top of page
  • HOLI

Ffydd yn wyneb marwolaeth

Dyma erthygl a ymddangosodd am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ol. Bu farw David Ollerton ym Mis Mawrth 2017, ac rydym yn ail-gyhoeddi’r erthygl hon gyda diolch arbennig i wraig a theulu David am eu parodrwydd i wneud hyn yn ystod y cyfnod hwn. Ein gweddi yw y bydd profiad a geiriau David yn gymorth i eraill.


Mae David Ollerton yn ddyn o wrthgyferbyniadau. Dyma ddyn a anwyd yn Lloegr ond sydd bellach yn byw yng Nghymru. Dyma gefnogwr brwd o dîm rygbi Lloegr (ond nid o’r tîm pêl-droed!) ond sydd eto wedi rhoi rhan helaeth o’i fywyd i wasanaethu pobl Cymru. Ac ar hyn o bryd os nad yw adref yna rydych yn debygol o’i weld un ai’n gorwedd ar wely yng nghanolfan ganser Felindre neu yn cerdded rhai o fynyddoedd mwyaf Bannau Brycheiniog!

Aeth HOLI i’w ...holi


Diolch am siarad gyda ni, beth am i ni gychwyn yn y cychwyn, sut y cychwynnodd y cyswllt gyda Chymru?


Cefais fy ngeni a’m magu yn swydd Caerhirfryn ac fe ddechreuodd y cyswllt gyda Chymru pan o’n i’n gweithio yng nghanolfan y mynyddoedd yn Nhremadog yn y 70au. Roedd Liz, a ddaeth yn wraig i mi, yn gweithio yno hefyd ac ar ôl cyfnod y tu allan i Gymru fe ddychwelon ni i ardal Pen-y-bont ar Ogwr lle’r oeddwn yn gweithio mewn eglwys Saesneg. Gadewais ardal Pen-y-bont a symud yn ôl i Loegr, ond fe wnes i’n fuan sylweddoli fod hynny’n gam i gyfeiriad anghywir ac roeddwn eisiau dod yn ôl. Felly yn ’98 symudon ni nôl i Gaerdydd, ac yno dwi wedi bod ers hynny!

Mae’n amlwg wrth siarad gyda chi fod gennych deimlad dwfn tuag at Gymru, bron gallai rhywun ddisgrifio eich profiad yn y 90au fel hiraeth. Ydych chi’n gallu esbonio o le daeth hynny?


Pan symudais i Ben-y-bont roedd consyrn dros yr eglwys yno gen i, ond i fod yn onest roeddwn yn byw fel ‘ex-pat’. Doeddwn i ddim yn cysylltu gyda’r Cymry a doeddwn i erioed wedi ystyried Cymru fel cenedl neu’r Cymry fel pobl wahanol i neb arall. Ond wedi i mi symud i ffwrdd mi wnes i sylweddoli pa mor anghywir a sarhaus oedd hynny mewn gwirionedd. Wrth ymweld â Chymru a dod yn ôl i gynadleddau ac wrth siarad gyda phobl fel Dr Tudur Jones (darlithydd ym Mangor) mi sylweddolais pa mor arbennig oedd Cymru a bod ganddi hi a’i phobl hunaniaeth a gwerth arbennig.


Roedd fy niddordeb a’m consyrn dros Gymru’n tyfu ac mi sylweddolais mai peth hollol drahaus oedd ceisio ymwneud a helpu pobl heb fynd ati i’w deall a’u cydnabod fel pobl oedd ag iaith, cefndir a gwerth arbennig. Penderfynais ddysgu Cymraeg drwy’r cwrs WLPAN.

Agorodd hyn fyd newydd i mi! Mi ddes i ddysgu a phrofi mwy am Gymru ac roedd croeso’r bobl a’r ffaith eu bod yn fy nerbyn yn agoriad llygad. Mi ddes i weld nad dim ond mynyddoedd prydferth oedd i’w cael yng Nghymru ond fod yna gymaint o gymunedau, pobl a thraddodiadau arbennig yma. Mae’r ffaith fy mod wedi aros yma am yr ugain mlynedd ddiwethaf yn tystio i hynny.

