top of page
  • HOLI

Beth yw Cristion? (erthygl hirach)

Cwestiwn pwysig

Er fod Cymru’n cael ei chydnabod bellach fel gwlad sydd yn mynd yn gynyddol seciwlar a materol eto mae dros hanner y boblogaeth yn dal i ddatgan eu bod yn Gristnogion. Wedi dweud hyn, llai na deg y cant sy’n mynychu unrhyw fath o le o addoliad Cristnogol ar y Sul – boed yn gapel neu’n eglwys. Felly y cwestiwn sydd yn codi yw beth a olyga bron hanner y boblogaeth o’u galw eu hunain yn Gristnogion? Sut mae nhw’n deall y gair “Cristion” a pham eu bod yn disgrifio eu hunain fel Cristnogion? Mae’n amlwg bod yna amwysedd neu ddiffyg eglurder.

Amlygwyd hyn mewn ffordd ddigon cyhoeddus pan wnaeth David Cameron, oedd yn brif weinidog ar y pryd, ddatganiad fod Prydain yn wlad Gristnogol. Cafwyd ymateb bywiog tu hwnt i hyn. Cawsom anffyddwyr yn ysgrifennu llythyrau i’r prif bapurau yn achwyn, ac eraill yn mynd ati i amddiffyn y prif weinidog. Ond un peth ddaeth yn amlwg o’r holl drafodaeth oedd bod y gair “Cristion” yn cael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl. Mae’n amlwg bod yna gymysgwch mawr wrth geisio ateb y cwestiwn: Beth yw Cristion?

Ar ben hyn i gyd, dywedir wrthym ein bod yn byw mewn cymdeithas aml-grefyddol, ond does fawr o ddealltwriaeth o beth yw’r gwahaniaeth rhwng un grefydd a’r llall. Y farn boblogaidd yw bod y crefyddau i gyd yn debyg i’w gilydd, hynny yw, rydym i gyd yn dringo’r un mynydd i geisio Duw, ond yn mynd ar lwybrau gwahanol. Felly, beth yw Cristion mewn gwirionedd?

Dywedodd 58% o bobl eu bod yn Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf (2011)

Atebion gwahanol

Llysenw a ddefnyddiwyd gyntaf tua 2000 o flynyddoedd yn Ôl yn ninas Antiochia oedd y gair “Cristion”.

Fe ddylai fod yn weddol amlwg fod bod yn Gristion yn gysylltiedig â Iesu Grist. Ond y cwestiwn allweddol yw beth yw’r cysylltiad rhwng Crist a’r Cristion? I bobl Antiochia roedd y “Cristionogion” yn ddisgyblion neu yn ddilynwyr agos i Iesu Grist. O ofyn beth yw Cristion i’r rhai sy’n honni bod yn Gristnogion heddiw fe geir atebion gwahanol:

  1. Ateb llawer yw eu bod yn perthyn i wlad sydd wedi bod â thraddodiad a diwylliant Cristnogol. Yn sicr nid ydynt yn perthyn i’r crefyddau eraill sydd bellach yn ein plith. I lawer yn Lloegr mae’r berthynas â’r eglwys wladol, sydd wrth gwrs yn Gristnogol, yn bwysig. Mae’n amlwg mai yn y ffordd honno mae llawer yn defnyddio’r gair.

  2. Meddai eraill, mae angen mwy na hynny i fod yn Gristion. Cristion yw person sydd yn ceisio dilyn esiampl bywyd Iesu Grist. Gwelir Crist fel dyn da oedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni, ac yn garedig a chymwynasgar. Cristion yw person sydd yn ceisio efelychu Iesu Grist yn hyn.

  3. Eto, dywed eraill: Onid oes rhaid derbyn dysgeidiaeth Iesu Grist hefyd i fod yn y Gristion? Mae’n bosibl i berson o grefydd arall, neu ddim crefydd o gwbl, wneud rhyw ddaioni. Onid yw bod yn Gristion yn golygu derbyn yr hyn a ddysgodd Iesu Grist am Dduw ac am ddyn o ddifri?

  4. Ond na, meddai eraill eto. Os derbyniwn ei fod yn fab Duw onid yw hynny yn golygu y dylem ei addoli? Oni fyddai hyn yn golygu o leiaf ryw ymgais i fynd i gwrdd gydag eraill sydd yn credu’r un peth i gyd-addoli mewn capel neu eglwys?

