top of page
HOLI

Bywyd fel chwyrligwgan - Stori Kristian Dimond

Updated: Apr 2, 2020

Gall bywyd newid yn sydyn - dyna brofiad Kristian Dimond. Wedi cychwyn digon anodd i’w fywyd yn y Barri, roedd pethau yn argoeli yn dda i’r peldroediwr rhyngwladol wrth i rai o glybiau mwyaf Ewrop geisio ei arwyddo. Roedd y cyfan o’i flaen - arian, gyrfa a statws - nes i anaf creulon chwalu ei figwrn (a’i freuddwydion) yn ddarnau. Cododd ei hun o fan tywyll, gan ddod yn ddyn busnes llwyddiannus. Roedd ganddo’r cyfan - ceir cyflym, gwyliau rheolaidd, tŷ mawr moethus a theulu hyfryd - ond un diwrnod newidiodd hynny i gyd yn y ffordd mwyaf syfrdanol. Dyma ei stori...



Diolch am siarad gyda ni, rydym yn ymwybodol dy fod wedi cadw dy hanes yn breifat tan yn ddiweddar ac felly rydym yn gwerthfawrogi dy barodrwydd i rannu. Beth am i ni gychwyn yn y cychwyn gyda dy fagwraeth.

Cefais fy magu yn y Barri yn ystod yr wythdegau i’r hyn yr oeddwn yn ei gyfrif ar y pryd fel teulu arferol. Roedd cariad yn y cartref a dwi ddim yn teimlo fod gennyf ddim mwy i gwyno amdano na neb arall, roedd gennym broblemau fel teulu - roedd dad yn ddyn treisgar iawn, ond rwy’n diolch am y gofal a’r cariad y gwnes i ei brofi.

Wyt ti’n fodlon siarad am dy dad - rydym yn clywed llawer heddiw am drais yn y cartref a’r effaith ofnadwy a gaiff hynny ar deuluoedd. Sut brofiad oedd cael dy fagu yn yr awyrgylch anodd yna?

Roedd dad mewn ac allan o ysbyty gan ei fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn ein cam-drin. Roedd gartref yn le o euogrwydd ac ofn. Doeddwn i ddim yn poeni’n ormodol am y curo yr oeddwn i’n ei brofi fel plentyn, roeddwn yn medru delio gyda hwnnw, ond roedd hi’n anodd iawn delio gyda’r trais yn erbyn mam. Roeddwn yn teimlo mor euog gan fy mod yn rhy wan i atal y cyfan, cafodd yr euogrwydd yma effaith mawr arnaf.

Roedd yn gyfnod anodd a doeddwn i ddim yn dygymod yn rhy dda gyda phethau, yn enwedig gan fy mod yn cael fy mwlio yn yr ysgol hefyd. Byddem yn aml yn cuddio yn y toiledau ac yn mynd yn flin a rhwystredig iawn. Roedd llawer yn mynd ymlaen yn fy mywyd a doeddwn i ddim yn siŵr sut i ddelio gyda’r cyfan, ond roedd chwaraeon yn llawer o gymorth. Roeddwn yn rhydd i fod yn fi fy hunan ac anghofio’r problemau pan oeddwn ar y cae, roedd yn help mawr fy mod yn beldroediwr naturiol dda.


Ai chwaraeon oedd y peth wnaeth dy achub di?

Mi allet ti ddweud hynny. Dechreuais chwarae i academi Caerdydd ac o fewn blwyddyn roeddwn wedi ymuno ag Abertawe ac yn chwarae’n rhyngwladol i Gymru. Roedd yn rhyddhad mawr ac yn fy nhynnu allan o sefyllfa ddrwg, yn enwedig pan ddaeth Crystal Palace i’m harwyddo.

