top of page
  • HOLI

Bywyd Ysbrydol

Updated: Apr 2, 2020

Rydym yn byw mewn dyddiau diddorol. Er bod pethau ysbrydol yn colli eu lle ym mywyd cyhoeddus, mae’r diddordeb yn parhau mewn cymaint o bobl ar lawr gwlad. Does dim modd anwybyddu’r peth - mae rhywbeth mwy i fywyd. Gwelsom y diddordeb yn glir wrth siarad gyda phobl oedd yn ymweld â’n stondin mewn sioeau a digwyddiadau cenedlaethol y flwyddyn ddiwethaf, er eu bod yn aml wedi cefnu ar grefydd draddodiadol roedd y diddordeb ysbrydol yn parhau.


Fel Cristnogion gwyddom mai dim ond drwy Iesu y mae modd dod at Dduw. Pan fo’r Ysbryd Glan yn gweithio i agor llygaid rywun i weld ei drygioni ac i weld cariad Iesu yn marw ar y groes drosto, mae bywyd yn newid yn llwyr. Fel mae Iesu yn dweud ‘Deuthum i roi bywyd yn ei gyflawnder’.

Nid yw hyn yn syndod i Anna Huws, sydd wedi byw yn India a gweithio mewn canolfan encilio Gristnogol am flynyddoedd. Dyma ei stori hi.


Dim ond i rywun gymryd cam allan o brysurdeb bywyd a rhoi amser i feddwl, mae’n weddol amlwg fod rhywbeth llawer mwy na’r byd materol yr ydym yn rhan ohono. Mae hi’n cymryd dewrder i wneud hyn a wynebu’r realiti fod mwy i fywyd na’r hyn a welwn, a delio’r gyda’r cwestiynau sy’n arwain o hynny. I lawer mae hi’n haws ymroi i brysurdeb bywyd materol a cheisio tawelu’r llais bach mewnol hwnnw sy’n dweud ‘mae’n rhaid bod mwy i fywyd’. Ond o’m profiad i, mae’r gri y tu mewn yn rhy gryf, a chaiff llawer eu gorfodi i gymryd y cam hwnnw y tu allan i ffiniau’r hyn a ddeallwn.

Er i mi gael fy magu yn mynd i’r capel a bod gennyf hiraeth dwfn i adnabod Duw, ni chafodd fy nyhead am yr ysbrydol ei ddiwallu yn y sefyllfa honno. Mi wnes i geisio dianc oddi wrth y cyfan ond roedd yna lais yn fy ngalw yn ôl drwy’r amser. Yn y diwedd, wrth eistedd ar fy ngwely, mi wnes i ofyn i Dduw ddangos ei hun i mi os oedd o’n real. Doedd hi ddim yn foment ddramatig, ond newidiodd fy mywyd. Fe ymatebodd Duw i’m cri ac rwyf wedi bod ar daith ryfeddol ers hynny.

Treuliais dair blynedd yn byw yn India (lle mae gymaint sydd â ddiddordeb ysbrydol yn mynd), a dwi wedi gweithio mewn nifer o fannau gwahanol gan weld pob math o fynegiannau ysbrydol. Dwi wedi fy herio yn fawr gan brofiadau pobl eraill wahanol iawn i mi. Wedi dweud hyn, nid wyf wedi gweld dim yn debyg i’r hyn dwi wedi ei brofi yn Iesu Grist! Efallai nad Iesu sy’n gweiddi fwyaf uchel yn y farchnad o brofiadau ysbrydol, ac mae llawer o bobl wedi ceisio ei gaethiwo i adeiladau eglwysig hynafol, ond dwy’n gwybod nad yw hyn yn fesur o’i berthnasedd a’i bŵer i dorri i mewn i’r byd heddiw. I mi, mae’r profiad o ddarganfod Iesu wedi bod fel darganfod cist yn llawn trysor. Digon hawdd yw edrych ar gist o’r tu allan a’i weld yn arferol a di-nod, ond pan fydd rhywun yn ei agor fe gânt eu syfrdanu gan yr hyn sydd y tu mewn!

Beth am fynd i chwilio eich hunan yn y Beibl? Medrwch gychwyn drwy ofyn i Iesu ddangos ei hun i chi.


Dywedodd Iesu “Oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw... Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”
2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page