top of page
  • HOLI

Y frwydr yn erbyn masnachu pobl a chaethwasiaeth yng Nghymru

Updated: Mar 31, 2020

Gall yr hyn a welwn ein twyllo. Dyma fi yn un o siopau coffi trendi Stryd y Frenhines, Caerdydd yn aros i gyfarfod a dyn sy’n rhan o’r gwaith atal caethwasiaeth yn Ne Cymru. Ers camu oddi ar y trên rwy’n ymwybodol o buzz y brifddinas - siopau a llefydd bwyta, perfformwyr ar y stryd, posteri am gyngherddau ym mhob man (mae’r Rolling Stones yn chwarae heno) a miloedd o bobl yn byw eu bywydau prysur. Tra’n edrych allan o’r ffenestr rwy’n teimlo’n falch o weld ein prifddinas yn datblygu a thyfu. Wrth eistedd yn fy chinos cyfforddus a’m crys smart mae’r drws yn sydyn agor ac i mewn y daw Dai Hankey - fedrwch chi ddim ei fethu, jîns llac, crys-t, pen wedi’i eillio a thatŵs dros ei freichiau. Mae’n edrych mai fi yw’r gweinidog i bawb sy’n syllu arnom - ond  fel y dywedais - gall yr hyn a welwn ein twyllo.

Rydym yn ysgwyd llaw, mae’n archebu ei fflat gwyn yn ei acen Pontypwl - Masnach deg o Rwanda - ac rydym yn eistedd i lawr am y cyfweliad. Roeddwn wedi clywed fod Dai, Michelle a’r plant wedi symud yn ôl i Gaerdydd o Bontypwl i gychwyn elusen ac eglwys newydd ac roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn oedd yn mynd ymlaen...

Diolch am roi’r amser i gyfarfod, dwi’n gwybod dy fod yn brysur, ond roedd yn rhaid i mi weld beth oedd yn mynd ymlaen.

Dim problem, dwi bob tro yn hapus i siarad am yr elusen ac i godi ymwybyddiaeth am y gwaith.

Felly gad i ni gychwyn yn y cychwyn - rwy’n gwybod fod pethau yn mynd yn dda ym Mhontypwl, felly pam dod yn ôl i Gaerdydd a beth wyt ti’n ei wneud yma?

Roedd yn mad. Doedd dim diddordeb gen i mewn symud ond un bore wrth i mi arwain gwasanaeth Cristnogol mi ges i’r sicrwydd mod i’n cael fy ngalw i symud nôl i Gaerdydd i helpu gyda’r rhai oedd wedi eu dal yn y diwydiant rhyw. Roedd hynny yn 2012 a dyma ni, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach wedi cychwyn yr eglwys ac elusen yng nghanol y ddinas.

Dywed ychydig wrthym ni am yr elusen.

Dyma ni’n cychwyn Red:Community ar ôl cymryd amser i weddïo a cheisio dysgu beth oedd angen digwydd yng nghanol Caerdydd. Roedd gennyf ychydig o brofiad o weithio mewn ardaloedd anodd yn y cymoedd, ond roedd hyn yn rhywbeth hollol newydd ac roeddwn yn ymwybodol iawn fod gennyf gymaint i ddysgu a doeddwn i ddim am ddyblygu rhywbeth oedd rhywun arall yn ei wneud. Dyma ni’n treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn gyntaf yn cyfarfod pobl ac yn gweddïo - yn cael ein haddysgu am y sefyllfa.

Fe wnaethom sylweddoli yn sydyn iawn fod yna broblem fawr gyda masnachu a chaethwasiaeth fodern ac roedd y cyfan yn distrywio bywydau. Roedd y bobl wedi eu dal ac mewn anobaith llwyr, felly dyma ni’n chwilio am ffyrdd i helpu. Dyna sut gychwynnodd yr elusen.

Mi soniaist ti am gaethwasiaeth, ac i fod yn onest y syniad sy’n dod i’m meddwl i yw rhywbeth oedd yn digwydd cannoedd o flynyddoedd yn ôl, yw e yn broblem heddiw... yng Nghymru?

Mae’n anferth. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae yna 46 miliwn o gaethweision yn y byd heddiw - mwy nag ar unrhyw bwynt arall mewn hanes. Dyma’r diwydiant troseddol sy’n tyfu cyflymaf yn y byd. Maen nhw’n dweud fod rhywun yn dod yn gaethwas bob 30 eiliad ac mae’n effeithio pob gwlad, gan gynnwys Cymru. Mae Gogledd Cymru yn le gwael gan fod cysylltiadau mor hawdd drwy Gaergybi o Iwerddon - mae mor hawdd i gael i mewn drwy’r porthladdoedd. Dwi’n gwybod fod pobl yn meddwl mai dim ond problem yn y puteindai yw e yng Nghaerdydd, ond dim ond rhan fach o’r broblem yw hynny.

