top of page
HOLI

Stori Megan

Updated: Apr 2, 2020

Nid bod yn besimistaidd oedd y doctoriaid pan esbonion nhw y baswn i'n ddifrifol anabl; dyma oedd realiti'r anafiadau...



Go brin y byddech yn ymwybodol wrth edrych arni heddiw'r brwydrau y mae Megan Jones wedi gorfod eu hymladd. Mae yna gryfder ym mer esgyrn y ferch ifanc o Drawsfynydd ac yma mae'n rhannu ei stori...

Megan ydw i a chefais fy magu yng nghyffiniau Trawsfynydd - magwraeth cefn gwlad hapus. Fi ydi'r drydedd o bedair chwaer - Alaw, Catrin ac Elen, a fi oedd yr un oedd wastad mewn trwbwl ac yn bengaled a styfnig fel mul. Doeddwn i ddim yn swil ac mae'n chwiorydd yn tynnu'n nghoes yn dweud ma fi gafodd nodweddion drwg y bedair ohonom! Ro'n i yn ddisgybl disglair ac yn llwyddo yn yr ysgol ac wrth fy modd yn chwarae'r piano.


Roedd mynd i'r capel yn rhan bwysig o fywyd y teulu ac, er fy mod wastad yn ymwybodol fod yna Dduw, dim ond yn fy arddegau y ces i sicrwydd fod Iesu wedi marw drosof fi. Roedd y flwyddyn gyntaf o fod yn Gristion go iawn yn wych ac roeddwn i ar dân dros Iesu, ond yn araf deg daeth dylanwadau eraill i'm bywyd oedd i weld yn fwy deniadol na darllen y Beibl a mynd i'r capel.


Erbyn cyrraedd dwy ar bymtheg roedd Cristnogaeth a fy ffydd wedi cymryd sêt gefn yn fy mywyd. Do'n i ddim eisiau dilyn Duw rhagor gan fy mod yn teimlo ei fod yn rhyw fath o 'party pooper' oedd heb unrhywbeth i'w gynnig i mi. Felly a minnau newydd basio fy mhrawf gyrru gwnes benderfyniad fy mod eisiau bod wrth lyw fy mywyd fy hun.


Ond ar yr ail o Hydref, 2012 newidiodd popeth.


Y ddamwain


Yn ôl y sôn, roedd y tywydd yn erchyll gyda chawodydd trwm o law ar y diwrnod hwnnw. Roeddwn angen benthyg y car am y noson er mwyn mynd am gyfweliad mewn gwesty lleol ac er bod Mam wedi fy rhybuddio i yrru'n ofalus, mi es allan o'r tŷ heb boeni ac yn sicr o fy hunan.


Tra'n gyrru adref ar hyd yr A470, yn ymyl Ganllwyd, fe drawodd y car bwll mawr o ddŵr ar y ffordd ac mi wnes i golli rheolaeth. Ro'n i'n gwneud tua 40 milltir yr awr, a ddim yn gyrru'n wirion, ond roedd y cyfan yn ddigon i wneud i'r car adael y ffordd, torri drwy'r ffens a phlymio lawr llethr serth gan ddod i stop yng ngwaelod y cae.


Yn ffodus iawn roedd pobl wedi gweld y ddamwain a galwyd y gwasanaethau brys.



O fewn 45 munud roeddwn wedi cyrraedd Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd ac wedi cael fy rhoi mewn coma artiffisial. Roedd yn amlwg bod fy anafiadau'n ddifrifol ac ar ôl ychydig oriau yn Ysbyty Gwynedd yn cael fy sganio a'm rhieni'n cyrraedd, cefais fy nhrosglwyddo i ysbyty major trauma centre yn Stoke-on-Trent.


Dwi ddim yn cofio'r dydd Mawrth hwnnw, na dim byd am y saith wythnos ddilynol y gwnes i ei dreulio yn yr uned gofal dwys.