Roeddwn wrth fy modd yn chwarae i Abertawe ac fe gwrddais â phobl wych fel Ron Walton, yr hyfforddwr a Jan Molby, y rheolwr, ond erbyn i mi dro yn bedair ar ddeg roedd clybiau Lloegr yn cael fy arwyddo ac roedd yn deimlad gwych i gael clwb fel Crystal Palace yn dangos diddordeb. Roedd yn glir y bydden nhw yn edrych ar fy ôl ac felly pan yn bymtheg, symudais i Lundain a chael fy ngosod gyda theulu oedd yn cael eu talu i edrych ar fy ôl. Roedd yn deulu gwahanol iawn i’r hyn yr oeddwn wedi arfer gydag adref, dwi’n cofio sylwi fod pawb mor fonheddig gyda’i gilydd.

Sut oeddet ti’n teimlo ar y pryd - oeddet ti’n hapus?

Yn llwyr. Roeddwn yn hollol gyfforddus fel person – Kristian y peldroediwr oeddwn i. Roedd pob dim yn dda; roeddwn yn gapten bron pob gem ac yn datblygu drwy’r oedrannau gwahanol gyda Chymru, roedd bywyd yn wych. Roeddwn mor falch nid yn unig fod gennyf bwrpas, ond roedd gennyf ddigon o arian hefyd. Roeddwn hyd yn oed yn cael fy nhalu i fynd i’r ysgol; i fod yn onest doedd dim angen i mi wario ar ddim gan fy mod yn cael pob dim wedi ei roi i mi. Mi wnes i gynilo lot o’r arian a gyrru peth adref i mam. Roeddwn yn teimlo’n euog weithiau gan fy mod i’n saff, ond bod mam a’m brodyr adref gyda dad; roeddwn yn hapus i fod i ffwrdd o’r cyfan.

Rydym yn clywed llawer heddiw am ddynion ifanc cyfoethog sy’n colli’r ffordd - gefaist ti dy demtio erioed?

Ddim wir. Mi gefais ambell i noson allan, ond wnes i erioed wneud cyffuriau ac roeddwn yn ymroddedig i’r pêl-droed. Roedd pethau yn symud yn gyflym; roeddwn yn cael enw da fel amddiffynnwr canol cae oedd yn dechnegol gryf ac roeddwn yn datblygu’r ochr fwy corfforol i chwarae ar y lefel uchaf.

Ai dyna’r amser y cefaist ti’r anaf?

Ie, digwyddodd dau beth. Cefais gynnig cytundeb gan ddau glwb mawr iawn - Spurs ac Inter Milan yn yr Eidal, ond mi benderfynais aros yn Crystal Palace gan fy mod wedi dioddef anaf cas, ac mai dyna’r lle yr oeddwn fwyaf cyfforddus.

Digwyddodd yr anaf wrth chwarae, doeddwn i ddim yn taclo nac yn agos i neb ar y pryd, ond mi wnes i deimlo’r glec yn fy mhigwrn a’r poen ofnadwy. Roeddwn yn gwybod ei fod yn ddifrifol, a dyma’r physio yn cadarnhau hyn pan ddwedon nhw fy mod wedi torri’r pigwrn. Roeddwn yn isel iawn gan mai dyma oedd fy anaf difrifol cyntaf.

Beth ddigwyddodd nesaf?

Roedd y broses o wella yn un hir iawn, ac roeddwn yn gwybod nad oedd y droed yn iawn. Mae’n rhyfedd, mae’r deinamig yn newid yn llwyr pan fod rhywun wedi anafu - mae’n le unig iawn a daw llwyth o ofnau i boeni dyn. Fyddai’n gwella? Yw’r chwaraewr eraill yn datblygu’n gyflymach na fi? Dyna pryd y gwnes i ddechrau dweud celwydd. Byddem yn dweud wrth y physios fod pob dim yn iawn ac nad oeddwn mewn poen, er bod y gwrthwyneb yn wir. Diolch byth nad ydynt yn gwrando gymaint ar chwaraewyr y dyddiau yma gan ddibynnu mwy ar y doctoriaid a’r scans, ond ar y pryd fe wnes i wthio fy hunan yn rhy galed.