Beth wyt ti’n ei weld a’i glywed felly?

Mae pobl yn cael eu masnachu a’u caethiwo am bob math o resymau. Y diwydiant rhyw yw’r un y mae’r mwyafrif o bobl yn ymwybodol ohono, ac mae’n broblem fawr, ond mae pobl yn cael eu caethiwo mewn ffyrdd eraill. Mae’r ochr droseddol lle caiff rhai eu defnyddio i dyfu cyffuriau, dwyn o bocedi a thorri’r gyfraith mewn ffyrdd eraill. Rwyt ti hefyd yn gweld pobl yn cael eu caethiwo mewn bariau ewinedd, llefydd golchi ceir ac er mwyn gwneud llafur gorfodol. Clywais am le yn ddiweddar yn y gogledd lle’r oedd dynion ym mlaen yr adeilad yn golchi ceir a tra’r oedd y cwsmeriaid yn aros, roedd modd iddynt fynd i’r cefn i dreulio amser gyda phutain - mae’n erchyll. Gall pobl gael eu caethiwo fel gweision neu forynion mewn tai lle y mae disgwyl iddynt wneud unrhywbeth, o lanhau i weithredoedd rhywiol. Un o’r materion gwallgof yr ydym yn dechrau dod yn ymwybodol ohono yw lle y caiff pobl eu caethiwo er mwy gwerthu eu horganau! Mae’n ofnadwy ac yn hollol anghyfiawn.

Felly rwyt yn dweud fod llawer o hyn yn digwydd. O ble y daw’r bobl yma?

Mae llawer o bobl yn dod o Brydain, yn arbennig os ydynt wedi bod yn y system gofal - cant eu symud o un rhan o’r wlad i ran arall. Rydym yn gweld pobl o bob rhan o’r byd yng Nghaerdydd. Mae gan Albania rai gangiau troseddol gwael iawn ac felly rydym yn gweld llawer o ferched o Albania, ond rydym hefyd yn gweld pobl o Nigeria, Tsieina a Fietnam, i enw dim ond rhai. Gallant fod yn ddynion neu ferched, hen neu ifanc. Mae’r peth yn hollol anghywir. Yn aml nid yw’r bobl yma wedi eu cloi mewn adeilad, gallant fod yn cerdded y stryd, neu’n byw mewn tŷ heb glo ar y drws; mae mor greulon.

I rywun fel fi, sydd wedi byw bywyd dosbarth canol Cymreig mae’n anodd deall sut y gall hyn ddigwydd. Sut mae pobl yn cael eu caethiwo yn y ffordd yma - fedran nhw ddim cerdded i ffwrdd?

Mi ro’i enghraifft i ti. Dychmyga fod yna ferch ifanc fregus sy’n dechrau mynd allan gyda dyn. Mae’n dweud ei fod yn ei charu ac mae hi’n disgyn mewn cariad gyda fe, ond yna mae’n dweud fod ganddo ddyledion a’i fod mewn trafferth gyda’r rhai sydd wedi rhoi’r benthyciad iddo. Fe fyddai’n naturiol iddi ofyn a fedrai hi ei helpu, ac fe fyddai e’n dweud rhywbeth fel ‘efallai os byddet ti dim ond yn cysgu gyda rhai pobl fe allem ni wneud arian a sortio’r cwbl allan’, ac mae hi’n gwneud hynny i helpu. Yn sydyn, nid cariadon ydan nhw bellach ond putain a ‘pimp’.

Ond pam na wnaiff hi gerdded i ffwrdd?

Mae gymaint o resymau pam na allai hi wneud hynny. Yn aml, byddai’r dyn yn bygwth ei chywilyddio o flaen ei theulu neu hyd yn oed i anafu ei pherthnasau a’u plant. Mae mor wyrdroëdig oherwydd fe fydd hi’n parhau i wneud e, er mwyn amddiffyn ei theulu - mae bron yn dod yn rhywbeth rhinweddol. Mewn ffordd real iawn mae hi wedi ei chadwyno gan ofn.