Roedd y doctoriaid wedi paratoi fy nheulu fod posibilrwydd cryf nad oeddwn am ddeffro o'r coma; roeddwn yn sâl iawn gydag anafiadau pen difrifol a llawer o gymhlethdodau ychwanegol gan gynnwys colli dros ddau-draean o'm mherfedd bach. Wedi iddynt atal y cyffuriau, oedd yn fy nghadw mewn coma artiffisial, roedd rhaid disgwyl i weld os oeddwn am ddeffro mewn diwrnod neu ddau. Ond ni ddeffrois ac nid oedd unrhyw arwydd fy mod am ddeffro.


Roedd hwn yn gyfnod ofnadwy i fy nheulu, ond yn araf bach dechreuais ddangos arwyddion fy mod yn deffro, ac ar yr ugeinfed o Hydref agorais fy llygaid am y tro cyntaf. Er fy mod yn effro mewn rhyw ffordd, dwi dal ddim yn cofio dim am y cyfnod hwnnw na dim hyd at ganol Tachwedd ar ôl i mi gael fy symud i ward neuro. Treuliais dros wyth mis yn yr ysbyty yn Stoke gyda phedwar o'r rheini mewn uned rehab arbenigol i anafiadau pen.


Deffro



Mae fy atgofion cyntaf wedi'r ddamwain yn rhai o deimlo heddwch a phresenoldeb Duw. Mewn ffordd oedd yn amhosib i'w ddisgrifio, roeddwn i'n gwybod bod y ddamwain wedi digwydd am reswm. Yn syndod i mi, ac er nad oeddwn i'n gwybod beth oedd i ddod, nid oeddwn yn flin gyda Duw.


Er bod gennyf heddwch, roedd y misoedd o wella yn rhai caled. Roedd effaith yr naf pen yn dal i fod yno ac roeddwn yn eithradol o wan. Un diwrnod, fe dynnais y tracheostomy (peipen anadlu yn fy ngwddw) allan – dwi ddim yn cofio llawer am hyn – dim ond pobl yn rhedeg i mewn a larymau yn canu! Ar ôl i'r beipen ddod allan roedd disgwyl i mi ddechrau siarad ond doeddwn i ddim yn gwneud ymdrech o gwbwl i symud fy ngwefusau heb sôn am greu sŵn. Ro'n i i weld yn hapusach yn sgwennu popeth lawr mewn sgwennu mawr blêr fel yr o'n i wedi bod yn ei wneud ar ôl dod allan o'r coma yn yr uned gofal dwys. Roedd y doctoriad yn amau fod yr anaf i'm hymenydd wedi effeithio ar fy lleferydd ac roedd ansicrwydd os baswn i'n siarad eto.


Roedd llawer yn gweddïo ar i mi ddechrau siarad a dwi'n cofio ffrind da yn gyrru adnod i mi o Salm 40:


"Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr Arglwydd."

Yn ddigon siwr dyma nyrs yn gofyn i mi un diwrnod os oeddwn yn gwybod pa fis oedd hi ac atebais i yn y llais gwanaf erioed. Roedd fy llais yn wan iawn ond yn araf deg (drwy ymarfer lot!) daeth fy llais yn ôl.


Peth arall oedd yn her oedd gorfod dysgu cerdded eto - roedd y physio yn ddiflas mae'n rhaid dweud ond ar fy mhenblwydd yn ddeunaw cerddais i fyny'r grisiau am y tro cyntaf... eto!


Er bod fy atgofion cyntaf yn aneglur ac yn teimlo fel breuddwydion pell, yn araf deg daeth fy nghof yn ôl er fod Mam dal i allu gweld gwahaniaeth ynof.


Adref am ychydig


Yn ystod fy amser yn yr ysbyty ro'n i yn cael mynd adref rai penwythnosau. Y tro cyntaf i Mam fynd â fi adre dywedodd ei fod fel mod i'n gweld y byd am y tro cynta, yn pwyntio a synnu ar bethau fel coed o bob dim! Roedd mynd adref yn teimlo fel gwyliau gwych ond erbyn y nos Sul ro'n i'n barod ac eisiau mynd yn ôl i'r ysbyty. Mae hynny'n swnio'n hurt i mi rwan ond gan mai yn yr ysbyty roeddwn wedi deffro o'r coma, roedd yn rywle lle o'n i'n teimlo'n ddiogel a chyfforddus.


