Pe bai’n rhaid i chi ddisgrifio’ch bywyd mewn tri gair, pa eiriau fyddech chi’n eu defnyddio?
Efallai ei bod hi’n dipyn o dasg meddwl am dri gair yn unig – wedi’r cyfan mae ein bywydau mor llawn! Mae gennym y da a’r drwg, y pleserau a’r pryderon, y llwyddiannau, a’r methiannau. Ond er bod ein bywydau’n llawn, rwy’n siŵr y gallai’r rhan fwyaf ohonom gyfyngu’r rhestr i ychydig o bethau sydd bwysicaf i ni. Y pethau rydyn ni’n eu gwerthfawrogi fwyaf, a’r pethau sy’n ein siapio ni.
Tybed sut rydych chi’n teimlo wrth edrych ar y tri gair rydych chi wedi’u dewis?
Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni fod ein bywydau’n fregus a bod salwch, rhyfeloedd ac ansicrwydd yn gallu amharu arnynt. Rydyn ni wedi dysgu bod yna bethau y tu allan i’n rheolaeth, ac nad yw pethau bob amser yn troi allan fel y dymunwn. Mae llawer wedi cwestiynu beth sy’n wirioneddol bwysig, eraill wedi cwestiynu a oes mwy i fywyd ac eraill yn gofyn beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni (neu’r rhai yr ydym yn eu caru) yn marw.
Rydyn ni yma yr wythnos hon oherwydd rydyn ni’n credu bod yna Dduw sy’n rheoli. Yn sicr nid yw’r byd hwn fel y dylai fod, ond mae yna Dduw sydd wedi’n creu ni, sy’n ein caru ni, ac sydd am ein hachub. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd daeth Iesu i fod yn un ohonom ni, gan fyw bywyd perffaith ac yna marw i gymryd y gosb rydyn ni i gyd yn ei haeddu am ein gwrthryfel yn ei erbyn.
Mae llawer o bobl wedi cael eu harwain i gredu bod Iesu yn ffigwr chwedlonol neu’n athro sydd ag ychydig iawn o berthnasedd i’n bywyd heddiw. Ond mae’r dogfennau hanesyddol gan y llygad-dystion yn rhoi darlun gwahanol iawn. Beth am godi copi o un o’r adroddiadau hanesyddol hyn heddiw, a phenderfynu drosoch eich hun?
Wedi’r cyfan, dywedodd Iesu ‘Dw i wedi dod i roi bywyd yn ei holl gyflawnder’
Dywedodd Iesu...
“Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy’n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi.” Ioan 6:35
“Myfi yw goleuni’r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.” Ioan 8:12
“Myfi yw’r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw’n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.” Ioan 10:9
“Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.” Ioan 10:11
“Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?” Ioan 11:25-26
“Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” Ioan 14:6
“Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r gwinllannwr. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw’n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.” Ioan 15:1-2
Heb os nac oni bai mae Iesu yn honni ei fod yn Dduw arnom a thrwy ei farw a’i atgyfodi mae’n talu’r pris am ein drygioni ac yn concro pechod a marwolaeth gan ddod â ni yn ôl i berthynas gyda Duw. Dyma yw gwir ystyr bywyd.
I ymateb, rhaid i ni sylwi ein bod yn elynion i Dduw a gofyn am faddeuant.
Mae Iesu yn derbyn pawb sy’n troi ato.
Os hoffech dderbyn copi am ddim o lyfr Ioan am Iesu, cysylltwch gyda steffanjob@emw.org.uk
Comentarios