Er eu bod yn swnio’n annhebyg, mae yn y pedwar ateb uchod debygrwydd. Mae’r pwyslais i gyd ar beth rydym ni’n ei wneud. Dilyn diwylliant, dilyn esiampl, dilyn dysgeidiaeth neu fynd i addoli. Hynny yw, yr hyn a wnawn ni sydd yn cyfri. Ond yn nhuudalennau’r Beibl cawn olwg wahanol ar bethau.

‘I ddeall beth yw Cristion rhaid mynd at eiriau Iesu a’r rhai oedd gydag ef.’

Un a gafodd gwmni Iesu Grist fel un o’i brif ddisgyblion am dros dair blynedd oedd Pedr. Wedi i Iesu adael y ddaear ysgrifennodd Pedr lythyron at y Cristnogion newydd i geisio eu hannog a’u dysgu sut beth yw hi i fod yn Gristion. Yr hyn sy’n drawiadol yw ei bwyslais, nid ar beth sydd yn rhaid i rywun ei wneud i ddod yn Gristion ond yn hytrach ar beth oedd yn rhaid i Iesu ei wneud gyntaf.

A beth oedd yn rhaid i Iesu ei wneud?

Mae’n crybwyll hyn dair gwaith yn y bennod gyntaf o’i lythyr cyntaf. Cristion, meddai, yw person sydd wedi ei ‘daenellu a’i waed ef’ sef gwaed Iesu Grist. Yna disgrifia’r Cristion fel un sydd wedi ei brynu ‘â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist’. Ac yna mae’n sôn am ‘y dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist’. Mae Pedr yn dweud wrthym yn ddigon clir fod cysylltiad pendant rhwng bod yn Gristion a’r ffaith fod Iesu Grist wedi dioddef. Rhaid i ni, felly, wybod a deall rhywbeth am y dioddefaint hwnnw er mwyn deall beth yw Cristion.

Dioddefaint Iesu

Ni ddylai’r pwyslais ar ddioddefaint Crist fod yn gymaint o syndod i ni, wedi’r cyfan y groes sydd wedi bod yn brif symbol Cristnogaeth drwy’r canrifoedd. Eto mae’n syndod mor hawdd yw hi i ni heddiw golli golwg ar hyn.

Mae’r Beibl yn dysgu fod y berthynas rhwng Duw a’r ddynoliaeth wedi ei chwalu pan wnaeth Adda ac Efa anufuddhau a gwrando ar y diafol (angel drygioni). Mae hwn yn ddigwyddiad hanesyddol a ddigwyddodd yng ngardd Eden pan gymerodd y diafol ffurf neidr a gwelwn ganlyniadau hyn heddiw.


Wrth droi at y Beibl mae dioddefaint Crist yn gwbl ganolog. Mae Pedr hyd yn oed yn tynnu ein sylw at hyn drwy ddangos fel yr oedd y proffwydi yn son am y dioddefaint ganrifoedd cyn geni Iesu: ‘Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o’u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i’r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i’w canlyniadau gogoneddus.’ (1 Pedr 1:11)

Yn wir ar gychwyn y Beibl cawn wybod y bydd yn rhaid i Iesu ddioddef fel y gall Duw achub y ddynoliaeth o’u gwrthryfel a’i ganlyniadau. Mae Duw yn dweud wrth y diafol sydd ar ffurf sarff “bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3.15) Yr Un fydd yn ysigo pen y diafol yw Iesu Grist, ac er y bydd yn ennill maddeuant i’w bobl bydd hyn yn achosi dioddefaint iddo ef (ei sawdl).

Gwelwn yr un peth gan y proffwyd Eseia wrth iddo ddisgrifio’r Meseia (sef Iesu) fel gwas sy’n dioddef: ‘Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.’ (Eseia 53:5)

Ac wrth ddod at hanes bywyd Iesu Grist yn y Testament Newydd ni allwn ond gweld ei fywyd fel rhyw ‘crescendo’ o ddioddefaint.