Mae pobl hefyd wedi eu dal gan ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, sefyllfa o ofn (intimidation), trais, rhesymau ariannol neu mae llawer o’r bobl yn y fath ofn nad ydynt yn gwybod at bwy i droi. Mae llawer sydd wedi eu cludo o wledydd eraill wedi dod i Brydain gyda’r addewid o waith ac arian, ac unwaith maent yma, yn aml heb ganiatâd, nid oes modd iddynt fynd i unrhyw le arall.

Felly rwyt ti yn achub y bobl yma a’u symud i lefydd saff?

Na, dydyn ni ddim yn gwneud gwaith achub uniongyrchol gan nad ydym erioed wedi bod yn y sefyllfa i wneud hynny. Rydym wedi gorfod meddwl am ffyrdd mwy effeithiol o helpu. Dyna pam gychwynnodd yr elusen. Mae ganddom dri amcan:

Yn gyntaf rydym am godi ymwybyddiaeth o’r broblem. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal caethwasiaeth a masnachu pobl. Mae’r diwydiant yn gweithio yn y cysgodion, ond drwy godi ymwybyddiaeth rydym yn goleuo’r cyfan. Wrth i’r cyhoedd ddod yn ymwybdol o’r peth gwelwn fod y cyfleoedd i’r bobl yma gael eu defnyddio yn lleihau. Mae’r problemau yn cael eu darganfod yn gynt ac mae mwy o arian yn cael ei godi i helpu’r rhai sy’n dioddef. Mae gyda ni weithiwr ‘Impact’ sy’n ymweld ag ysgolion a digwyddiadau cymunedol i siarad am y sefyllfa. Rydym hefyd wedi creu ffilmiau ac adnoddau gydag arian gan yr heddlu.

Yn ail, credwn mewn gweithredu. Golyga hyn ein bod yn gweithio’n agos gydag asiantaethau gofal a’r heddlu i helpu lle y medrwn. Rydym wedi cychwyn prosiect o’r enw ‘Embrace’ lle’r ydym yn darparu grantiau mewn argyfwng i bobl - yn aml does gan ferch sydd wedi ei hachub ddim dillad a phethau eraill, felly rydym yn rhoi arian iddi fedru prynu pethau angenrheidiol a theganau i’r plant ayyb. Mae gennym hefyd y prosiect cyfeillgarwch Embrace sy’n dangos arwyddion calonogol iawn ar hyn o bryd. Yn syml, mae’r rhai sydd wedi eu hachub yn fregus iawn ac angen cymorth i ail-adeiladu eu bywyd a dod yn rhan o’r gymdeithas unwaith eto. Beth maent ei angen yn fwy na dim yw ffrind gwirioneddol, a dyna beth ydym yn hyfforddi Cristnogion lleol i wneud. Drwy hyfforddiant a chynhaliaeth ofalus rydym yn cysylltu ‘cyfaill’ gydag un o’r rhai sydd wedi goroesi caethiwed. Byddant yn cyfarfod o leiaf yn wythnosol gan ddatblygu perthynas lle y gellir rhoi anogaeth, cyfeillgarwch a chymorth. Mae hyn y digwydd o dan amgylchiadau tyn iawn, ond mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rwyf hefyd yn bartner mewn cwmni rhostio coffi newydd o’r enw Manumit. Nid yw’r cwmni yn rhan o’r elusen, ond fe’i cychwynnwyd er mwyn helpu’r rhai a gafodd eu hecsbloetio yn y diwydiant caethwasiaeth drwy roi hyfforddiant, gwaith a chynhaliaeth iddynt.

Y trydydd peth yr ydym yn ei wneud yw annog gweddi am y sefyllfa drwy ein cysylltiadau gydag eglwysi Cymru - rydym yn hollol grediniol fod gweddi yn gweithio yn y sefyllfa yma.

Felly yw e’n gweithio?

Ydi. Dwi newydd gael neges destun gan ffrind a gafodd ei hachub rhai blynyddoedd yn ôl - mae hi bellach yn gweithio, ac yn dod i’r eglwys ac mae ei bywyd wedi trawsnewid yn llwyr. Mae hi’n gyrru’r negeseuon yma i bawb yn yr eglwys bob wythnos er mwyn ein hannog gydag adnodau o’r Beibl. 

Mae’n amlwg fod Cristnogaeth yn bwysig i ti. Ai dim ond gyda Christnogion yr ydych yn gweithio - neu oes rhaid i bobl ddod i’r eglwys i dderbyn cymorth?

