top of page
  • HOLI

Stori Eilir

Updated: Apr 2, 2020

Yn rhifyn y flwyddyn ddiwethaf o Holi cawsom y cyfle i holi Aled Jones, is-lywydd NFU Cymru a ffermwr llaeth o ardal Caernarfon. Eleni penderfynom fynd i holi ei wraig Eilir Jones am ei magwraeth Gymreig a’i bywyd.


Diolch am gytuno i rannu ychydig gyda ni - beth am gychwyn yn y cychwyn - Sut fagwraeth gawsoch chi?

Cefais fy magwraeth yn y lle gora yn y byd - Sir Fôn - mewn pentref bach o’r enw Gwalchmai. Cefais gariad a chefnogaeth gan fy rhieni ar hyd eu hoes a chefais blentyndod braf a rhyddid i grwydro o gwmpas y pentref a thu hwnt. Roeddwn i wrth fy modd yn crwydro ar hyd y llwybrau cyhoeddus a’r lonydd bach ar fy meic - yn aml ar ben fy hun am fy mod yn unig blentyn. Roedd rhan fwyaf o weithgareddau cymdeithasol yn troi o gwmpas y capeli a threulio amser efo ffrindiau ysgol.


Roeddwn wrth fy modd yn yr ysgol gynradd ond dim wedi mwynhau cymaint yn yr ysgol uwchradd gan fy mod yn methu disgyblu fy hun i wneud gwaith cartref ac efo cant a mil o esgusodion i’r athrawon am ddiffyg gwaith cartref! Roeddwn hefyd yn eithaf swil sydd ddim yn beth braf yn eich arddegau.


Felly beth nesaf - pa yrfa y gwnaethoch ei dilyn?

Pan ddaeth yn amser dewis gyrfa penderfynais na fyswn yn medru mynd i wneud cwrs academaidd yn y coleg felly dyna benderfynu trio am gwrs nyrsio lle gallwn wneud gwaith ymarferol a bod gyda phobl o bob math yn y gwaith.


Heliais fy mhac am Fanceinion i wneud cwrs nyrsio a oedd yn cynnwys nyrsio cyffredinol, nyrsio yn y gymuned a chael cymhwysiad ymwelydd iechyd. Bu’r cwrs nyrsio yn help i unig blentyn ddod dros ei swildod wrth i mi gymysgu efo pob math o bobl a gweld amgylchiadau byw teuluoedd oedd mor wahanol i’m magwraeth i. Roedd yn braf cael gofalu a gweld pobl yn mendio ond yn anodd iawn gweld pobl yn dioddef, yn enwedig plant.


Ar ôl gorffen y cwrs ces brofiadau nyrsio mewn ysbyty cyffredinol, gwneud cwrs bydwreigiaeth a gweithio hefyd ar uned gofal dwys i oedolion. Braint oedd cael gweithio a dysgu oddi wrth gymaint o wahanol gyd-weithwyr ar hyd y blynyddoedd, a phleser oedd cael dod i adnabod y cleifion a’u teuluoedd.


Ar ôl cael plant euthum i weithio fel ymwelydd iechyd - gwaith gwahanol iawn i nyrsio cyffredinol - ond roedd yn braf cael cefnogi teuluoedd yn y gwaith anodd iawn o riantu a magu plant. Doeddwn i ddim yn sylweddoli hyn cyn cael plant fy hun!


Mae’n amlwg eich bod wedi cael bywyd prysur iawn - gwraig ffarm, mam, nyrs a’r holl bethau eraill. Beth am ochr ysbrydol bywyd, rhannodd Aled eich gŵr am ei brofiadau yn rhifyn 2017 o Holi - beth amdanoch chi?