Y peth anoddaf yn fy adferiad oedd y rhwystredigaeth mod i ddim yn gallu bwyta. Roedd gen i gyflwr reit unigryw o'r enw oesophageal stricture olygai bod y ddamwain wedi anafu a chreithio darn o fy llwnc. Roedd fy llwnc yn rhy gul i fwyd fynd i lawr ac felly roeddwn yn gorfod cael tiwbiau i mewn ac allan drwy'n nhrwyn i'm stumog (amhleserus iawn). Roedd hi mor anodd bwyta ac roedd yn rhaid i mi gael triniaethau aml iawn lle'r oeddynt yn rhoi teclyn i lawr fy ngwddf i geisio ymestyn y llwnc.


Hyd yn oed ar ôl i mi ddod adref o'r ysbyty ro'n i'n gorfod mynd yn ôl i Stoke bob rhyw bythefnos i gael triniaeth. Er mod i'n medru bwyta ychydig ar ôl pob triniaeth (gyda digon o ddŵr i olchi'r bwyd i lawr) doedd bwyta ddim yn rhywbeth o'n i'n ei fwynhau rhagor. Wedyn byddai'r stricture yn cau ar ôl rhai dyddiau, fel nad o'n i'n gallu yfed heb sôn am fwyta. Roedd y dyfodol yn gwbl ansicr a doeddwn i ddim yn deall pam fod Duw wedi fy iachau i'r fath raddau dim ond i'm gadael i faglu ar y rhwystr olaf.


Ond yn araf deg dechreuodd y bylchau rhwng y triniaethau ymestyn ac erbyn heddiw, dydw i ddim wedi cael triniaeth o'r fath ers dros ddwy flynedd a hanner, sy'n gwbl wyrthiol. 'Dwi dal yn gallu teimlo'r graith pan dwi'n bwyta ond o'i gymharu â'r gorffennol rhywbeth bach iawn yw hyn erbyn rŵan.


Heddiw



Mae bron i bum mlynedd wedi mynd heibio ers y ddamwain ac ar wahanol adegau dwi wedi cyfarfod sawl person sydd wedi bod yn allweddol i achub fy mywyd. Mae'n fraint cael ysgwyd eu llaw a dweud diolch o waelod calon iddyn nhw; er bod rhai yn dweud eu bod yn gwneud dim mwy na'u swydd, mae'n gymaint mwy 'na hynny. Dim ond y mis o'r blaen ro'n i'n siarad mewn Major Trauma Conference yn Llanelwy pan gwrddais â'r meddyg wnaeth fy nerbyn oddi ar yr hofrenydd ym Mangor ac achub fy mywyd.


Rydw i'n ffrindiau da iawn erbyn hyn gyda Vicky oedd yn nyrs i mi yn yr uned gofal dwys. Hi oedd yn gofalu amdanaf yn ystod yr adegau gwaethaf pan farwodd fy mherfedd bach. Gorfod i'm teulu ddod i ddweud 'tara' i mi y noson honno wrth i'r staff redeg â mi ar y gwely i gael fy sganio a wedyn y driniaeth anferth ddilynodd; doedd neb yn disgwyl i mi fyw'r noson honno. Vicky oedd yn edrych ar fy ôl a chlywodd Mam hi'n dweud "Come on Megan, I've been praying for you". Roedd y gair 'prayer' yn ddigon i Mam godi ei phen a gofyn "Did you say pray?". Daeth yn amlwg bod Vicky'n Gristion ac roedd ei chynhaliaeth yn wych drwy gydol yr amser caletaf. Rydym ni wedi cadw mewn cysylltiad a fi oedd ei morwyn briodas yn 2015.


Mae doctoriaid yn fud wrth ystyried sut dwi wedi gwella. Does dim esboniad gwyddonol pam fy mod yn fyw heddiw ac mae'n fwy o syndod fyth mai'r un Megan ydw i ag yr oeddwn cyn y ddamwain -'Dwi dal yn bengaled, styfnig ac yn uchel fy ngloch! Nid bod yn besimistaidd oedd y doctoriaid pan esbonion nhw i'm rhieni wedi'r ddamwain na faswn i byth yr un Megan ag oeddwn i o'r blaen ac y baswn i'n ddifrifol anabl; dyma oedd realiti'r anafiadau.


