Y Beibl
Trwy’r llyfr anhygoel hwn, mae Duw yn dal i’n dysgu, ein helpu a’n harwain heddiw. Os nad ydych erioed wedi darllen y Beibl o’r blaen, beth am fynd i’r dudalen gynnwys a dod o hyd i lyfr Marc - mae’r llyfr hwn yn adrodd hanes bywyd Iesu. Os hoffech gael copi am ddim o ran o’r Beibl, neu os hoffech gael llyfr syml a fydd yn eich helpu i ddarllen eich Beibl, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy’r wefan neu’r manylion ar y clawr.
Chwiliwch am eglwys neu Gristion
Mae’r cylchgrawn hwn wedi ei roi i chi gan eglwys neu Gristion. Byddant yn fwy na pharod i rannu eu profiadau eu hunain gyda chi a helpu mewn unrhyw ffordd y medrant. Byddem yn eich annog i gysylltu â nhw neu ag eglwys arall sy’n credu yn y Beibl – maent yn sicr o fod yn groesawgar, ac ni fyddant yn disgwyl unrhyw beth gennych chi!
WNAIFF DUW FY ACHUB I?
Un o’r brawddegau harddaf yn y Beibl yw ‘Gofynnwch a rhoir i chi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, a bydd yn cael ei agor i chi’. Dyma addewid gan Iesu i ddangos ei hun i bwy bynnag sy’n gofyn iddo. Nid oes angen unrhyw eiriau arbennig arnoch chi – dim ond siarad ag ef o’ch calon. Os yw’n flin gennych am eich gwrthryfel yn erbyn Duw, gofynnwch i Iesu eich achub a chredwch iddo farw ar y groes er mwyn i chi gael maddeuant. Fel y dywed y Beibl, ‘Os ydym yn cyfaddef ein pechodau, mae’n ffyddlon ac yn gyfiawn i faddau i ni ein pechodau ac i’n glanhau o bob anghyfiawnder’.
MAE GEN I FWY O GWESTIYNAU
Gall meddwl am bethau mawr a phwysig bywyd fod yn anodd, yn enwedig o ystyried y cyfan rydyn ni wedi bod drwyddo dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rydyn ni’n gwybod y gallai fod gennych chi gwestiynau pellach i’w gofyn. Mae’r cylchgrawn hwn a’n gwefan wedi’u llunio am y rheswm hwnnw. Fel Cristnogion rydyn ni’n ymgodymu â’r un cwestiynau i raddau helaeth ac rydyn ni’n gwybod nad oes atebion hawdd a syml bob amser. Ar ein gwefan fe welwch straeon eraill am bobl sydd wedi wynebu gwahanol brofiadau bywyd ac erthyglau ar rai o gwestiynau pwysig bywyd. Nid ydym yn addo gallu ateb eich holl gwestiynau - ond rydyn ni’n gwybod bod Duw yn Dduw’r gwirionedd, ac mae’n gallu ein helpu ni. Gallwch hefyd anfon cwestiynau a sylwadau atom trwy’r wefan yma.
Comments