Ydych chi’n credu bod yn rhaid i chi fod yn fath arbennig o berson i fod yn Gristion neu fynd i’r eglwys? Mae llawer yn credu bod hyn yn wir – bod eu ffordd o fyw neu eu daliadau yn golygu na fyddai croeso iddyn nhw byth yn eu heglwys leol na’u cymuned Gristnogol. Yn drist iawn, mae hyn wedi bod yn wir ar brydiau, ond ddylai hi ddim bod felly. Mae angen maddeuant Duw a’i rym sy’n newid ar bob un ohonom. Mae Duw yn croesawu pawb, fel y mae stori’r Nadolig yn dangos yn hollol glir.
Ganwyd Iesu i Mair – merch ifanc, heb statws cymdeithasol oedd yn wynebu’r sgandal o gael plentyn y tu allan i briodas.
Joseff oedd llysdad Iesu – saer coed oedd yn gweithio â’i ddwylo ac a gafodd ychydig iawn o addysg yn ôl pob tebyg.
Daeth yr angylion at y Bugeiliaid – galwedigaeth isel iawn ar y pryd. Roedd cymdeithas yn eu hystyried yn bobl arw, yn gweithio oriau hir mewn swydd beryglus trwy’r nos.
Siaradodd Duw â’r Doethion – tramorwyr fyddai wedi cael eu taflu allan o’r deml Iddewig ar y sail nad oeddent yn Iddewon.
Ganed Iesu ei hun mewn stabl – ni ddaeth at bobl grefyddol ei ddydd ac ni ddaeth at y bobl bwysig. Yn ddiweddarach yn ei fywyd roedd Iesu’n cael ei adnabod fel ‘ffrind i bechaduriaid’ ac fe’i barnwyd yn hallt gan yr arweinwyr crefyddol. Croesawodd bawb, a bydd yn eich croesawu chi.
Mae’r Beibl yn dweud wrthym:
Dewch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl. Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw’n fara, a llafurio am yr hyn nad yw’n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta’r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion. Gwrandewch arnaf, dewch ataf; clywch, a byddwch fyw.
Allan o’r Beibl, Eseia, pennod 55.
Comments