top of page
HOLI

GWYRTH NADOLIG (GWEITHIWR NHS)


Rydyn ni gyd yn llawn edmygedd o weithwyr yr NHS a’u gwaith rhyfeddol, ac mae hynny’n sicr yn wir am y staff hynny sydd ar y llinell flaen, rhai fel Megan Morris sy’n gweithio fel nyrs yn uned gofal brys Ysbyty Gwynedd Bangor. Go brin y byddech yn ymwybodol o’r brwydrau y mae Megan wedi gorfod eu hymladd o edrych arni heddiw. Mae yna gryfder ym mêr esgyrn y ferch ifanc o Drawsfynydd, ac mae hi wedi teithio’n bell iawn ers y ddamwain car erchyll a ddioddefodd yn ôl yn 2012. Doedd neb yn disgwyl iddi fyw wrth iddi orwedd mewn coma yn Ysbyty Stoke – ac eto dyma hi, nid yn unig yn fyw, ond yn helpu eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg! Mae’r daith wedi bod yn hir a rhyfeddol a gellir darllen mwy am hyn mewn erthygl flaenorol sydd ar ein gwefan, ond rydym yn ddiolchgar iddi am rannu ychydig am y misoedd diwethaf a’i gobeithion am y Nadolig.


Diolch am siarad, y tro diwethaf i ni dy gyfweld roeddet ti wedi cychwyn ar gwrs nyrsio.


Ie, roeddwn yn astudio nyrsio yn Southampton a dwi bellach wedi graddio, wedi priodi Siôn a symud nôl i’r Gogledd - tystiolaeth eto o iachâd cyflawn Duw yn fy mywyd. Rydym yn byw yng Nghaernarfon a dwi’n gweithio fel nyrs. ‘Dwi wrth fy modd efo’n swydd ond mae’n rhaid i mi ddeud nad oeddwn yn disgwyl pandemig byd-eang yn fy mlwyddyn gynta!


Pa effaith mae Cofid-19 wedi ei gael arnat ti?


Fel pawb arall dwi’n siŵr, mae Cofid wedi amharu ar bob agwedd o fywyd. Un o’r pethau mwyaf anodd oedd peidio gweld teulu na ffrindiau am wythnosau ond roedd y tywydd braf, y ffaith fod cymaint o bethau i wneud yng Ngogledd Cymru, a thechnoleg yn gymaint o fendith! Creodd y cyfnod cyntaf ansicrwydd a newidiadau mawr, yn enwedig yn fy swydd fel nyrs. Dw i’n dal heb ddod i arfer efo gwisgo mwgwd am ddeuddeg awr ond, wedi dweud hynny, dwi wedi dod i arfer efo’r mwyafrif o newidiadau erbyn hyn. Dwi wedi dysgu cymryd pob diwrnod a phob wythnos, fel mae’n dod. Does gen i ddim rheolaeth dros beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, ac o brofiad fy namwain, mae ‘na ryddid a heddwch mawr i’w cael o wybod mai Duw sy’n rheoli.


Rwyt ti’n amlwg wedi dod dros effeithiau’r ddamwain i raddau helaeth – beth yw’r rhai o’r pethau ‘rwyt wedi eu dysgu ac sydd wedi bod o help i ti?



Mae’n amhosib mynd drwy brofiad mor eithafol ag y gwnes i, fel methu siarad na bwyta a misoedd yn yr ysbyty, heb iddo eich newid yn sylfaenol, a’r peth mwyaf newidiodd oedd fy agwedd tuag at fywyd.

Mae gwybod fod Duw wedi fy achub a rhoi ail gyfle i mi wedi rhoi pwrpas a chymhelliad dwfn i fyw fy mywyd yn gwasanaethu Iesu. Cyn fy namwain roeddwn wedi dechrau rhedeg i ffwrdd oddi wrth Dduw, ond dwi’n gwybod fod y ddamwain wedi digwydd am reswm - dwi’n fwy diolchgar rŵan. Dw i’n teimlo hefyd fy mod yn gallu bod yn ddefnyddiol i Dduw. Gobeithio bod y profiadau a’r hyn y gwnes ei ddysgu fel claf yn help i’m gwneud yn nyrs well, ac yn fwy abl i helpu eraill!

Yn fwy na dim, mae’n rhaid i mi roi’r diolch i Dduw. Ef sydd y tu ôl y cyfan, ac mae’n fraint ei fod wedi fy newis i ddangos pa mor fawr a rhyfeddol yw Ef - mae’n dal i wneud gwyrthiau heddiw, ac mae wedi rhoi Iesu i farw drosof ar y groes. Mae’r profiad yma yn mynd i fod gyda mi am byth a faswn i ddim yn newid dim gan mai dyna sy wedi siapio pwy ydw i heddiw.


Diolch. I orffen beth wyt ti’n edrych ymlaen ato dros y Nadolig eleni?


Mewn llawer ffordd, dwi’n teimlo fod effeithiau Cofid arnom wedi ein gorfodi i stopio ac ail-asesu pethau. Mae wedi dangos mewn gwirionedd beth sydd wir yn bwysig mewn bywyd. Mi fues i mewn priodas ychydig wythnosau yn ôl ac er mai dim ond y gwasanaeth oedd yn cael ei ganiatáu, a dim gwledd na pharti, doedd hynny ddim yn broblem. Roedd beth oedd yn bwysig yn aros; sef cariad dau berson at ei gilydd a Duw yn eu huno mewn priodas.

Dyna ydi fy ngobaith i ar gyfer Nadolig eleni. Fod y ‘trimins’ yn cael eu rhoi heibio a’n bod yn gweld gwir bwysigrwydd y Nadolig – fod Iesu wedi dod i’r byd fel babi er mwyn ein hachub, i ni drysori amser gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru a gweld popeth sy’n ychwanegol fel rhodd o haelioni Duw.


Darllen mwy am hanes Megan ar ein gwefan: yma


7 views0 comments

Recent Posts

See All

Комментарии


bottom of page