Dyma Feibl Annwyl Iesu... Tynna'r goes arall!
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae’r farchnad lyfrau yn werth £3.5 biliwn i’r DU - mae hynny yn lawer o lyfrau! Yng nghanol yr holl lyfrau a ysgrifennwyd ac a werthwyd erioed mae’r Beibl yn parhau i fod ar y brig, ond beth am Gymru heddiw? I bob golwg mae Cymru wedi disgyn allan o gariad gyda’r best-seller hwn. I lawer mae’n hen ffasiwn, i eraill mae’n amherthnasol ac i eraill mae’n annibynadwy, hyd yn oed yn beryglus yn ein hoes oleuedig ni.
Fel Cristnogion rydym yn credu fod y Beibl yn air Duw a’i fod yn hollol wir. Ond oes tystiolaeth dros gredu hynny?
Yma rydym yn holi Alun Thomas, yn wreiddiol o Gaergybi, ond sydd wedi astudio mewn nifer o brifysgolion yn dysgu am y Beibl a’i hanes.
Diolch am siarad gyda ni. Fedri di gychwyn drwy sôn ychydig am dy gefndir a sut gychwynnodd y diddordeb?
Ces i’n magu yng Nghaergybi a dyna lle gychwynnodd y diddordeb - dwi’n cofio fy mrawd yn rhoi Beibl i mi pan oeddwn i tua deuddeg. Mi ddechreuais ei ddarllen ac mi roeddwn wedi’n rhyfeddu gyda’r cynnwys. Dyma lyfr oedd wedi ei ysgrifennu dros gannoedd o flynyddoedd, gan bobl wahanol ond mi roedd yna naratif clir yn datblygu drwyddo, ac mi roedd mor onest am bobl.
Gwyddoniaeth a Mathemateg oedd y pynciau oeddwn i’n mwynhau yn ysgol ac fe es i Gaergrawnt i astudio. Roedd rhan gyntaf y radd mewn Gwyddoniaeth Naturiol ac yna pan gefais y cyfle i fynd ymlaen gyda Hebraeg, dilynais yr ail ran mewn Diwinyddiaeth. Ar ôl derbyn fy ngradd, treuliais amser yn Jerwsalem yn dysgu Hebraeg modern. Yna draw i Durham i wneud gradd meistr mewn Aramaeg (un o ieithoedd hynaf y byd). Rwyf ar hyn o bryd newydd gyflwyno doethuriaeth ym Mhrifysgol Dulyn gan arbenigo ar edrych ar rai o’r cyfieithiadau Aramaeg hynaf o’r Hen Destament.
Byddai llawer o bobl yn synnu i glywed dy fod yn cyfuno’r ffeithiol (y cefndir gwyddonol) gydag astudio’r Beibl sy’n cael ei weld gan gymaint fel llyfr ffuglen. Wyt ti’n cael dy synnu gydag agwedd pobl tuag at y Beibl yng Nghymru?
Ydw, mae o’n fy synnu i ryw raddau. Mae llawer o bobl yn edrych ar y Beibl ac yn mynnu ei fod yn llyfr sydd wedi ei wneud i fyny ac yn llawn o bethau sydd ddim yn wir. Yna mae gen ti’r ochr arall, sy’n credu fod y Beibl yn ryw fath o lyfr lle y medrwch chi wneud beth bynnag fynnwch chi gyda fe - ei ddehongli a’i ddefnyddio o’i safbwynt nhw eu hunain. Mae’n bwysig cydnabod fod gennym ni gyd ragdybiaethau, ond mae’n rhaid ceisio gwneud ein gorau i ddeall cynnwys y Beibl cyn dod i benderfyniad beth yw’n hagwedd ni tuag ato. Dyma pam fod tystiolaeth hanesyddol, fel iaith a sgiliau dehongli mor bwysig.
