
Anrheg nad ydym yn haeddu
Mae yna reswm pam fyddwn ni’n dewis rhoi anrheg i rywun. Mae’n teulu agos ni’n derbyn yr anrhegion mwyaf arbennig efallai; yna ffrindiau agos, neu rywun sydd wedi ein helpu yn ystod y flwyddyn. Bydd eraill yn derbyn cardiau’n unig oddi wrthym. Mae’r cyfan yn dibynnu ar ba mor agos yw ein perthynas â nhw.
Ond pan roddodd Duw Iesu Grist yn anrheg, rhoi i fyd sydd wedi troi yn ei erbyn a wnaeth: “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab”. Duw sydd wedi creu’r byd, ac sy’n ei gynnal drwy’r amser. Ac eto mae ein byd ni wedi anghofio am Dduw. Nid am ein bod yn ei haeddu y daeth Iesu Grist atom.
Anrheg oedd yn ddrud
Faint fyddwch chi’n ei wario ar anrhegion Nadolig? Mae’r siopwyr bob blwyddyn yn gobeithio y byddwn yn gwario mwy nag o’r blaen. Ond beth mae Duw yn gallu ei roi? Fe sy’n berchen ar bob dim, ac felly gallwn ni ddychmygu na fyddai dim byd yn costio’n ddrud iddo Fe.
Ond rhoddodd Ef y peth oedd yn costio fwyaf iddo – ei Fab. Mae’r Beibl yn dweud mai Iesu yw Mab Duw. Dyna pam mai un enw arno yw Emaniwel sy’n golygu ‘Duw gyda ni’. Rhoddodd Iesu Grist gan wybod y byddai’r byd yn ei wrthod, ei farnu a’i ladd ar groes. Dyma’r anrheg drutaf yn hanes y greadigaeth! Dyma hefyd anrheg angenrheidiol i ni, gan nad oedd ffordd arall i’n hachub.
Anrheg addas
Mae dewis anrhegion Nadolig yn gallu bod yn her! Rydych chi am i’r anrheg fod yn addas – yn siwtio. Does dim pwynt rhoi hamper o gig i lysieuwr neu siampŵ moethus i ddyn sydd wedi colli ei wallt!
Dewisodd Duw anrheg addas ar ein cyfer. Dyma ein hangen – rhywun i’n cadw rhag canlyniadau ofnadwy ein gwrthryfel yn erbyn Duw. Daeth Iesu i’n hachub ni drwy farw dros ein pechodau ar groes. Dyma newyddion gwych y Nadolig.
Anrheg i ymateb iddo
Mae’n rhaid i ni dderbyn neu wrthod pob anrheg. Mae’r un peth yn wir am Iesu Grist, anrheg Duw. Gwrthododd Herod yr anrheg, a cheisio lladd y baban Iesu. Dyna mae llawer yn ei wneud. Maen nhw’n dweud ‘Dim diolch’ wrth Dduw. Mae’n well ganddyn nhw y pethau mae’r byd yn ei gynnig. Ond derbyniodd y bugeiliaid y gwahoddiad, ac i ffwrdd â nhw i chwilio am Iesu. Deallodd y sêr ddewiniaid fod Brenin yn dod i’r byd, ac felly fe wnaethon nhw deithio’n bell i blygu wrth ei draed.
Sut ydych chi am ymateb i anrheg Duw?
Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Allan o’r Beibl - Rhufeiniaid 6:23
Commenti