Mae hi’n noson braf o haf a’r machlud yn gynnes, ac yn dy law mae ’na lasied o win (neu gwrw, neu orinj jiws… ta waeth) mae’r diwrnod gwaith ’di darfod, arholiadau ’di cwblhau a’r plant yn eu gwlâu.
Ti’n syllu ar harddwch gwlad a hwnnw’n felys dan liwiau’r haul. Ew… ‘ac mae bywyd mor braf’ - mae’r hen Yws Gwynedd ’na yn llygad ei le. Stim rhyfedd bod y byd a’i Nain yn barddoni ’ma wrth i lesni a gwyrddni’r tirwedd ganu’u rhamant ym mhob deilen a phob diferyn.
Yna mae’r rhyfeddu’n dechrau pylu, mae’r foment ’di pasio a ti’n dechrau sobri. Er dy fod ti’n syllu mae dy feddwl di’n dechrau’ crwydro, ti’n cychwyn pendroni, sip arall o’r peroni… Oes ’na ystyr i hyn?
Hawdd yw dathlu a mwynhau pan fo natur ar ei orau neu wrth weld y cariad yn llifo wrth i fam afael yn ei phlentyn newydd anedig? Ond beth am yr adegau anodd ’na, yr adegau lle mae’r mwynhad a’r hapusrwydd yn bell a dim ond tristwch a siom sydd ar ôl? Pan ’da ni’n gweld daeargrynfeydd yn rhwygo’r ddaear gan adael llanast llwyr ar eu holau. Neu pan maen nhw’n darganfod fod y plentyn bach yn dioddef o leukemia.
Oes yna ystyr tu ôl i hyn i gyd? Ai hap a damwain ’di’r cyfan? Neu a oes yna ateb? Rhywbeth sy’n cynnig trefn ymhlith y dryswch?
Beth yw ystyr bywyd?
Dyma’r cwestiwn rydym ni wedi bod yn gofyn i bobl. Cwestiwn athronyddol, dwfn ac eto syml. Cwestiwn oedd yn achosi i sawl talcen grychu - beryg nad ydy hwn yn gwestiwn y byddem ni’n delio hefo fo yn aml. Eto, ’dw i’n siŵr ei fod yn gwestiwn y mae pawb yn ei ystyried weithiau. Cafwyd llawer o atebion, ond dyma’r rhai a ddaeth i’r brig - wn i ddim os ydych chi’n cytuno?
Cariad
Teulu
Ffrindiau
Llwyddo
Helpu eraill
Goroesi
Dim byd
O’r rhain i gyd mae’n debyg mae’r olaf sy’n sefyll allan - does dim ystyr i fywyd. Tybed ai dyna’ch safbwynt chi? Efallai eich bod o’r farn ein bod yn dod o ddim ac yn mynd yn ôl i ddim, mai clwstwr o atomau ydym ni, dim mwy, dim llai. Safbwynt sydd i weld yn diystyru popeth. Does dim affliw o ots am ddim byd yn y pen draw - ein perthnasau, gwaith, diddordebau na hawliau yn y diwedd.
Ond gadewch i ni fod yn onest mae’n anodd iawn byw fel yma gan ei fod yn mynd yn groes i’r graen. Rydym yn greaduriaid sydd angen bod mewn perthynas â’n gilydd; angen gwaith ac yn mwynhau gwahanol ddiddordebau. Rydym yn caru a galaru, yn teimlo i’r byw. Peidiwch â’ch twyllo i feddwl nad oes pwrpas i fywyd, neu’r unig bwrpas yw goroesi a sicrhau ein bod yn cynhyrchu epil. Ofer a gwag yw’r llwybr hwnnw.
Felly beth am gariad? Efallai mai dyma’r blaenaf o’r atebion ac sy’n cwmpasu’r gweddill i gyd. Cariad, yr hyn ’da ni’n ei deimlo, yr hyn sydd yn achosi i ni aberthu er mwyn eraill ac yn ein cymell i ddal ati pan fo pethau’n anodd. Mae cariad i’w ganfod ym mhob man - mewn perthnasau rhwng gŵr a gwraig, rhiant a phlentyn, rhwng cyfeillion a hyd yn oed tuag at yr hunan drwy chwilio am lwyddiant. Mae’n greiddiol i fywyd ac felly hawdd deall pam ei fod ar y rhestr mewn gwahanol ffyrdd.
Pan welwn gariad go iawn, boed hynny wrth ei dderbyn neu ei roi, gwyddom ein bod ar dir cadarn. Dyma sylfaen i fywyd, fel mae’r Beibl yn ddweud:
“Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymfrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf. Nid yw cariad yn darfod byth.”
Mae cariad Duw yn rhyfeddol.
Mae ein crëwr am i ni brofi’r cariad real hwn, er ein bod wedi troi cefn arno yn ein drygioni. Er i ni fel pobl ei wrthod a haeddu ei gondemniad a’i farn deg, mae’n dyheu am adfer y berthynas gyda ni.
Nid theori yw cariad Duw, fe’i gwelwn yn realiti hanesyddol wrth i Iesu farw ar y groes. Fel mae Iesu ei hun yn egluro:
“Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”
Daeth Iesu i’r byd a byw bywyd cwbl berffaith er mwyn marw. Marw er mwyn cymryd y gosb am ein drygioni ni. Gwnaeth hyn oherwydd ei gariad ryfeddol tuag atom ac er mwyn i ni gael bod yn ddiogel yn ei gwmni. Wrth i berson droi a chyfaddef ei fai a chredu a phwyso ar gariad Duw ar y groes, mae’n derbyn maddeuant llwyr ac mae’r berthynas yn cael ei hadfer.
All dim gymharu â pherthynas gyda’r un sydd wedi rhoi cariad i ni. Mae profi’r cariad hwn yn newid bywyd ynllwyr ac yn rhyddhau rhywun i fyw’n llawn. Dyma yw gwerth bywyd ac ystyr y cyfan. Cariad gostiodd gymaint i Dduw, sy’n sail i fywyd pob Cristion ac sy’n gwneud synnwyr o bob cariad arall.
Felly beth yw ystyr dy fywyd di? Er mor rhyfeddol yw derbyn a rhoi cariad, fydd cariad Duw yn Iesu byth yn gorffen. Bydd yn dal ati i’r eithaf. Ni fydd ei gariad yn darfod byth. At bwy wyt ti am droi i dderbyn cariad?
Elin Bryn
Comments