top of page
HOLI

Iachau'r Toredig

Updated: Apr 2, 2020

Sut mae Duw’n defnyddio cwrs iachau trawma Beibl ganolog i iachau pobl ar draws y byd.

Mae bod yn or gyfarwydd gyda rhywbeth yn gallu arwain at ei esgeuluso. Ydy hyn yn wir am Y Beibl yng Nghymru? Mae'r Beibl wedi bod yn rhan o wead ein cymdeithas ers canrifoedd gyda llawer, os nad y mwyafrif, o ddeddfau a phatrymau bywyd wedi'u seilio arno. Ond mae'n ymddangos ein bod yn troi cefn ar y llyfr hwn. Yn yr erthygl hon byddwn yn dangos fel y mae'r Beibl yn parhau i fod yn rym er daioni yn ein byd. Wrth i ni chwilio am ystyr a gwirionedd ydy hi'n amser efallai i ni ddychwelyd at ein gwreiddiau ac at y Beibl?


Pan oedd David yn 12 oed roedd ar fws gorlawn yn teithio ar hyd lonydd llychlyd yr hyn sydd bellach yn Dde Sudan pan wnaeth milwyr ymosod ar y bws gyda’u gynnau, gan dorri’r ffenestri, malu’r teiars a lladd llawer o’r teithwyr ac anafu eraill.

Oherwydd lle roedd yn eistedd chafodd David mo’i daro a llwyddodd i gropian oddi ar y bws a dod o hyd i le i guddio mewn llwyni wrth ochr y ffordd. Bu’n llochesu yno am dridiau yn clywed crio a griddfan y rhai oedd wedi brifo, cyn iddo o’r diwedd gael ei achub.


Fe wnaeth David oroesi – ond roedd yr hyn ddigwyddodd ar y bws wedi ei newid gan effeithio ar y ffordd roedd yn byw am flynyddoedd lawer. “Doedd hi ddim yn dda arnaf yn fy nghalon” dywedodd blynyddoedd yn ddiweddarach. “Roedd y sefyllfa wedi fy ngwneud i’n chwerw ac roeddwn i’n ceisio dial ar bawb oedd yn gwneud rhywbeth drwg i mi. Doeddwn i’n gwybod dim am faddeuant.”


Ond newidiodd pethau i David eto pan gafodd gyfle i ddilyn cwrs iachau trawma. Yna cafodd David ac eraill oedd wedi dioddef sefyllfaoedd tebyg y cyfle i fynd ar daith Beibl ganolog tuag at iechyd. “Cyn gynted ag y gwnes i ddechrau astudio sut i iachau trawma mewn gweithdai,” meddai David “daeth goleuni i’m calon ac roeddwn yn ymwybodol bod gair Duw wedi treiddio’n ddwfn i fy meddwl. Mae hynny wedi fy ngwneud yn Gristion da.” O ganlyniad i’r newidiadau hyn mae David wedi dod yn arweinydd yn ei gymuned ac ef bellach sydd wedi ei ethol yn bennaeth y pentref.


Mae David yn un o lawer o bobl sydd wedi profi cymorth ac iachad rhag trawma drwy’r cyrsiau ers eu sefydlu yn Kenya yn 2002. O’r cychwyniadau cynnar yma mae’r cyrsiau wedi lledaenu ar draws y byd gan gyffwrdd dros filiwn o fywydau.


Ond beth sy’n peri bod y gweithdai hyn mor bwerus ac effeithiol? Beth yw’r daith Feiblaidd i iechyd y maent yn arwain pobl ar hyd-ddi? A sut wnaethon nhw ddatblygu allan o’r gwaith o gyfieithu’r Beibl?


Ymateb i effeithiau rhyfel


Diwedd y mil naw naw degau roedd Margaret Hill, un o awduron y llyfr ar iachau trawma ac ymgynghorydd cyfieithu’r Beibl, yn byw yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, gwlad oedd yn cael ei rhwygo gan ryfel. “Mi ges fy anfon allan o’r wlad cwpwl o weithiau” meddai Margaret “ac wedi i mi ddychwelyd ro’n i’n ymwybodol bod arweinwyr yr eglwys yn ei chael hi’n anodd deall effaith trawma rhyfel ar bobl fel David a pham bod cymaint o bobl yn eu cynulleidfaoedd yn ymddwyn mewn ffyrdd dinistriol a llawn dicter”.


Mae Harriet Hill (dim perthynas i Margaret) sydd hefyd yn un o awduron y llyfr ac a fu’n gwasanaethu gyda cyfeithwyr Wycliffe yn Cote d’Ivoire a Kenya ac sydd bellach yn gyfarwyddwr Sefydliad Iachau Trawma Cymdeithas y Beibl America, yn esbonio “Roedd nifer ohonom yn Wycliffe wedi dod i gysylltiad a thrawma rhyfel ac wedi dechrau holi beth sydd gan y Beibl i’w ddweud ynglyn a hyn? Sut mae darllen y Beibl o safbwynt dioddefaint anghyfiawn tymor hir ac erchyll?”


Er mwyn ceisio ateb y cwestiynau hyn cysylltodd Harriet a Margaret gyda Richard Bagge a Pat Miersma arbenigwyr ym maes iechyd meddwl sy’n gweithio yn Affrica. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ddatblygu drafft cyntaf yr hyn ddaeth maes o law i fod yn Healing the Wounds of Trauma. Rhoddwyd prawf arno am y tro cyntaf mewn gweithdy lle roedd gweinidogion o 10 grwp ethnig gwahanol oedd yn byw mewn gwledydd oedd yn faes y gad, yn ei gyfieithu cyn mynd yn ôl i’w cartrefi i’w ddefnyddio i helpu pobl yn eu heglwysi a’u cymunedau eu hunain. Y flwyddyn ddilynol cynhaliwyd gweithdy pellach gyda’r gweinidogion i weld beth oedden nhw wedi’i ddysgu ac yn sgil hyn adolygwyd y llyfr. Mae’r broses hon o adolygu ac o wella’r deunydd yn dal i fynd yn ei flaen. O’r cychwyniadau hyn mae popeth wedi tyfu.


Yng Ngoleuni’r Beibl


Mae Cami Robbins, sydd gyda’i gŵr Larry yn cydlynu iachau trawma i Wycliffe yng ngwledydd Affrica Ffrengig eu hiaith, yn credu mai’r prif reswm pam bod y cwrs mor effeithiol yr ei fod yn seiliedig ar y Beibl. Mae’n esbonio ymhellach “Pan mae iechyd meddwl yn cael ei ddysgu drwy’r Beibl mae nerth goruwchnaturiol ar waith. Defnyddiwn gymorth Beiblaidd a chroes Iesu i helpu gyda gwrando, ysgrifennu galarnadau a chyda’r ffordd rydym yn prosesu galar.


Mae Harriet hefyd yn credu mai y cyplysu yma rhwng y Beibl ac egwyddorion iechyd meddwl da sy’n gwneud y cwrs mor effeithiol. “Mae ymchwil wedi’i wneud gan ysgolheigion seciwlar ym maes iechyd meddwl yn dangos nad yw ceisio delio gyda trawma heb dalu sylw i’r ysbrydol mor effeithiol. Wrth gwrs nid dau beth arwahan yw iechyd meddwl da a’r Beibl – fel mae Margaret yn dweud.


Erthygl wedi ei chyhoeddi yn wreiddiol yn ‘Words of life: Wycliffe Bible Translators’ www.wycliffe.org.uk - hawlfraint lluniau Wycliffe Canada

2 views0 comments

留言


bottom of page