Aled, ti'n ddyn prysur iawn ac yn ffermio fferm dy gartref. Rho dipyn o dy stori i ni.
Rydym fel teulu yn ffermio yng Nghaernarfon ers 1963 ar ôl symud o Drawsfynydd. Fi oedd y pedwerydd o bump o blant. Roedd ffermio yn fy ngwaed o'r cychwyn ac ar ôl darfod yn yr ysgol mi es i Brifysgol Reading i astudio Amaethyddiaeth. Cefais brofiad o weithio ar ffermydd grawn yn Ffrainc a Lloegr ond dod adra oedd fy mwriad. Ar ôl dod adref, roedd brwdfrydedd ieuenctid yn gryf a chefais flas ar ymroi i roi'r addysg ar waith.
Dwi wedi priodi ag Eilir ac mae gennym bedwar o blant. Mae bywyd wedi newid dipyn yn ddiweddar gan fod fy mab hynaf yn cymryd mwy o'r gwaith rheoli ar y fferm sydd wedi fy rhyddhau i gymryd dyletswyddau ehangach. Rwyf yn ddirprwy lywydd NFU Cymru ac yn gadeirydd y Cattle Information Services. Ac rwyf hefyd yn helpu i arwain mewn capel lleol - Eglwys Efengylaidd Gwyrfai, Llanrug.
Mae'n amlwg fod amaethyddiaeth yn dy waed ond beth am y cyswllt â'r capel - wyt ti wastad wedi bod yn berson crefyddol?
Cefais fy magu i fynychu'r capel lleol ac i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r capel. Dwi'n cofio fy mod wedi aflonyddu dipyn ar wers 'Sgrythur (fel oedd bryd hynny!) yn y chweched dosbarth pan wnes i ofyn i'r athro beth oedd yn ei olygu i fod yn Gristion? Awgrymodd y dylwn gael sgwrs gyda'r Parch. Ioan Davies oedd y pryd hynny'n weinidog yn Eglwys Bedyddwyr Caersalem, Caernarfon.
Ar ôl cyrraedd y brifysgol roedd cymaint o ryddid, ac fe wnes ymroi i wneud cymaint o bethau gwahanol, yn enwedig rygbi. Er y rhyddid, roedd yr anesmwythyd yn parhau a cheisiwn fynychu capel yn achlysurol. Tra yn y coleg mi ddes i adnabod dau fyfyriwr oedd yn Gristnogion. Roedd yn amlwg i mi fod ganddynt rywbeth yn eu bywydau nad oedd gen i. Roedd eu bywyd yn gyson â'u ffydd.
Erbyn yr ail flwyddyn a minnau wedi ennill fy lle yn nhîm rygbi cynta'r brifysgol, roeddwn ar ben y byd, ond daeth pwl o glandular fever â mi i waelodion gwendid. Lle cynt roeddwn wedi troi heibio gwahoddiadau'r ddau ffrind i ddod gyda nhw i gyfarfodydd Cristnogol y Coleg, dyma dderbyn a chlywed pregethu clir gyda'r gwahoddiad i ddod i gredu yn Iesu Grist a derbyn ei faddeuant. A dyna wnes, yn syml fel 'na! Gras Duw ddaeth â mi i'r fan yna a'r un gras sydd wedi fy nghadw ers hynny.
Mae bod yn agos at y pridd ac at natur yn gallu dysgu gwersi i ni. Pa wersi wyt ti wedi eu dysgu, tybed?
Mae gwaith fferm yn cadw rhywun yn agos at natur yn wastad. Dwi'n rhyfeddu at waith Duw yn y greadigaeth mewn pethau mawr a bach. Tydi rhywun ddim yn bell chwaith o effaith pechod, marwolaeth a breuder bywyd, mae drain ac ysgall yn tagu tyfiant egin newydd a'r brain duon yn difa grawn yn y cae haidd. Tynnais lun llynedd o nythaid o gywion gwennol a'u genau'n agored gan ddisgwyl eu bwydo oedd yn fy atgoffa am ein hangen ninnau am fwyd i'r enaid.