Aeth pethau o ddrwg i waeth a doeddwn i’n methu dibynnu ar y droed. Yn y diwedd fe wnes i arwyddo i Gaerdydd oedd yn fodlon rhoi cyfle i mi, ond roeddwn yn gwybod mod i wedi gorffen, fe wnes i ymddeol o chwarae cyn troi yn un ar hugain oed.

Mae’n rhaid bod hynny mor anodd - i brofi bywyd peldroediwr proffesiynol, ac yna colli’r cyfan.

Oedd, roedd yn ofnadwy. Mi geisiais chwarae yn lledbroffesiynol ond doeddwn i’n methu hyd yn oed gwneud hynny. Roedd fy mywyd wedi torri yn deilchion a doeddwn i’n methu dygymod - roeddwn wedi colli fy hunaniaeth a doeddwn i ddim yn berson neis i fod o gwmpas. Gadawodd fy nghariad i gan nad oedd hi’n medru fy ngoddef ac roedd yn amser tywyll.

Sut gwnes’ ti godi dy hunan allan o’r sefyllfa?


Roedd yn rhaid i bethau wella, ac mi ddefnyddiais beth o’r elfen gystadleuol naturiol oedd ynof a’r rhwystredigaeth i gael swydd yn gwerthu ffenestri. Wedi hynny dechreuais ddringo’r ysgol yn sydyn iawn fel ymgynghorydd diogelwch. Roeddwn yn hollol gutted i fod wedi methu allan ar gymaint, ond er mod i’n methu chwarae, roeddwn yn benderfynol o gael bywyd peldroediwr.

Ailddechreuodd y berthynas gyda fy nghariad a dyma ni’n priodi a dechrau teulu. Prynais dŷ oedd yn llawer yn rhy fawr, ond roedd ganddo’r cyfan - ystafell sinema ac ystafell ffitrwydd. Roeddwn i ffwrdd o gartref yn aml gyda gwaith, ac felly’n gwneud i fyny am hyn drwy brynu pethau i’r plant a Carla (fy ngwraig); ceir gwych, mynd ar wyliau yn aml. Wrth edrych yn ôl rwy’n gweld fy mod yn ceisio profi i eraill fy mod yn parhau i fod yn rhywun o bwys.

Roedd bywyd yn dda, ond doeddwn i ddim yn fodlon. Doeddwn i byth yn hapus gyda’r hyn oedd gennyf ac eisiau mwy... y gadget nesaf... car gwell... pob dim. Dwi’n cofio mam yn gofyn a oeddwn yn meddwl y byddwn i byth gyda digon - roedd hi’n gweld y bywyd yr oeddwn yn ei adeiladu i mi fy hunan.

Roeddet ti’n dweud nad oeddet ti’n fodlon - es’ ti i chwilio am rywbeth, efallai rhywbeth ysbrydol neu grefydd?

Ddim o gwbl. Doedd gen i ddim diddordeb mewn pethau ysbrydol. Dwi’n cofio cael rhai profiadau od dros y blynyddoedd - unwaith pan gefais lawdriniaeth oherwydd bod y doctoriaid yn meddwl fod gennyf ganser. Yn y diwedd doedd o’n ddim byd, ond dwi’n cofio’r llawfeddyg yn dweud fod yn rhaid bod rhywun yn gofalu amdanaf fi. Yna eto wrth i ni osgoi’r tsumani pan fu’n rhaid i ni ohirio gwyliau yng Ngwlad Thai gan ein bod yn disgwyl babi. Wrth glywed fod y gwesty’r oeddem am aros ynddo wedi ei ddifrodi dywedodd nan fod yn rhaid bod rhywun yn gofalu amdanaf! Doeddwn i ddim yn erbyn y syniad fod yna Dduw yn rhywle yn gofalu amdanaf - ond dwi’n cofio dod i’r casgliad fod y cyfan yn wirion - pam byddai gan rywun ddiddordeb ynof fi?