  1. Roedd elfen o ddioddef yn y ffaith fod Iesu wedi dod i’r byd yma o gwbl: ‘O’i gael ar ddull fel dyn, fe’i darostyngodd ei hun’ (Philipiaid 2:8). Mae’r Beibl yn dysgu fod Iesu, oedd yn Dduw, wedi dod yn ddyn ac felly roedd cyfyngu yn digwydd - cyfyngu o Dduwdod i berson mewn cnawd; un sy’n hollbresennol yn cyfyngu ei hun i un lle daearyddol; un oedd yn hollalluog yn cyfyngu ei hun i gryfder corff dynol; un oedd yn hollwybodol yn cyfyngu ei hun i gael ei ddysgu fel plentyn. Yna ar ben hynny, y boen fyddai yn dod yn sgîl y ffaith fod un perffaith yn gorfod dod i fyw i ganol byd o bechod a drygioni. Mae’n anodd i ni ddychmygu hyn, ond roedd elfen fawr o ddioddef yn hyn.

  2. Cafodd Crist hefyd brofiadau cynnar anodd. Tra oedd yn faban yn y groth, bu’n rhaid i Mair, ei fam, deithio o Nasareth i Fethlehem. Nid taith hawdd yn y dyddiau hynny i wraig feichiog ac fe fyddai Mair yn sicr wedi dioddef. Yn ôl meddygaeth fodern byddai’r baban yn y groth wedi cyd-ddioddef gyda’r fam yn y profiad. Yna, cyn iddo droi’n ddwy oed, cawn ef gyda’i rieni yn gorfod dianc i’r Aifft fel ffoadur oherwydd bygythiad y brenin Herod i ladd pob plentyn dan ddwyflwydd oed. ‘Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a’i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i’r Aifft’ (Mathew 2:14). Dychmygwch y daith drwy anialwch Sinai a’r holl boen fyddai yn dod yn sgîl hynny i blentyn ifanc.

  3. Yn ystod ei fywyd bu raid iddo hefyd wynebu holl brofiadau bywyd sydd yn aml yn cynnwys elfen o ddioddef megis newyn, syched, bod yn ddigartref a thristwch. Profodd dristwch, er enghraifft, pan glywodd am farwolaeth Lasarus ei ffrind. Erbyn iddo gyrraedd roedd chwiorydd Lasarus, Mair a Martha, eisoes yn galaru ac yna wrth i Iesu gwrdd â Mair darllenwn: ‘Wrth ei gweld hi’n wylo, a’r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau’n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys, “Ble’r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho. Torrodd Iesu i wylo.’ (Ioan 11:33-35) Gwelwn yn glir ei fod wedi dioddef yr un profiadau bywyd a ddaw yn aml i’n rhan ninnau.

  4. Rhaid oedd iddo hefyd wynebu gwrthwynebiad ac erledigaeth gan sefydliad crefyddol ei ddydd oherwydd iddo honni ei fod yn Fab Duw. Er ei fod yn dod at y genedl oedd wedi profi gymaint o bethau da gan Dduw nid oeddent yn barod i’w dderbyn. ‘Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.’(Ioan 1:11) Amlygir ei boen a’i ddioddef wrth ddelio â hynny pan wylodd dros Jerwsalem (y brif ddinas) wrth agosáu ati cyn ei groeshoeliad. ‘Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd - ond na, fe’i cuddiwyd rhag dy lygaid. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu. Fe’th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a’th blant o’th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.” ’ (Luc19: 41-44) Cafodd y geiriau yma eu gwireddu yn drychinebus o real yn fuan wedyn yn 70 O.C gan ymosodiad y Rhufeiniaid.

  5. Daeth yn gyson dan ymosodiad o gyfeiriad y diafol. Cawn hanes ei demtasiwn, ar ddechrau ei weinidogaeth, dros ddeugain niwrnod yn yr anialwch. ‘Yna arweiniwyd Iesu i’r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol.’ (Mathew 4:1) Nes ymlaen daw wyneb yn wyneb ag ysbrydion aflan sy’n ei herio. Cawn un achlysur yn y synagog yng Nghapernaum ‘Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw, gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti – Sanct Duw.” Ceryddodd Iesu ef a’r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.” ’(Marc 1:23-25)

  6. Gwelwn hefyd ei ddioddef gan ei fod yn gorfod byw ei fywyd yn rhagweld ei farwolaeth, neu i fod yn fwy cywir, ei lofruddiaeth. Wrth siarad ar dri achlysur gwahanol am fynd i Jerwsalem cyfeiria at y ffaith ei fod yn mynd i gael ei ladd (gweler dyfyniad o Mathew 16). Rydym yn siwr o fod yn falch na wyddom sut y daw ein bywyd i ben. Ond gwyddai ef. Daw hyn i binacl yng ngardd Gethsemane lle cawn ef yn gweddïo ar ei Dad am yr hyn sydd o’i flaen – mae’r profiad yn un mor ddirdynnol nes bod ei chwys yn ddafnau gwaed. Cyflwr y mae meddygon heddiw yn ei gydnabod a ddaw o straen ofnadwy. ‘Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo gan ddweud, “O Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf, Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.” Ac ymddangosodd angel o’r nef iddo, a’i gyfnerthu. Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo’n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.’ (Luc 22: 41-44)