Gwers sydd bob tro yn cael effaith arnaf yw pan mae dafad yn colli ei hoen ac yn cael oen wedi mabwysiadu drwy roi croen yr oen marw am yr oen diarth. Mae'n fy atgoffa am yr hyn sy'n digwydd i ni pan 'rydan ni yn dod i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Rydyn ni i gyd wedi torri cyfraith Duw ac felly yn euog a brwnt o'i flaen, ond pan fyddwn yn dod i gredu yn Iesu rydym yn cael gwisg newydd - cyfiawnder Iesu. Nid yw Duw bellach yn gweld ein brynti ni, ond yn gweld bywyd perffaith Iesu. Dyna beth yw ystyr y geiriau yn yr emyn sy'n sôn am "Fy ngwisgo â'i Gyfiawnder, yn hardd gerbron y Tad".
Mae'n amlwg fod gen ti ffydd Aled, ond ydi hynny'n help i ti yn dy waith?
Mae bywyd yn sicr o ddod a'i ofalon a'i dreialon, sy'n amhosib i'w hosgoi ond mae fy ffydd yn mynd â mi yn ôl at Dduw bob tro - fe sy'n rhoi cymorth i mi. Dwi'n cofio blynyddoedd yn ôl, tra'n mynd trwy gyfnod anodd, clywed pregeth am y ffraeo oedd rhwng bugeiliaid Abram a bugeiliaid ei nai Lot (yn Genesis pennod 13). I ddelio gyda'r broblem fe wnaeth Abram gynnig y dewis cynta' o'r tiroedd i Lot (fel eu bod yn gwahanu). Roedd Lot yn gweld y tir gwastad, ffrwythlon ac yn ei hawlio, ac Abram yn gorfod bodloni ar y mynydd-dir creigiog gwael. Ond fe ofalodd Duw am Abram a'i fendithio. Yn y diwedd, mae angen i ninnau ystyried ein gwir angen ac mai cymaint gwell yw gras a ffafr gyda Duw, na'r hyn y gall y byd ei gynnig i ni.
Mae gan y Beibl lawer o ddarluniau o fyd amaeth. Pa un yw dy hoff ddarlun?
Wel dim syrpreis fan hyn! "Yr Arglwydd yw fy Mugail." Fuodd gen i fawr o amynedd gyda defaid 'rioed ac ar ôl gorffen y tymor wyna ar y fferm, dwi'n cael f'atgoffa pam! O! Mae 'na waith efo nhw, mynnu crwydro, mynd yn sownd a mynnu mynd i lefydd peryglus!
Mae'r Beibl yn dweud ein bod ni'r un peth - yn Eseia 53 mae'n dweud: "Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid - pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe." Diolch i Dduw mai ef yw'r Bugail da, fel mae'n ddweud yn Salm 23.
Mae yna lawer o drafod ar yr economi a dyfodol amaethyddiaeth a diwydiannau eraill ond beth, yn dy farn di yw angen mwyaf Cymru?
O ran amaethyddiaeth? Mae'n hen ddiwydiant ac mi wn o brofiad beth olygai'r Beibl pan mae'n dweud mai 'trwy chwys dy dalcen y bwytei fara". Ond mae'n sicr fod gennym le i helpu wynebu'r her fawr o fwydo pobl y ddaear. Fe gymerodd 120 o flynyddoedd i boblogaeth y byd gynyddu o 1 i 2 biliwn, ond dim ond 12 mlynedd i gyrraedd o 6 i 7 biliwn ym mis Hydref 2011! Mae amaethyddiaeth yn holl bwysig i'n byd a'n gwlad ni.
Ar ôl meddwl am ateb i'r cwestiwn blaenorol does ond un ateb i beth yw angen pawb, fel mae'n dweud yn y Beibl "Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?"
Mae angen i neges Iesu gyrraedd calonnau mwy o bobl Cymru, ac i fywydau gael eu newid gan ei gariad.
Cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Holi Awst 2017
Comments