Nid ddylem gymryd y Beibl yn ysgafn yng Nghymru. Mae ei effaith ar ein gwlad wedi bod yn sylweddol. Beibl William Morgan wnaeth safoni’r iaith Gymraeg, ac mae olion hynny i’w gweld heddiw yn ein hiaith ac mewn agweddau eraill o fywyd boed ym myd y Gyfraith neu yn ein gwyliau Nadolig a’r Pasg. Ond mae’n bwysig cofio nad cynnyrch diwylliannol ein cenedl ni yw’r Beibl. Cafodd y Beibl ei hysgrifennu cannoedd o flynyddoedd yn nôl mewn Hebraeg, Groeg ac ambell o ddarn mewn Aramaeg. Mae siŵr dyma lle mae fy niddordeb a chefndir mewn gwyddoniaeth yn gymorth - dwi eisiau gwybod y gwir amdano gan ei ddadansoddi a’i ddeall yn yr ieithoedd cafodd ei ysgrifennu.
Felly, fyse ti’n dweud fod y Beibl yn wir?
Yn sicr. Mae yna sawl ffordd y medrwn ni fynd ati i ateb y cwestiwn yma. Byddai modd gweld i ba raddau mae’r Beibl yn efelychu cefndir hanesyddol, cymdeithasol ac archeolegol y dwyrain agos - mae nifer o bobl wedi gwneud hynny. Dwi wedi rhoi rhestr o lyfrau ac adnoddau ar waelod yr erthygl sy’n rhoi mwy o’r dadleuon hyn. Ond gan fy mod i wedi ymchwilio mwy i’r testun a’r iaith, mi geisiaf ateb y cwestiwn o’r ochr yna. Cwestiwn cyson oedd yn codi yn fy ymchwil oedd i ba raddau allwn ni ymddiried fod y Beibl sydd ganddom ni yn ein meddiant heddiw’r un peth a’r hwn oedd dilynwyr Iesu yn ei ddefnyddio. Yw e wedi ei newid?
Mae nifer wedi honni bod y Beibl wedi newid yn gyfan gwbl dros y blynyddoedd. Mae’n gwestiwn teg ac felly mae angen gofyn i ba raddau allwn ni ddibynnu ar y Beibl sydd gennym heddiw. Mi fedrwn wneud hyn drwy edrych ar y llawysgrifau sydd ganddom ni a’u cymharu i weld a oes yna amrywiadau rhyngddynt. O gymharu gwahanol lawysgrifau dros gannoedd o flynyddoedd mae rhywun yn gweld os yw’r Beibl wedi newid.
Fydde ti’n dweud bod y Beibl wedi newid?
Cymerwch y Testament Newydd fel enghraifft, o’i gymharu gyda dogfennau hynafol eraill mae yna nifer fawr o lawysgrifau o rannau ohono. Mae tua 24,000 i gyd - 5,900 yn y Groeg (sef iaith wreiddiol y Testament Newydd), 10,000 yn y Lladin a tua 9,000 o lawysgrifau mewn cyfieithiadau cynnar eraill fel Copteg, iaith Ethiopia, a Syrieg.
Mae’n ddiddorol, rydym yn aml yn ffeindio gwahaniaethau, rhai bach fel arfer (fel sillafu), sydd yn digwydd wrth i bobl gopïo neu gyfieithu, sydd yn hollol ddealladwy dros ganrifoedd o flynyddoedd. Ond rydym yn medru cymharu’r cyfan a gweld pam fod yr amrywiaethau yma wedi datblygu - dyna pam fod gwaith academaidd mor bwysig, er mwyn gweld pam fod yr amrywiadau yma wedi datblygu.
Hefyd, wrth gyfieithu o un iaith i’r llall, mae’n hawdd i rai pethau newid, er enghraifft mae Beibl King James (1611) yn cyfieithu ‘Dywedodd Ef’ fel ‘Dywedodd Iesu’, neu efallai wrth gyfieithu caiff gair sydd yn bresennol yn y testun Groeg ei hepgor yn y cyfieithiad oherwydd gofynion yr iaith mae’r testun yn cael ei gyfieithu iddi. Ond wrth fynd ati i edrych ar yr holl dystiolaeth mae modd darganfod y newidiadau yma’n rhwydd a sicrhau ein bod yn defnyddio’r testun cywir.