Mae’n rhyfedd dy glywed yn dweud hynny gan ein bod nawr yn gwybod dy fod yn arwain eglwys - beth ar y wyneb ddigwyddodd?

Mae wedi bod yn gyfnod rhyfeddol! Cychwynnodd y cyfan gyda Carla. Dyma hi’n dechrau mynd i gyfarfod mam a’i phlentyn y capel lleol ac fe ddaeth yn Gristion. Roedd hi’n siarad am Iesu drwy’r amser ac i fod yn onest roedd yn mynd ar fy nerfau, roeddwn yn genfigennus o’r dyn newydd yma oedd yn ei bywyd! Ond roedd un peth nad oedd modd ei wadu, roedd hi wedi newid. Roedden yn adnabod ein gilydd ers bod yn bedair ar ddeg, ac roeddwn yn gweld gymaint o gariad ynddi nawr. Roedd hi mor garedig ac yn gofalu’n ofalus amdanaf, hyd yn oed pan oeddwn wedi bod allan gyda’r bois ac yn dod ‘nôl yn hwyr wedi meddwi. Fyddai hi ddim yn rhoi amser caled i mi, dim ond gwneud paned. Roedd hi hyd yn oed yn maddau i bobl oedd wedi ei brifo hi! Roedd hi’n gofyn yn aml i mi fynd i’r capel gyda hi, ac yn y diwedd dyma hi’n cael ei ffordd.

Felly, mi wnes tithau benderfynu dod yn Gristion?

Mi wnes i gychwyn mynd i rai oedfaon, ond doedd dim byd wedi newid. Mi gafodd Carla ei siomi braidd gan ei bod wedi disgwyl y byddwn yn dod yn Gristion yn syth, ond wnaeth pethau ddim digwydd fel hynny. I fod yn onest, roeddwn yn teimlo’n hollol annigonol, doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn mynd ymlaen yn y cyfarfodydd a doeddwn i’n methu gweithio’r bobl allan. Roedden nhw’n garedig, ond ro’n i’n meddwl eu bod felly er mwyn cael fy arian. Doeddwn i ddim yn meddwl fod capel yn beth i mi, ond yna un Sul dyma rywbeth yn digwydd. Roedd y gweinidog, Merv Neal, yn pregethu ac yn esbonio sut y dylai tad a gŵr duwiol ymddwyn. Cefais fy llenwi gydag ofn ac arswyd a sylweddolais nad oeddwn yn un o’r pethau yr oedd yn eu disgrifio. Mae Carla yn dweud i mi fynd yn hollol welw.

Mae’n swnio’n ddramatig - beth oedd wedi codi ofn arnat?

Mi wnes i sylweddoli fod yna rywun oedd yn gwybod y cyfan amdanaf - mae’n anodd esbonio, ond roeddwn yn gwybod fod Duw yn real. Roedd fel pe bai rhywun wedi rhoi drych o’m blaen, ac am y tro cyntaf erioed roeddwn yn gweld pwy oeddwn i go iawn, roedd yn deimlad ofnadwy. Sylweddolais fy mod yn mynd i gael fy marnu am y bywyd yr oeddwn wedi ei fyw, ac roeddwn yn gwybod fy mod am fynd i uffern. Roeddwn i wastad wedi meddwl os oedd lle fel uffern yn bodoli, yna rhai oedd yn treisio merched a cham-drin plant fyddai yn mynd yno, ond sylweddolais fy mod innau yn euog. Doeddwn i heb fod y tad gorau na’r gŵr gorau i Carla. Os oedd Duw yn sanctaidd a pherffaith, yna roeddwn mewn trwbl.

Pan fo rhywun wedi dychryn maent yn gwneud un o ddau beth, maent yn wynebu’r peth neu’n rhedeg i ffwrdd. Penderfynais i redeg i ffwrdd. Dyma ni’n mynd adref a dyma fi’n dweud wrth Carla nad oeddwn i byth yn mynd yn ôl i’r capel eto! Roedd ei chalon wedi torri, ond roeddwn yn sicr am y peth.