Felly, ar wahân i ddysgu Cymraeg, beth ydych chi wedi bod yn ei wneud dros yr ugain mlynedd ddiwethaf?


Mi wnes i ddychwelyd i Gaerdydd i fod yn weinidog, ond fel rhan o fy nghontract fe wnes i fynnu fy mod yn cael diwrnod yr wythnos i helpu eglwysi drwy Gymru yn fwy cyffredinol. Mi wnes i hyn gan fod gennyf gonsyrn fod ardaloedd mawr o Gymru heb lais Cristnogol cryf i rannu’r newyddion da am Iesu. Arweiniodd hyn yn y diwedd at gychwyn mudiad o’r enw Cymrugyfan - mudiad sydd yn ceisio plannu a chryfhau eglwysi a chapeli drwy’r wlad. Mae llawer o’m hamser felly wedi bod yn cael ei dreulio yn arwain y mudiad ac yn crwydro i bob cornel o Gymru yn ceisio helpu ac annog gweinidogion a Christnogion. Dwi hefyd wedi treulio dipyn o amser yn ymladd canser!

Wrth siarad gyda chi mae rhywun bron yn cael y teimlad eich bod wedi bod yn ymladd yr afiechyd mor hir nes eich bod yn cymryd y peth bron yn ysgafn, fel rhywbeth sydd yn rhan arferol o fywyd. Fedrwch chi rannu ychydig o sut ydych chi’n gallu delio gyda’r peth mor agored?


Pan ddaeth y llythyr gan y dermatolegydd (yn 2005) gyda’r ‘C word’ arno roedd yn sioc anferth ac yn ddychryn gwirioneddol i mi a’r teulu. Ces fy atgoffa pa mor fregus oedd bywyd, a’m bywyd i yn bersonol. Er bod y doctoriaid wedi gallu delio gyda’r canser cyntaf yma yn weddol rwydd, fe orfodwyd i mi wynebu cwestiynau mawr fel pam dwi yma a beth ‘dwi am wneud gyda gweddill fy mywyd os nad oes gennyf lawer o amser ar ôl? Roedd y cyfnod cyntaf yma yn gyfnod o gymhwyso fy ffydd Gristnogol - oedd wedi bod yn sail i fy mywyd ers yn ddyn ifanc – i’m bywyd a’m marwolaeth. Roedd hyn mor bwysig ac yn gymaint o help wrth ystyried beth oedd gan y dyfodol mewn stôr.

Felly dyma’r canser yn dod yn ôl?


Rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach fe es i ddechrau teimlo yn wirioneddol sâl ac mi ges i fy rhuthro i’r ysbyty. Doedd y newyddion ddim yn dda, esboniwyd i mi fod gennyf lymphoma, sef canser y gwaed. Roedd y canser wedi mynd i bob rhan o fy nghorff ac am ryw reswm doedd e ddim wedi dangos ei hunan tra’r oedd yn datblygu. Doedd y doctor ddim yn disgwyl y byddwn yn byw i weld diwedd yr wythnos. Roedd hi’n ddydd Mawrth ac roedd disgwyl y byddwn yn farw erbyn y Sul.

Mae’n rhaid bod hynny’n erchyll.


Dwi’n cofio fel teulu ein bod wedi colli llawer o ddagrau, roedd wynebu a meddwl am golli cwmni ein gilydd a methu’r holl brofiadau oedd o’n blaenau yn anodd. Ond roedd gennyf heddwch dwfn, dwi’n hollol onest wrth ddweud nad oeddwn yn ofni o gwbwl, roedd gennyf sicrwydd a thawelwch yn y sefyllfa.


Mae’n amlwg eich bod wedi goroesi’r wythnos – beth ddigwyddodd?


Yn wyrthiol roedd yna Athro oedd yn arbenigo mewn canser yn ymweld â’r ysbyty ac fe ddigwyddodd edrych i lawr y microsgop ar sleidiau o fy ngwaed. Fe wnaeth adnabod y math anghyffredin o ganser ac fe esboniodd pa driniaeth oedd angen arnaf. Ond dim ond 5% oedd y survival rate. O dipyn o beth, wrth i mi wynebu blwyddyn o driniaeth chemo mi ddes i drwyddi. Yn gorfforol roedd yn gyfnod anodd o salwch a gwendid.


Wedyn, ar ôl tair blynedd, datblygodd canser arall yn y coluddyn. Felly dyma gychwyn ar flwyddyn arall o driniaeth fwy anodd (gan fod y canser yn wahanol).

Mae’n anodd i rywun ddirnad pa mor erchyll yw’r driniaeth, pa effaith oedd y cyfan yn ei gael arnoch chi?


Yn gyntaf mae’n rhaid i mi ddweud pa mor anhygoel yw’r gofal rwyf yn ei dderbyn gan y tîm yn y Ganolfan Ganser yn yr ysbyty. Maen nhw mor ofalus ac mae eu gofal yn arbennig, mae’r driniaeth hefyd yn datblygu a gwella o hyd. O ran yr effaith arnaf fi, roedd y llawdriniaeth yn anodd ac roedd y chemo yn gwneud i mi deimlo’n wirioneddol sâl. Mae rhai o’r tabledi mor wenwynig i’r corff (gan eu bod yn ceisio lladd y canser) fel nad oes modd eu cyffwrdd oherwydd yr effaith y gallent ei gael ar y croen. Unwaith eto, gweithodd y driniaeth... ond wedyn, y llynedd, daeth y canser yn ôl. Dwi ar hyn o bryd ar gylchdro o ddwy wythnos sy’n golygu fy mod yn mynd i’r ysbyty ar ddydd Mawrth i ddechrau ar y driniaeth. O fewn hanner awr i ddechrau pwmpio’r cemegau i mewn i’r corff dwi’n teimlo fel pe bawn yn gwisgo cot fawr blwm - mae yna bwysau a gwendid mawr yn dod drosof. Bydd hyn yn gwaethygu dros y dyddiau nesaf ac mae’n debyg y byddaf (erbyn y Sul) yn fy ngwely ar feddyginiaethau atal salwch. Yna mae pethau’n dechrau gwella yn araf, ac erbyn diwedd yr wythnos ganlynol dwi’n ceisio mynd i gerdded mynydd! Yna mae’r cyfan yn cychwyn eto.

Beth sy’n eich cadw i fynd drwy’r driniaeth?


Yn gyntaf dwi wedi gwrthod derbyn meddylfryd rhywun sâl. Mae’r nyrsys weithiau’n gofyn ydw i mewn rhyw fath o ‘denial’. Dwi’n ceisio esbonio mod i’n deall ac yn derbyn yr hyn sy’n digwydd i mi ond dwi am herio’r sefyllfa a gwneud y gorau o bethau. Dwi’n edrych o’m cwmpas ac yn gweld pobl yn methu credu fod y fath beth wedi digwydd iddyn nhw. Dwi ddim yn teimlo fel hynny oherwydd dwi’n gwybod fod Duw yn rheoli. Dwi’n ceisio parhau i weithio gymaint ag sy’n bosib (yn ystod y driniaeth am y ddau ganser mwyaf difrifol dwi wedi ysgrifennu dau lyfr) a dwi’n gwneud pethau fel cerdded mynyddoedd - dwi ddim am roi i mewn i’r salwch.


Yn ail, mae fy mherthynas gyda Duw yn fy nghadw i. Dwi’n darllen y Beibl a gweddïo bob bore a dwi’n diolch i Dduw am bob diwrnod mae’n ei roi i mi. Gadewch i ni fod yn onest, mae pawb yn mynd i farw rhywbryd, ond mae gennyf gymaint i fod yn ddiolchgar iddo am yr hyn mae wedi ei wneud ar hyd fy mywyd. Dwi’n siarad gyda Duw drwy’r dydd ac mae’n rhoi nerth i mi wynebu pob sefyllfa - dwi’n gwybod ei fod yn rheoli bob dim. Mae darllen cerddi ac emynau Williams Williams, Pantycelyn hefyd yn rhoi hyder a chymorth i mi wrth iddyn nhw esbonio beth mae Iesu wedi’i wneud i fy helpu a’r hyn mae’n parhau i’w wneud.

Felly sut mae pethau ar hyn o bryd?