Pan oeddwn yn fy arddegau dechreuais deimlo fod yna rhyw wacter yn fy mywyd ond ni allwn roi fy mys ar beth oedd yn bod. Pan ym Manceinion fy ffrind gorau ar y cwrs nyrsio oedd merch o’r enw Sandy o ardal Stoke. Roedd rhywbeth yn wahanol amdani hi i’m ffrindiau eraill - rhyw sylfaen yn ei bywyd a rhyw ddedwyddwch nad oedd yn perthyn i mi. Wrth ei holi ffeindiais ei bod yn Gristion efo perthynas real efo Iesu Grist. Doeddwn i ddim yn medru dweud hynny er fy mod wedi mynd i’r capel ar hyd fy oes. Roeddwn yn gweld Iesu Grist fel esiampl o sut i fyw ac yn methu deall o gwbl pam fu raid iddo farw ar y groes. Roedd Sandy’n amyneddgar iawn yn ateb fy nghwestiynau ac yn fy ngwahodd i gyfarfodydd Cristnogol ac yn ffrind triw a charedig iawn.


Doeddwn i ddim yn hapus yn fy nghroen yn ystod y cyfnod hwn. Pan yn ugain oed gwelais hen ffrind ysgol - Anwen - ar y stryd yn Llangefni ganol mis Awst. Buom yn siarad am hir ac yna gwahoddodd fi i gynhadledd Gristnogol yn Aberystwyth yr wythnos ganlynol. Roedd rhywbeth yn dweud wrthyf am dderbyn y cynnig ac i ffwrdd a fi mewn mini bach efo Anwen a Gwenda’r dydd Llun canlynol.


Y bore wedyn roedd Gwilym Roberts o Gaergwrle yn pregethu ar lyfr Sechareia - doeddwn i erioed wedi clywed am y llyfr, heb sôn am wybod ei fod yn y Beibl! Cefais fy llorio’n llwyr gan y darlleniad o’r bennod gyntaf:-


“Dychwelwch ataf fi” medd Arglwydd y Lluoedd “ a dychwelaf finnau atoch chwi ... Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a’ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi” medd yr Arglwydd.

Roedd fel petai saeth wedi mynd trwy fy nghalon wrth i mi sylweddoli nad oeddwn yn dderbyniol i Dduw oherwydd fy ffyrdd drygionus. Dechreuais feichio crio ac ni allwn beidio crio am weddill y diwrnod. Roedd yn brofiad ofnadwy ac anobeithiol i sylweddoli mor bell oeddwn i oddi wrth Dduw.


Aeth ffrind â mi allan o’r cyfarfod a chefais lyfryn bach i ddarllen gyda’r nos ar y ffydd Gristnogol. Wrth fynd trwyddo gwelais am y tro cyntaf pam fu raid i Iesu Grist farw drosta i - oherwydd mod i yn ddrwg ac nid oedd posib i mi gyrraedd safon Duw ar ymdrechion fy hunan. Nid esiampl yn unig oedd Iesu ond Achubwr. Ac nid oedd isio bod ofn marw chwaith oherwydd roedd o wedi atgyfodi o’r bedd ac yn cynnig bywyd tragwyddol i mi.


Diolch am siarad gyda ni, yn olaf, sut mae hyn i gyd wedi’ch effeithio chi?

Dyna drobwynt fy mywyd. Pwyso ar Iesu Grist ac ymddiried ynddo - doedd na ddim gwacter yn fy mywyd bellach.

Mae dros ddeugain mlynedd ers i mi benderfynu trystio yn Iesu ac er nad yw bywyd wedi bod yn hawdd ar adegau, fedra’i ddim meddwl am ddiwrnod nad wyf wedi teimlo gofal Duw drosof. Mae gwybod bod Duw a Christ yn fy ngharu yn dal i roi gwefr a chân ar fy ngwefus. Fi - yn werthfawr yng ngolwg Duw mawr.

Un o fy hoff adnodau yw:-“ Gwelwch pa fath gariad y mae’r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw - A DYNA YDYM.” Da ni’n blant i Dduw trwy Iesu Grist - Haleliwia.

4 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page