Na, rydym yn gweithio gydag unrhywun, ac nid ydym yn disgwyl dim yn ôl - mae’r bobl yma wedi torri ac angen cymorth. Nid oes rhaid i bobl ddod i’r eglwys, darllen y Beibl na gwneud unrhywbeth i dderbyn cymorth parhaol. Rydym yn gweithio gyda Mwslemiaid, aelodau o’r gymuned LGBT a phobl sydd heb unrhyw ddiddordeb mewn Cristnogaeth. Wyt ti’n cofio’r hanes yn y Beibl am Iesu yn helpu’r deg dyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf? Wyt ti’n cofio beth wnaethon nhw? Dim ond un ddaeth yn ôl i ddiolch i Iesu, dyma naw yn mynd i ffwrdd, a cyn belled ag y gwyddem ni, wnaethon nhw erioed siarad gydag Iesu eto, ond dyma fe’n eu hiachau er gwaethaf y cyfan. Nid yw ein cymorth yn ddibynnol ar ymateb unrhywun.

Felly pam wyt ti’n gwneud hyn? Fe allet ti fod yn gweithio o ddiogelwch swyddfa esmwyth mewn eglwys fawr mewn rhyw ardal gefnog yng Nghaerdydd. Ond mi rwyt ti a Michelle wedi symud i’r ardal yma i fyw gyda’r bobl - mae eich plant yn mynd i’r ysgol leol ac rwyt wedi cychwyn eglwys yng nghanol y problemau.

Nid ydym ni yn wahanol nac yn well na neb arall. Yn y diwedd rydym am weld pobl yn cael eu gwneud yn rhydd oherwydd ein bod ni wedi cael ein rhyddhau o gaethiwed.

Mi ddes i yn Gristion gan fy mod wedi sylweddoli mod i’n gaethwas - doeddwn i ddim mewn cadwyni mewn ffordd amlwg ond roeddwn wedi fy nghaethiwo i bechod. Roeddwn yn hunanol, yn flin, yn llawn chwant ac yn falch. Doeddwn i ddim yn byw fel yr oedd Duw am i mi fyw ac roeddwn felly o dan gondemniad Duw, ond fe wnaeth Duw fy rhyddhau. Gwelais fod Iesu wedi marw er mwyn derbyn y gosb yr oeddwn i’n ei haeddu a thrwy ddod yn ôl yn fyw roedd wedi concro marwolaeth - peth sy’n caethiwo pob un ohonom yn y diwedd. Mi wnes i drystio Iesu a rhoi fy mywyd iddo a phrofi’r rhyddhad mwyaf rhyfeddol. Fel Cristion rwy’n hollol rydd i ddilyn Duw a dyma’r peth mwyaf anhygoel erioed. 

Mae Duw wedi trawsnewid y sefyllfa mwyaf anobeithiol yn fy mywyd i mewn i rywbeth prydferth a dyna pam fod gennyf yr holl angerdd i drawsnewid y sefyllfa erchyll o gaethwasiaeth a masnachu yma yng Nghymru. Does gennyf fi ddim cywilydd i ddangos mod i’n Gristion, ac Iesu yw’r person pwysicaf yn fy mywyd. Rydym yn gweithio gydag Eglwysi ac mae ein holl weithwyr yn Gristnogion. Mae hyn mor effeithiol oherwydd ein bod i gyd wedi profi rhywbeth mor arbennig. Ti’n gweld, mae bod yn Gristion yn golygu dy fod yn rhydd. Rhan o’r Beibl mae Duw wedi ei ddefnyddio i fy helpu gyda hyn yw Salm 124. Dyma fy nhystiolaeth bersonol a fy ngweddi dros eraill:

‘Yr ydym wedi dianc fel aderyn o fagl yr heliwr; torrodd y fagl, yr ydym ninnau’n rhydd.’

Rwyf weithiau’n dymuno na fyddem yn gwybod rhai o’r pethau yr wyf nawr yn ymwybodol ohonynt. Yn naturiol mae gennyf obeithion a breuddwydion dros y plant a’r bywyd rwyf am ei roi iddynt, ond rwyf am iddynt weld yn fwy na dim nad yw eu tad a’u mam yn llyfrgwn. Fedrwn ni ddim anwybyddu’r bobl o’n cwmpas sydd angen cymorth a fedrwn ni ddim diffodd yr alwad y mae Duw wedi ei roi i ni ddod i weithio yma. Mae’n fraint ryfeddol i gael bod yn rhan o’r gwaith yma ac i weld pobl yn cael eu rhyddhau o sefyllfa anobeithiol i mewn i rywbeth prydferth. Dyna mae Duw yn ei wneud bob tro.

2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page