  7. Yna mae’n cael ei fradychu gan ei ffrind; ei garcharu, ei groesholi a’i gam-drin gan filwyr Rhufeinig. Poerir arno, fe’i gwawdir, caiff goron ddrain ar ei ben; rhaid cario croes o bren drwy’r ddinas. Caiff ei hoelio i’r pren a hongian yno gan sychedu, derbyn gwawd creulon a marw yn y ffordd fwyaf cyhoeddus ac ofnadwy. Ac ar ben hynny rhaid delio â methiant y disgyblion i aros gydag ef. Roedd hyd yn oed Pedr yn gwadu ei adnabod.

  8. Yna’n olaf cawn y gri o’r groes pan mae’n dweud ‘Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’ (Mathew 27: 46) Mae Iesu yma yn profi’r unigrwydd o gael ei wrthod gan ei Dad nefol. Dyma uchafbwynt y dioddefaint, lle mae’r berthynas berffaith ac agos rhyngddo a’i Dad yn cael ei chwalu. Fel y dywed un awdur – cafodd Iesu ‘ei daro â chleddyf ei Dad’.

Dyna felly ddioddefaint Iesu Grist.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gwelwn Iesu yn siarad am ei ddioddefaint yn y swper olaf cyn ei farw lle mae’n torri’r bara ac yn dweud wrth ei ddisgyblion: “Hwn yw fy nghorff, sy’n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” (Luc 22:19)

Mae’n amlwg fod Iesu yn gweld ei farwolaeth a’i ddioddefaint fel mwy nag esiampl i’w dilyn.

Gwelwn fod dioddefaint Crist yn codi cwestiynau mawr am rai o’r syniadau o beth yw Cristion heddiw.

  • Os yw Cristion yn berson sydd yn perthyn i, neu’n dilyn diwylliant arbennig, pam oedd yn rhaid i Grist ddioddef fel hyn?

  • Os mai dilyn esiampl Iesu Grist yw bod yn Gristion - pam y dioddef?

  • Os mai derbyn dysgeidiaeth Iesu Grist yw bod yn Gristion - pam bu rhaid i Iesu farw?

  • Ac os mai mynd i gapel neu eglwys nawr ac yn y man yw bod yn Gristion - pam oedd yn rhaid i Iesu ddioddef o gwbl?

Dyma’r cwestiynau sydd yn rhaid i bawb sy’n galw eu hunain yn Gristion ei wynebu - dyma hefyd y gwirionedd sydd yn rhaid i bob un ohonom ymateb iddo.

Ni fedrwn ddeall beth yw Cristion heb i ni ddeall dioddefaint Iesu - mae Iesu yn gwneud hyn yn amlwg iawn i ni.

Pam oedd yn rhaid i Iesu ddioddef?

Ni allwn wneud yn well na gadael i Iesu ateb y cwestiwn trosom. Sut oedd ef yn gweld pethau? Sut oedd ef yn deall natur ei waith? Sut roedd ef yn deall ei ddioddefaint a’i farwolaeth?

Dyma ei eiriau:

‘Daeth Mab y Dyn i geisio ac achub y colledig.’ (Luc 19: 10)

Mewn man arall mae’n datgan ei fod wedi dod ‘i roi ei einioes (bywyd) yn bridwerth (taliad) dros lawer.’ (Marc 10: 45)

Mae Iesu’n dweud nad i ddangos i bobl ffordd o achubiaeth y daeth ond i’w chyflawni drostynt.

Pam roedd hyn yn angenrheidiol?

Trwy ei ddioddefaint daeth yn bont rhyngom ni a Duw.

Nid i ddangos y ffordd at Dduw y daeth Iesu, ond i fod y ffordd at Dduw.

Oherwydd ein drygioni a’n cyflwr pechadurus ni - mae llygredd yn rhan o bob un ohonom. Dyma’r llygredd sydd yn atgas yng ngolwg Duw - ac yn fur rhwng Duw a phobl. Dyna pam ein bod ar goll ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw.


