top of page
HOLI

Dim troi yn ôl - Stori o Aberfan

Updated: Apr 3, 2020

Yn 2016 buom yn cofio bod 50 mlynedd wedi mynd heibio ers y trychineb erchyll yn Aberfan, De Cymru pan lithrodd cannoedd o dunelli o wastraff glofaol a phridd ar bentref bychan. Roedd y canlyniadau’n echrydus, lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion a rhwygwyd y gymuned gan y gyflafan. Daeth yn amlwg yn y nifer o raglenni a ddarlledwyd i gofio’r achlysur bod canlyniadau’n parhau ym mywydau’r rhai fu’n llygad dystion i’r hyn ddigwyddodd. Rydym yn ddiolchgar i un o’r rhai oroesodd - Gareth Davies am gytuno i rannu ei stori gyda ni.


Diolch am rannu eich stori gyda ni. Allwch chi ddweud  rhywfaint wrthym am y diwrnod ofnadwy hwnnw - oeddech chi yn ysgol Pantglas ar y pryd?


A bod yn onest does gen i fawr o gof o’r diwrnod ei hun. Pump oed oeddwn i a newydd gychwyn ysgol ond dwi’n cofio sŵn mawr iawn ac mae rhai darluniau wedi’u serio ar fy nghof. Mae mam yn dweud fy mod wedi cynhyrfu o weld y ceir heddlu a’r ambiwlansys gan nad oeddwn wir wedi’u gweld cyn hynny a pha mor amhriodol oedd hynny mewn gwirionedd.

Gallai ddychmygu ei fod yn amser dryslyd iawn i blentyn bach. Pa effaith gafodd y drychineb arnoch chi?


Roedd ein tŷ ni wedi cael difrod ac felly bu’n rhaid i ni fynd i fyw i faes carafanau o fath am rhai misoedd ond yr hyn sy’n sefyll allan yw’r effeithiau mwy hir dymor. Wrth dyfu fyny ro’n i’n ymwybodol nad oedd gen i lawer o ffrindiau gan fod cymaint naill ai wedi’u lladd neu wedi symud i ffwrdd. Roedd gen i deulu cariadus iawn ond doeddwn i ddim yn hoffi Aberfan na bron dim am y lle ac roeddwn yn dyheu am gael symud i ffwrdd. Roeddwn i’n ymwybodol fod yna gymysgedd o ddicter a thristwch yn nodweddu’r pentref ond nad oedd hynny’n cael ei fynegi. Roedd hynny’n gwneud i mi deimlo’n ddryslyd a digroeso. Dwi ddim yn cofio i mi erioed gael sgwrs am y drychineb gyda fy nheulu na’m ffrindiau tan y llynedd. Roedd fel pe tai pawb wedi ei osod o’r neilltu gan geisio mynd ymlaen i fyw gweddill eu bywyd. Y tro cyntaf i mi siarad efo fy mam mewn gwirionedd oedd y llynedd tua amser cofio’r 50 mlynedd. Dyna’r tro cyntaf i mi gael gwybod beth oedd mam wedi mynd trwyddo’r diwrnod hwnnw. Mi wnes i recordio pob rhaglen oedd ar y teledu mis Hydref diwethaf ond dwi ddim wedi gwylio’r un ohonynt. Mae’n siŵr bod hynny’n dweud rhywbeth amdanaf ond dwi ddim yn gwybod beth yn union.

Yn gynnar yn y nawdegau daeth rhywun oedd yn gwneud ymchwil PhD ar effeithiau PTSD ar y rhai wnaeth oroesi Aberfan i gysylltiad â mi. Roedd yn ystyried yn fwyaf arbennig ysgariadau a chamddefnydd o alcohol a chyffuriau. Mae’n amlwg bod y drychineb wedi effeithio’n drwm ar lawer o bobl, ac roeddwn i’n gallu ychwanegu at yr ystadegau o safbwynt y pethau rheini.

Er bod Aberfan wedi gadael ei ôl arnoch nid dyna sy’n eich diffinio chi. Rydych wedi mynd ymlaen i fyw bywyd llawn?


Dw wedi profi llawer o bethau, rhai negyddol a rhai cadarnhaol. Mae’r cyfan wedi cyfrannu at yr hyn ydw i heddiw. Faswn i ddim yn newid dim  - hyd yn oed y pethau drwg.

Yn amlwg roedd Aberfan yn anodd ac felly hefyd marwolaeth fy nhad - cafodd ei ladd mewn damwain car wrth ddychwelyd adref o fynd a fi i’r brifysgol ar y tro cyntaf. Dwi hefyd wedi colli fy musnes a bu’n rhaid dweud wrth y staff i gyd, delio gyda’r dyledion a phopeth sy’n dod yn sgil sefyllfa o’r fath. Ond mi ddois i drwyddi ac fe ddysgais lawer o wersi.

Ond dwi hefyd wedi cael gyrfa amrywiol a gwych: yn ogystal ag wynebu methiant rwyf hefyd wedi rhedeg busnesau llwyddiannus ac yna cefais swydd ardderchog yr oeddwn yn dda iawn yn ei chyflawni; roedd fy nghydweithwyr a’r clientau’n fy mharchu ac roeddwn yn ennill arian da. Doedden ni ddim yn gyfoethog ond gallem mi brynu be fynnon ni a mwynhau rhyddid.

Oes ots gennych i mi ofyn i chi sut oeddech chi’n delio gyda’r pethau negyddol yma?


Roeddwn i wastad wedi bod yn bragmataidd i raddau. Roeddwn i’n edrych ar bethau’n rhesymegol ac yn tueddu sortio fy mhroblemau fy hunan allan. Hyd yn oed pan oedd pethau mawr iawn yn digwydd yn fy mywyd mi wnes i lwyddo i ddatrys y rhan fwyaf o’r materion ymarferol. Wedi dweud hynny roedd hynny’n anodd a rhaid cyfaddef fod y creithiau wedi parhau am flynyddoedd lawer. Mae rhai yno o hyd ond mae amser a newidiadau yn fy mywyd wedi peri iddynt fod yn llai amlwg yn fy meddwl.

Mae pobl yn siarad heddiw am ‘coping mechanisms’. Doeddwn i ddim wedi clywed y term ar y pryd ond mi wnes i fabwysiadu rhai fy hun rhyw sut. Yn anffodus doedd hynny ddim yn beth iach. Pan fu farw fy nhad mi wnes i droi at y ddiod; pan chwalodd fy mhriodas mi wnes droi at y ddiod;  pan gollais fy musnes... yfed. Dwi’n siŵr eich bod yn gweld y patrwm. