top of page
  • HOLI

O ymladdwr strydoedd cefn i athro ysgol sul

Updated: Apr 2, 2020

Trawsnewid bywyd - Stori Wayne Probert



Roedd fy mhlentyndod yn ddigon anodd. Cefais fy mwlio yn yr ysgol a bu farw fy ffrind gorau. Yn 21 collais fy nhad, rhywbeth gafodd effaith fawr arnaf. Am ugain mlynedd bûm yn gweithio oddi tan y ddaear yn cloddio am lo ond fe gaeodd y pwll ac roeddwn yn methu’r hwyl gyda’r bois a’r pwrpas yr oedd gwaith yn ei roi i mi. Roeddwn yn mwynhau gweithio fel security mewn digwyddiadau mawr ond rwyf bellach yn gofalu am rigiau drilio mewn chwareli.

Mi wnes i gyfarfod a’m gwraig pan oeddwn yn bedair ar ddeg, ac mae hi wedi bod wrth fy ochr hyd heddiw. Mae fy merch a’m hwyres yn byw gyda ni, a bydd fy mab yn ymuno gyda ni pan ddaw allan o’r carchar.


Dyn caled

Dwi’n gwybod mod i’n ddyn caled. Mi wnaeth y bwlio yn yr ysgol fy nghaledu a dechreuais fwynhau gwneud i eraill beth oedd wedi cael ei wneud i mi. Roeddwn wrth fy modd yn ymladd.

Roedd yr holl fois ar draws y cymoedd yn fy adnabod, a byddent yn teithio o bellter i’r dafarn leol er mwyn cael ymladd â mi. Fyddwn i byth yn gwrthod ac yn barod i ymladd ag unrhywun. Doedd o ddim yn fy mhoeni pan oeddwn yn colli; roedd y wefr o ymladd yn fy nghyffroi a’r boen a’r anafiadau yn gwneud i mi deimlo’n fyw.

Byddwn yn chwerthin bob tro y byddai sôn am gapel yn codi mewn sgwrs. Dwli oedd y cyfan yn fy marn i. Ond ychydig flynyddoedd yn ôl, wrth gerdded y ci i lawr y lein trenau yn Abersychan fe wnes i gyfarfod a Colin fy hen ffrind. Roedd ei hanes yn ddigon tebyg i mi; roedd yn ddyn garw yr oeddwn yn ei barchu, ond dywedodd ei fod wedi ‘ffeindio’ Duw a bod ei fywyd wedi newid. Dyma fe’n fy ngwahodd i’r capel. Doeddwn i’n methu credu’r peth a gadewais y sgwrs yn chwerthin.

Arhosodd Colin ar fy meddwl dros yr wythnosau nesaf. Os oedd Duw yn gallu newid Colin, efallai y gallai wneud yr un peth i mi?


Dyn newydd

Er mawr syndod i fy hunan fe es i’r capel. Roeddwn yn mwynhau’r profiad, ac mi wnes i barhau i fynd, ond roedd yn fisoedd cyn i Dduw siarad â mi.

Roedd hi’n nos Iau arferol ac roeddwn yn eistedd yn y cyfarfod dynion, ond wrth i John (y gweinidog) siarad, gweithiodd Duw yn fy nghalon a sylweddolais fod y cyfan yn wir. Mi wnes i brofi realiti fod Iesu wedi marw drosof fi ac wedi talu’r pris oedd yn rhaid i mi ei dalu wrth farw ar y groes. Cymerodd Iesu’r gosb dros yr holl ddrygioni yr ydw’i wedi ei wneud ac mae yn Arglwydd ar fy mywyd.

Yn arferol ar ôl y cyfarfod roeddwn yn mynd yn syth i’r gwely gan fod rhaid codi’r bore canlynol yn gynnar i fynd i’r gwaith. Ond doeddwn i’n methu cysgu. Wna’i byth anghofio’r profiad. Mi wnes i ffonio John o’m gwely i ddweud fod rhywbeth wedi digwydd i mi. Dywedais wrtho fod y cyfan yn wir.


Dyn sydd wedi ei newid

Y flwyddyn ddiwethaf bu bron i mi gael damwain car. Neidiodd y gyrrwr arall allan o’r car yn flin gan redeg ataf er mwyn ymladd. Roedd y demtasiwn mor gryf i ddysgu gwers iddo a mynd yn ôl i’m hen ffordd o fyw. Ond gafaelais ynddo a’i gerdded yn ôl i’r car gan esbonio y byddai yn yr ysbyty oni bai fod Iesu wedi gweithio yn fy mywyd. Aeth y dyn i ffwrdd yn dawel! Erbyn hyn dwi’n mynd a llyfrau bach sy’n sôn am Iesu gyda mi i bob man, er mwyn eu rhoi i bobl, rhag ofn i rywbeth tebyg ddigwydd eto. Mae’r math hyn o beth yn digwydd yn reit aml i mi! Mae Iesu wedi dangos ffordd well, a dwi ddim am fynd yn ôl i’r hyn oeddwn i.

Ers hynny, mae fy ffydd wedi cryfhau. Dwi wrth y drws yn y capel bob bore Sul i groesawu pobl, a dwi’n rhedeg y gwaith i bobl ddigartref yn Noddfa (y capel lleol). Dwi’n hyfforddi i ddod yn swyddog yn y capel a dwi hefyd wedi dod yn athro ysgol Sul - mae’r plant wrth eu bodd yn lliwio’r tatŵs ar fy mreichiau. Dwi’n helpu’r gweinidog i drefnu’r cwrdd carolau cymunedol blynyddol a dwi’n cyfarfod gymaint o fy hen ffrindiau sydd methu credu beth sydd wedi digwydd i mi. Maent yn chwerthin, yn union fel yr oeddwn i arfer gwneud. Dwi’n gweddïo drostyn nhw.

Dwi’n berson gwahanol heddiw; mae’n glir i’r byd i gyd, a gwaith Duw yw’r cyfan. Mae fy neges yn syml. Os gall Duw newid fy mywyd i, yna gall newid bywyd unrhywun.

6 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page