Mae’r sefyllfa bellach yn ddifrifol gan fod y canser wedi ymledu i’r ysgyfaint a’r iau. Nid yw’r driniaeth hyd yma wedi cael effaith ar y canser a byddaf yn darganfod yn fuan os yw’r driniaeth newydd yr wyf wedi ei chychwyn yn cael effaith. Mae’n debygol, o edrych ar y peth yn ddynol, mai dim ond dwy i dair blynedd sydd gennyf ar ôl ar y Ddaear. Er hynny dwi’n gweddïo ar i Dduw fy ngwella, tra’n trystio’r cyfan iddo fe, dwi am i’r cyfnod yma fod yn springboard nid yn swansong.

Mae marwolaeth yn amlwg yn realiti yr ydych chi’n ei wynebu - sut ydych chi’n gallu gwneud hyn?


Mae delio efo marwolaeth ar un wedd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd fel gweinidog ac rwyf wedi helpu nifer fawr o bobl i wynebu marwolaeth gan fod yno gyda nhw a’r teulu drwy’r foment olaf. Ond mae wynebu’r peth eich hunan yn wahanol gan ei fod yn bersonol a real.

Dwi ddim yn ofn marw o gwbwl gan mod i’n gwybod byddaf yn mynd i’r nefoedd at Iesu. Mi soniais yn gynharach am emynau Williams Williams, ac maen nhw’n gymaint o help gyda hyn.


Mae ei emynau’n aml yn cychwyn drwy son am Iesu. Iesu ydy’r un sydd wedi byw’r bywyd perffaith ac wrth iddo farw ar y groes mae’n cymryd y gosb yr ydw i’n ei haeddu. Mae’r Beibl (a William Williams) yn ei ddisgrifio fel yr Iawn (neu’r pris sydd wedi’i dalu) – ac mae hyn yn tawelu pob ofn ac euogrwydd dwi’n ei deimlo. Mi fyddai’n cael mynd i’r Nefoedd oherwydd fod Iesu wedi cymryd y gosb dwi’n ei haeddu. Nid lle mytholegol yn y cymylau yw’r nefoedd, ond lle real lle bydd miliynau o bobl yno gydag Iesu heb ddrwg na phoen na salwch.

Dwi felly ddim yn ofni marwolaeth, dwi’n gwybod y bydd y doctoriaid yn gwneud y peth mor gyfforddus i mi yn gorfforol drwy roi meddyginiaethau lladd poen, ac yna mi fyddai’n cael gweld Iesu. Mae’r Nefoedd wen yn dod.

Rydyn ni’n edmygu eich ffydd chi, a plîs maddeuwch i mi am fod mor blaen, ond pa sail sydd gennych chi i gredu hyn? Gallai person ddadlau mai rhyw crutch seicolegol yw’r cwbl?


Nid theori neu good luck charm yw Iesu Grist. Pan oeddwn i'n pedair ar bymtheg oed roeddwn yn fachgen reit annymunol. Roedd fy iaith yn fudr, roeddwn yn dipyn o sadist (yn ôl fy athro ysgol), yn chwarae rygbi yn galed iawn, yn dwyn ac yn boen yn yr ysgol. Yna fe ddigwyddodd rhywbeth dwfn i mi, mi wnes i ddod i sylweddoli fy mod i’n atebol i Dduw ac roedd hyn yn fy mhoeni yn fawr. Mi wnes i ddechrau teimlo’n euog gan fy mod yn gwybod fod Duw wedi fy nghreu ond fy mod i wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Dyna pryd y ces i brofiad real o Iesu: mi wnes i sylweddoli ei fod wedi marw er mwyn cymryd fy nghosb ac mi wnes i roi fy ymddiriedaeth ynddo. Roedd y newid yn syfrdanol a real, does dim dadl am hynny - roedd pobl y pentref hyd yn oed wedi dechrau betio pryd y byddwn yn dychwelyd i’m hen ffyrdd. Ond wnes i ddim, oherwydd bod Iesu wedi gweithio yn fy mywyd.

Dros y blynyddoedd gallaf dystio i gwmni real Iesu a dwi wedi ei weld yn gweithio dro ar ôl tro mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Dyma pam dwi’n medru cysgu yn y nos a pam dwi ddim yn poeni am farw - mae Iesu yn real a dwi’n profi hynny.

33 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page