Beth ddigwyddodd i newid dy feddwl?

Doeddwn i ddim eisiau dim i wneud gyda’r capel, ond roeddwn yn parhau i ymgodymu gyda phethau a dyma yna lawer o gyd-ddigwyddiadau yn dechrau digwydd. Roeddwn i’n reit grac oherwydd roeddwn yn parhau i daro i mewn i bobl o’r capel - un oedd y gweinidog. Dyma’r peth yn mynd mor bell nes fy mod yn dechrau meddwl ei fod yn fy nilyn, ond doedd o ddim. Roeddwn yn gwybod fod yn rhaid i mi fynd yn ôl oherwydd roedd fy llygaid wedi eu hagor i realiti newydd, ac roedd yn rhaid i mi ddelio gyda’r cyfan.

Ar ôl peth amser, mi ddychwelais, a tra’r oeddwn yn gwrando ar bregeth dyma rywbeth yn fy nharo - roedd Duw yn fy ngharu. Sylweddolais fod Iesu wedi dod i’r Ddaear i fyw’r bywyd perffaith a marw ar y groes i dderbyn y gosb yr oeddwn i’n ei haeddu. Cefais y teimlad rhyfeddol yma o ryddid a llawenydd ac roeddwn yn sicr fod Iesu wedi maddau i mi. Roedd yn rhyfeddol - dyma’r holl deimladau o fod yn annigonol yn diflannu ac roeddwn eisiau dod i adnabod Duw yn well.

Dyma bywyd yn newid gymaint yn y blynyddoedd cyntaf yna. Roeddwn yn wirioneddol hapus ac wedi ffeindio cartref a chariad real. Mi wnes i ddysgu gymaint, roeddwn yn darllen y Beibl gymaint ag yn profi’r llawenydd dwfn yma yn fy mywyd. Mae’n parhau heddiw.

Ydi hyn wedi parhau, a sut mae bywyd i ti heddiw?

Ar ôl peth amser dyma ni’n penderfynu cael gwared a’r tŷ a llawer o’n pethau roedden nhw yn tynnu’n sylw ni oddi ar beth oedd wir yn bwysig ac roedden ni’n ymwybodol fod gan eraill fwy o’u hangen na ni. Roeddem am roi’r arian i’r capel, ond roedd gan Dduw gynlluniau eraill a chafodd y tŷ ei werthu i weinidog lleol oedd yn ei ddefnyddio i storio dodrefn i bobl oedd eu hangen.

Roedd gan Dduw gynlluniau eraill ar fy nghyfer i hefyd. Roeddwn eisiau bywyd tawel - parhau i weithio a helpu’r capel yn fy amser sbâr, ond dyma Duw yn fy ngalw i fod yn weinidog a rhannu’r newyddion am Iesu gydag eraill. Rydym newydd symud i lle dwi wedi dechrau gofalu am gapel bach mewn pentref.

Efallai fod pobl yn meddwl mod i wedi ei cholli hi. Dwi wedi ymddiswyddo o waith da, wedi cymryd toriad cyflog o 80% ac wedi tynnu’r arian allan o’m mhensiwn er mwyn prynu tŷ newydd, ond dwi’n gwybod mai dyma beth mae Duw ei eisiau. Roeddwn unwaith yn credu fod hapusrwydd i’w gael mewn prynu pethau gwahanol a chael yr holl bethau gorau, ond ches i ddim boddhad o hynny. Byddwch chi’n ei golli yn y diwedd bob tro, mae bywyd yn llawer mwy na hynny. Ystyr bywyd yw cael perthynas gyda Duw a phrofi ei gariad a’i faddeuant - dyna rywbeth fydd yn parhau am byth.

3 views0 comments

Comments


bottom of page