Pan welais fy neuro consultant am apwyntiad tua blwyddyn ar ôl y ddamwain, defnyddiodd hi'r gair 'gwyrth' mewn syndod oleiaf chwe gwaith. Yr unig beth oedd hi wir eisiau'i wybod oedd os oeddwn i dal yn gallu chwarae'r piano, ac ro'n i'n gallu dweud mod i.


Gwersi



Mae'n amhosib mynd drwy brofiad mor eithafol ag y gwnes i heb iddo eich newid yn sylfaenol a'r peth mwyaf newidiodd oedd fy agwedd tuag at fywyd.


Mae gwybod fod Duw wedi fy achub a rhoi ail gyfle i mi wedi rhoi pwrpas a chymhelliad dwfn i fyw fy mywyd yn gwasanaethu Iesu - beth bynnag y bydd hynny yn ei olygu. Dyna pam y cefais gymaint o drafferth gyda bwyta dwi'n meddwl - roedd yn rhaid i mi gyrraedd y pwynt gyda Duw lle y byddwn yn fodlon os na faswn i'n gallu bwyta eto. Dim ond o'r pwynt hwnnw ymlaen ddechreuodd pethau wella, ac wedi hynny, ddigwyddodd o ddim dros nos. Mi ddes i weld mai Duw oedd y peth pwysicaf yn fy mywyd, medru bwyta neu ddim ac mai Ef oedd yn rhoi pwrpas i'm bywyd a'i fod yn ddigon drwy unrhyw sefyllfa.


Dwi hefyd yn fwy diolchgar rwan. Mae Duw wedi fy mendithio gyda rhieni a theulu anhygoel oedd yn wych drwy'r cyfan. Mae'r ffaith mod i ddim yn cofio'r gwaethaf yn fendith ond roedd Dad oddi ar ei waith am dri mis ar ôl y ddamwain a Mam oddi ar ei gwaith am wyth mis cyfan. Fe aethon nhw drwy bob dim ac mewn llawer ffordd 'dwi'n meddwl mai fy nheulu a'm ffrindiau aeth trwy'r gwaethaf gan nad oedden nhw yn gwybod os o'n i am fyw neu farw am wythnosau.


Roedd yr holl gefnogaeth o adref yn anhygoel ac roedd pobl mor hael. Roedd pobl ar draws y byd yn gweddïo am fy iachâd ac roedd cael ymwelwyr yn teithio dros ddau gan milltir i'm gweld yn rhywbeth na allwn i byth ei ad-dalu.


Mae fy mhrofiad wedi rhoi golwg newydd ar bopeth. Rydw i'n teimlo fy mod yn gallu bod yn ddefnyddiol i Dduw drwy ddefnyddio fy mhrofiad er clod i'w enw. Rydw i, o dro i dro, yn siarad gan adrodd fy hanes mewn cynadleddau meddygol yn ogystal â rhai digwyddiadau Cristnogol. Mae'r cynadleddau meddygol yn ddiddorol iawn ac mae gofyn os oes gan unrhyw un gwestiwn ar y diwedd yn ddifyr iawn achos dim ond distawrwydd sydd 'na gan amlaf! Rydw i wrth fy modd yn annog Cristnogion drwy ddweud na fydd Duw byth yn eu gadael, hyd yn oed os ydyn nhw'n ceisio rhedeg i ffwrdd ohono!


Dwi bellach yn dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn astudio nyrsio ym mhrifysgol Southampton ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel nyrs. Gobeithio bydd y profiadau a'r hyn y gwnes ei ddysgu fel claf yn help i'm gwneud yn nyrs well ac yn help i eraill!


Ond mae'n rhaid i mi orffen drwy roi'r diolch i Dduw. Ef sydd y tu ôl y cyfan ac mae'n fraint ei fod wedi fy newis i ddangos pa mor fawr a rhyfeddol yw E - mae'n dal i wneud gwyrthiau heddiw. Mae'r profiad yma yn mynd i fod gyda mi ar hyd fy oes a baswn i ddim yn newid dim gan mai dyna sy wedi siapio pwy ydw i heddiw.


Cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Holi Awst 2017

20 views0 comments

Comments


bottom of page