top of page
HOLI

Gwahoddiad i Briodas

Updated: Apr 2, 2020

Mae fy mrawd yn paratoi i briodi. Yn ddiweddar fe aeth Matthew a Beth i gael sesiwn blasu gyda’r chef sydd yn coginio ar y diwrnod. Mae’r wledd am fod yn rhywbeth sbesial gyda cymysgedd o fwyd indïaidd a thraddodiadol – dwi erioed wedi cael samosa mewn priodas o’r blaen ond mae’n sicr yn swnio’n well na vol-au-vent.


Dwi’n siŵr eich bod yn cytuno – er bod gwasanaethau priodas yn hyfryd ac areithiau’r best man yn ddoniol (weithiau) – mai’r peth gorau (i’r gwesteion) mewn priodas yw’r bwyd! Mae derbyn gwahoddiad i briodas yn gret gan fod rhywun yn derbyn bwyd posh a blasus, a hynny am ddim. Pwy bydde’n troi lawr y fath wahoddiad?!


Y stori

Adroddodd Iesu stori am rai dderbyniodd wahoddiad i barti priodas. Roedd mab y brenin yn priodi ac felly dyma’r brenin yn danfon ei weision i wahodd rhai i’r wledd fawreddog. Yn disgwyl am bob un o’r gwahoddedigion roedd gwledd rhyfeddol, un a oedd yn addas i frenin, ac nid oedd yn rhaid iddynt boeni am beth i wisgo gan fod y brenin wedi trefnu i bawb dderbyn gwisg newydd smart wrth gyrraedd y wledd. A fydde chi’n gwrthod y fath wahoddiad?


Dyma’r stori a ddywedodd Iesu:


“Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i’w fab. Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw’n gwrthod dod.
“Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae’r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i’r wledd!’
“Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i’w faes, ac un arall i’w fusnes. Yna dyma’r gweddill yn gafael yn y gweision a’u cam-drin nhw a’u lladd. Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.
“Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy’n mynd allan o’r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i’r wledd.’ Felly dyma’r gweision yn mynd allan i’r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a’r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.
“Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim yn gwisgo dillad addas i briodas. ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai’r dyn ddim ateb.
“Yna dyma’r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a’i draed, a’i daflu allan i’r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.’
“Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy’n cael eu dewis.” - Mathew 22

Mae rhai o’r gwahoddedigion yn anwybyddu’r gwahoddiad ac mae un yn rhy brysur ar y fferm ac un arall yn amlwg yn ddyn busnes prysur. Yn amlwg doedd dim amser ganddynt i’w roi i’r brenin na’i fab - hyd yn oed ar ddiwrnod mor bwysig. Rydym yn gweld ymateb mwy eithafol gan eraill - mae nhw’n camdrin ac yn lladd y rhai a ddaeth â’r gwahoddiad.


Stori â phwrpas

Adroddodd Iesu y stori hon gan fod pob un ohonom ni wedi ein gwahodd i wledd a dathliad mawr. Mae gan bob un ohonom ni wahoddiad i ddod i adnabod Duw y brenin, ac i ddathlu gyda ei Fab Iesu Grist – dathliad o nawr hyd ddiwedd amser. Mae hwn yn wahoddiad real i fyw a phrofi holl gariad, trugaredd a bendithion y brenin, a’r cwestiwn, neu’r her i ni yw sut ydyn ni am ymateb - beth fydd eich RSVP chi?


Mae’r Beibl yn aml yn defnyddio’r darlun o briodas i ddisgrifio y gwaith mae Iesu wedi’i wneud yn y byd. Allan o gariad, dewisodd Iesu ddod a marw ar groes yn ein lle, i gymryd ein cosb am fyw gan anwybyddu Duw. Daeth yn ôl yn fyw ac mae’n cynnig maddeuant i ni a’r cyfle i fyw mewn perthynas gyda Duw nawr ac am byth.


Mae adnabod Duw fel bod mewn gwledd rhyfeddol. Ef sydd wedi’n creu ni, mae’n ein deall ni ac ohono Ef y daw pob dim da. Mae’n rhoi sail a sicrwydd i fywyd, ac mae’n rhoi gobaith rhyfeddol i wynebu marwolaeth yn gadarn.


Mae’r beibl yn esbonio bydd pob un ohonom un diwrnod yn sefyll o flaen y priodfab, Iesu Grist. Y fath drasiedi fydde sefyll yna wedi dewis bod yn rhy brysur, neu wedi ymgolli ym mhopeth arall heb dderbyn ei faddeuant ef.


Ydych chi am dderbyn y gwahoddiad? Y gwirionedd trist yw mewn rhai gwledydd o’r byd mae yna bobl yn cael eu cam drin a’u lladd am wahodd pobl i wledd Iesu Grist. Ond beth amdanoch chi? Ydych chi’n rhy brysur yn eich gwaith, neu’n credu y medrwch fyw heb Dduw, yr un sydd wedi’n creu ni?


Fel yn stori Iesu mae’r gwahoddiad mae Duw yn ei estyn yn wahoddiad i ddathliad sydd wedi cael talu amdano gan rywun arall. Yng Nghymru y briodferch sydd yn trefnu’r briodas i gyd, ond nid felly y mae hi gyda gwahoddiad Duw. Ef sydd wedi gwneud y gwaith i gyd - mae Iesu yn cynnig ei faddeuant i ni er mwyn i ni allu cerdded i mewn i’r wledd gyda phawb arall sydd wedi dod a derbyn ei drugaredd.


Ydych chi’n sylweddoli yn y stori fod maddeuant Duw yn cael ei gynrychioli gan y dillad newydd smart sy’n cael eu rhoi mas ar y ffordd i mewn i’r wledd? Mae dillad newydd ei faddeuant yn gorchuddio hen garpiau ein brynti a’n calonnau drwg ni. Rhaid sylwi nad oes modd i’r un ohonom wynebu Duw yn ein cyflwr drwg ni - yn y stori mae un dyn yn gwrthod y dillad am ei fod e’n credu ei fod e’n digon da yn barod. Does dim hawl ganddo i fynychu’r wledd.


Dydyn ni ddim yn gallu dod at Dduw yn credu ein bod ni’n ddigon dda, i fod yn onest mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn gwybod nad ydym yn ddigon da. Ond mae Iesu Grist yn cynnig maddeuant i ni a rhan yn y wledd ryfeddol o fod mewn perthynas â Duw.


Sut ydyn ni am ymateb? Colli’r gwahoddiad lawr cefn y soffa, penderfynu ein bod ni’n rhy brysur, neu dderbyn a mwynhau gwledd dragwyddol gyda Duw am fod Iesu Grist wedi talu am y cwbl yn ein lle?


- John Derek Rees

3 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page