Nid ydym mewn perthynas gyda Duw gan ei fod ef yn berffaith a’n bod ni yn ddrygionus.

Mae pob un ohonom wedi torri ei ddeddf berffaith a gwelwn effeithiau hyn heddiw yn y byd a’n bywyd personol.

Dyma’r pechod sydd yn ein rhwystro rhag cyflawni y peth mwyaf pwysig sef cael perthynas iawn â Duw. Ond, hefyd, dyma’r pechod un dydd fydd yn dwyn ei gyflog, oherwydd ‘y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth.’ (Rhufeiniaid 6: 23) Marwolaeth y corff a chosb am byth yw haeddiant pob person sydd wedi torri cyfraith Duw. Dod wnaeth Iesu Grist i’n hachub oddi wrth hyn i gyd.

Nid esiampl i ni ei dilyn sydd ei angen arnom - fedrwn ni byth ddilyn esiampl Iesu. Rhaid oedd cael rhywun i gymryd ein cosb yn ein lle.

Nid peth bach yw cyflawni hyn ond peth mawr - yn wir mor fawr fel bod yn rhaid wrth ollwng gwaed i’w gyflawni. Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant ac mae cyfiawnder Duw yn hawlio hyn. Er mwyn ceisio dangos difrifoldeb pechod yn nyddiau’r Hen Destament cawn Dduw yn gosod i lawr drefn o aberthau drud i sicrhau maddeuant am bechod. Cysgod oedd aberthau’r Hen Destament i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr aberth mawr oedd i ddod, sef bod mab Duw, Iesu Grist ei hun, i ddod i fod yn aberth.

Yn yr hen destament roedd rhaid i'r bobl roi aberth rheolaidd - golygai hynny fod ŵyn ac anifeiliaid yn cael eu lladd. Roedd Duw trwy hyn yn argraffu ar feddyliau’r Iddewon mor ddifrifol oedd pechod ac nid ar chwarae bach mae ei faddau.


Dyma oedd datganiad dyn o’r enw Ioan wrth i Grist ddod ato i gael ei fedyddio ‘Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!’ ( Ioan 1: 29)

Mae’r un sydd i gyflawni’r gwir aberth wedi dod – a dyma fe. Er mwyn ein hachub ni felly rhaid oedd i Iesu Grist ddioddef ac aberthu ei fywyd trosom ar y groes. Dyna bris ein hachub.

‘Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd i chwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.’ (1 Pedr 1: 18-19)

Beth yw’n hymateb ni?

Sut dylem ni ymateb i hyn i gyd? Cawn oleuni wrth edrych ar y ffordd y mae Cymry yn y gorffennol wedi cofnodi eu hymateb, fel rhai o’n hemynwyr:

‘Pa galon mor galed na thodd’ yw ymateb un, wedi disgrifio dioddefaint Crist yng ngardd Gethsemane ac ar y groes.

‘O! Annwyl Arglwydd Iesu, Boed grym dy gariad pur Yn torri ’nghalon galed Wrth gofio am dy gur’ yw ymateb un arall.

Gwelwn ymateb tebyg gan un o’r troseddwyr a gafodd ei groeshoelio gyda Iesu. Wrth sylweddoli ei fod yn marw yn haeddianol am ei ddrygioni mae’n taflu ei hunan ar drugaredd Iesu:

‘Yr oedd un o’r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw’r Meseia? Achub dy hun a ninnau.” Ond atebodd y llall, a’i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? I ni, y mae hynny’n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy’n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o’i le.” ‘

Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i’th deyrnas.” (Luc 23: 41-43)

Sylwn nad gwneud rhywbeth yw’r cam cyntaf pan ddaw rhywun yn Gristion. Yn hytrach mae rhywbeth yn digwydd iddynt wrth iddynt sylwi a deall pam fod Iesu Grist wedi marw drostynt.

Ni wnant ddim ond fe ddigwydd rhywbeth iddyn nhw.

Mae Pedr yn disgrifio’r Cristion fel hyn: Yr ydych yn ei garu ef (Iesu), er na welsoch mohono; ac am eich bod yn awr yn credu ynddo heb ei weld, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus wrth i chwi fedi ffrwyth eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 1 Pedr 1:8-9

Sylwch ar y pwyslais ar edrych ar Iesu a’i garu.