Mae’r llawysgrif hynaf o’r Hen Destament cyfan, sef y Codex Leningradensis, yn dyddio i tua 1000 O.C. Yn y 1940au dyma rhai pobl yn darganfod llwyth rhyfeddol o hen lawysgrifau sy’n dyddio o’r ail ganrif C.C. i tua 70 O.C. Ymhlith y rhain roedd copi o lyfr Eseia. Gelwir y copi yma yn ‘Great Isaiah Scroll’ gan ei fod dros 24 troedfedd o hyd. Mae’r testun yma yn agos iawn i’r hyn rydym yn weld mewn testunau Hebraeg diweddarach yn y traddodiad Masoretaidd - sori braidd yn dechnegol! Wrth gymharu’r holl dystiolaeth rydym yn gweld fod y Beibl sydd gennym heddiw yn ddibynadwy iawn.
Un ddadl dwi’n clywed yn aml yw na all y Beibl fod yn wir oherwydd ei fod wedi ei basio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth fel rhyw chwedl?
Tydi’r ddadl yna ddim yn dal dŵr yn fy marn i. Mae’r oed mawr a’r nifer helaeth o ddarnau o lawysgrifau sydd gennym o’r Beibl yn rhyfeddol, yn wir mae academyddion sy’n astudio llenyddiaeth hynafol arall yn genfigennus o’r dystiolaeth sydd gennym!
Cymerwch chi er enghraifft ffigwr fatha’r Ymerawdwr Rhufeinig Tiberias (teyrnasodd 14-37 O.C.) sydd yn gyfoeswr i Iesu, cawn adroddiadau am ei fywyd gan Tacticus, Suetonius a Cassius Dio – er fod y llawysgrifau hynaf o’r rhain yn dyddio o’r nawfed ganrif O.C.
Ond mae gennym gopïau o rannau o’r testament newydd (Mathew, Marc, Luc ac Ioan) yn dyddio’n llawer cynharach ac mor bell yn nôl â’r ail i drydedd ganrif O.C. sy’n tystio am fywyd Iesu. Wrth ddarllen y rhain gwelwn nad yw’r Beibl wedi newid, mae’r dystiolaeth mor gryf.
Pam wyt ti’n meddwl fod gymaint o bobl yn gwrthod y Beibl a beth fyddai dy gyngor di iddyn nhw?
Mae yna sawl reswm pam fod pobl yn gwrthod y Beibl, mae rhai yn gwrthod y Beibl gan eu bod wedi ei ddarllen ond heb hoffi’r hyn mae’n ddweud. Neu maent yn ffeindio hi’n anodd credu’r cyfan. Mae llawer o bobl yn gwrthod y Beibl heb hyd yn oed ei ddarllen. Mae nifer yn derbyn be mae eraill yn honni, heb edrych ar y peth eu hunain.
Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef mai’r prif reswm dwi’n credu ei fod yn wir yw am ei fod yn llyfr sy’n siarad gyda mi yn y ffordd fwyaf rhyfeddol - dwi yn profi Duw yn siarad gyda mi drwyddo. Tydi hynny ddim bob tro yn braf - drwyddo mae Duw yn helpu fi i weld fy hun fel yr ydwyf, yn fy rhybuddio a hefyd thrwyddo dwi’n dod i adnabod Iesu. Dwi’n gwbl argyhoeddedig fod y Beibl yn Air Duw.
Mae fy nghyngor yn syml i’r rhai sydd heb ei ddarllen neu’n gwrthod - pam lai? Ewch ati i’w ddarllen, o leiaf wedyn fe fyddwch yn medru dod i benderfyniad am y cyfan.
Llyfrau ac adnoddau
Can We Trust the Gospels? (Crossway, 2018), Peter J. Williams
Why trust the Bible? Answers to 10 tough questions (IVP, 2008), Amy Orr-Ewing *
'Why trust the Bible?' – erthygl ar lein gan Greg Gilbert - https://www.crossway.org/articles/why-trust-the-bible/
Commenti