top of page
  • HOLI

RHYDDID?

Updated: Mar 31, 2020

Gallai wneud be licia i cyn belled mod i ddim yn achosi poen i neb arall.

Mae’n siŵr nad oes brawddeg sy’n disgrifio’n well sut yr hoffem fyw ein bywydau yng Nghymru heddiw. Dyma arwyddeiriau ein hoes. Gadewch i ni fyw yn rhydd i fod yr hyn hoffem ni fod, i wneud yr hyn hoffem ni’i wneud a charu pwy bynnag yr hoffem eu caru cyn belled bod hynny ddim yn gwneud drwg i neb neu ddim arall. Mae’n swnio’n dda ond pa fath o gymdeithas sy’n deillio o fyw fel hyn ac yw hyn yn bosibl beth bynnag? Nid wyf am drafod effaith byw fel yma ar yr unigolyn (pwnc ar gyfer erthygl arall fyddai hynny) ond dyma ychydig o sylwadau ar yr effaith a gaiff byw fel yma ar gymdeithas...


Pwy sy’n diffinio beth yw poen?

Yn aml mae’n hawdd diffinio poen corfforol - gallai i gicio rhywun neu sathru’n o drwm ar droed, ac mae’n amlwg yn niweidiol ac yn brifo. Ond beth am boen o fath gwahanol? Mae poen yn gallu golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl - sut mae diffinio poen neu niwed? Er enghraifft beth am yr hyn yr ydym yn ei ddweud neu’n ei gredu - gallwn ni gredu pethau sy’n achosi loes fawr i eraill, ond yw hi’n anghywir i gredu felly a be ddylen ni ei wneud pan mae rhywun yn anghytuno â ni? Os nad oes yna sail foesol i’n diffiniad o niwed, ac mai barn person yw’r cyfan, y cyfan a wnawn ni yw troi pobl yn erbyn ei gilydd - sydd byth yn beth da. Mae’n rhaid bod gennym rywbeth mwy cadarn i ddiffinio da a drwg na dymuniad i beidio clwyfo rhywun arall. Pwy sy’n penderfynu beth sydd orau i gymdeithas a sut gallwn ni ddweud ein bod ni’n iawn ac eraill yn anghywir?


Nid ynysoedd ydym

Does dim byd a wnawn ni nad yw’n effeithio ar bobl o’n cwmpas. Gadewch i mi roi esiampl. Gall gŵr ifanc aros gartref yn gwylio ffilmiau anweddus - tydi o ddim yn gwneud drwg i neb arall a hyd y gwyddom mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y ffilm wedi gwneud hynny o’u gwirfodd. Ond onid yw’n debygol, os bydd y gŵr yma’n cychwyn perthynas gyda rhywun yn y dyfodol, y bydd yn gwneud hynny gyda disgwyliadau afrealistig - onid yw’n bosibl bod ei brofiadau blaenorol yn mynd i achosi poen i’w bartner?

Mae popeth a wnawn ac a feddyliwn yn effeithio ar bobl eraill ac yn ein diffinio ni. Mae hyn yn wir am y plentyn sy’n gorfod tyfu i fyny’n rhy fuan am fod ei fam am gael hwyl ac am y tad sy’n colli ei fab trwy ddamwain am fod rhywun arall wedi mynnu yfed a gyrru. Rydym yn achosi niwed a phoen mewn ffyrdd na fydden ni byth yn eu dychmygu - dim ond person naïf neu falch fyddai’n honni fel arall.


Oes ots gennym hyd yn oed?

A bod yn gwbl onest mae’n rhaid i ni holi’r cwestiwn ydym ni hyd yn oed yn ystyried canlyniadau ehangach ein hymddygiad? Dwi ddim yn meddwl mod i’n annheg i awgrymu, ac rwy’n gwybod ‘mod i’n euog, mai esgus yn aml yw’r cyfan i wneud yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yn hytrach na meddwl am bobl eraill. Rydym am fyw ein bywydau yn ôl ein dewisiadau ni gan beidio meddwl yn ormodol am eraill. Mi fedrai fwyta be licia i: ‘sdim ots mod i’n ennill gormod o bwysau, yn achosi pryder i fy nheulu ac yn rhoi gwasgfa ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol. Onid dyma’r natur ddynol?


Mae’n rhaid fod ffordd well

Mae rhywun yn cael ei anwybyddu yn ein cymdeithas heddiw - nid ydym yn cymryd sylw o gwbwl o’r hyn mae’n ei ddweud ac rwy’n weddol siŵr ein bod yn achosi poen ac yn ei frifo fo - er nad ydym yn hidio llawer am hynny. Mae’r un a’n creodd a’r un sy’n ein caru a gofalu amdanom wedi rhoi arwyddeiriau ei hunan i ni: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun’. Mae hyn yn mynd yn llawer dyfnach na pheidio achosi poen i rhywun arall, yn hytrach mae’n golygu chwilio am ffyrdd o wneud daioni ac o ofalu am y rhai o’n cwmpas. Nid yw’n bosib i ni wneud hyn ar ein pen ein hunain, mae’n calonnau ni’n rhy dwyllodrus. Nid oes ganddom y gallu i wybod beth sydd orau ac ni fedrwn symud y ffocws oddi arnon ni’n hunain i helpu eraill. Rhaid iddo ef gamu i mewn.


Dyna pam y daeth Iesu i fyw bywyd perffaith a marw marwolaeth nad oedd yn ei haeddu i wynebu’r gosb oedd yn eiddo i ni. Pan fydd rhywun yn darganfod y gwirionedd rhyfeddol yma maen nhw’n cael eu trawsnewid i fod yn hollol rhydd i fyw bywyd llawn o gariad i’r eithaf.


Steffan Job

3 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page