Hynny yw, i ddod yn Gristion mae’n rhaid i rhywun ddod i bwynt o gydnabod ei angen. Mae’n sylweddoli fod Iesu wedi gwneud rhywbeth rhyfeddol drosto ac yn cydnabod na allai byth achub ei hunan na thalu’r pris am ei ddrygioni i Dduw.

Pan ddaw i sylweddoli ei gyflwr drygionus mae’n gorfod cydnabod fod Iesu Grist wedi gwneud y cwbl i sicrhau bod maddeuant ar gael ac felly mae’n taflu ei hunan ar ei drugaredd - ‘Iesu, cofia fi pan ddoi i’th deyrnas’.

Mae’n dangos edifeirwch, sef tristwch dros ei fethiant, a’r awydd i fod yn wahanol. Mae’n credu yn Iesu Grist, mab Duw. Mae’n dod yn ddisgybl sydd am ei addoli a’i wasanaethu.

Nid yw’r Cristion yn dilyn Iesu er mwyn derbyn maddeuant - yn hytrach mae’n dilyn Iesu oherwydd ei fod wedi derbyn maddeuant.

Plygu, Credu, Gwasanaethu.


Y cwestiwn felly, fel y gwelsom, yw nid beth sydd yn rhaid i ni ei wneud i fod yn Gristnogion, ond, yn gyntaf, beth oedd yn rhaid i Iesu Grist ei hun ei wneud trosom ni. Ac yna ninnau yn ymateb i hynny drwy ddisgyn ar ein bai, troi ac estyn allan mewn ffydd at Iesu. Onid yw hyn yn gwneud synnwyr o ddioddefaint Crist? Gellir dweud mai Cristion, felly, yw person sydd wedi plygu gan ddiolch i Dduw am ddanfon Iesu Grist i’r byd i ddioddef ac i farw yn ei le. Mae’n edifar am ei orffennol di-gred ac yn cyflwyno gweddill ei fywyd i wasanaethu Iesu Grist, Mab Duw.

Ysgrifennwyd gan Gwynn Williams

Am flynyddoedd roeddwn wedi ceisio byw i ennill ffafr Duw. Doedd gen i ddim sicrwydd fod Duw yn fy nerbyn ac roedd i weld mor bell i ffwrdd. Roeddwn yn gwybod fod Duw yn real ond roeddwn hefyd yn gwybod nad oedd fy mywyd yn ddigon da. Yna daeth pob dim yn glir. Gwelais fod Iesu wedi byw’r bywyd na allwn i ei fyw a’i fod wedi dioddef a marw yn fy lle. Am y tro cyntaf fe wnes siarad gyda Iesu - dim ond gweddi syml ac onest yn cyfaddef fy methiant ac yn gofyn am faddeuant. Mae wedi newid fy mywyd yn llwyr - rwyf bellach mewn perthynas gyda Duw, yr un am creodd. A hynny i gyd oherwydd beth wnaeth Iesu drosof fi. Steffan, Cristion, Bangor

Cwestiynau i’w hystyred

  1. Beth yw’r peryglon o droi at draddodiad neu ddiwylliant i ddarganfod beth yw dysgeidiaeth person real fel Iesu?

  2. Ydym ni yng Nghymru wedi bod yn euog o geisio ‘newid’ neges Iesu?

  3. Ym mha ffyrdd y gwnaeth Iesu ddioddef?

  4. Mae Iesu yn amlwg yn credu fod rheswm am ei ddioddefaint - beth oedd hwn?

  5. Fyddech chi yn disgrifio y byd heddiw fel da neu ddrwg?

  6. 'Mae pob drygioni angen ei gosbi’ - beth yw eich barn am y gosodiad yma?

  7. Pa effaith fyddai dod i adnabod dy grewr yn ei gael arnat ti?

  8. Darllen Effesiaid 2:1-10 (Y Beibl) lle mae Paul yn disgrifio beth sydd wedi digwydd i berson pan fydd yn dod yn Gristion. Drwy ddefnyddio’r darn yma a’r adnodau o’r llyfr hwn, ceisia esbonio beth yw Cristion yn dy eiriau dy hun.

  9. Sut fedrwn ni ddarganfod a yw geiriau Iesu yn wir a’i peidio?

Am gymorth pellach, neu i drafod rhywbeth yr ydych wedi ei ddarllen yn y llyfr hwn, cysylltwch gyda ni

12 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page