherwydd nid yn unig y cafodd Iesu ei eni, ond bu farw hefyd. Mae Cristnogion yn dathlu marwolaeth Iesu adeg y Pasg – sy’n swnio’n od, ond arhoswch gyda mi. Fe wnaeth Iesu fyw bywyd perffaith ond profodd farwolaeth greulon er mwyn ein hachub. Fe gymerodd y gosb rydyn ni’n ei haeddu ond wnaeth e ddim aros yn farw! Cododd Iesu oddi wrth y meirw a threchu marwolaeth fel y gallwn fod yn sicr nad marwolaeth yw’r diwedd i ni. Dyna’r holl reswm pam y daeth!
Mae Iesu’n fyw heddiw ac mae’n cynnig maddeuant i bawb sy’n troi ato. Y Nadolig hwn, beth am ymchwilio i fywyd a marwolaeth Iesu drosot ti dy hun a gofyn iddo ddangos ei hun i ti?
Comments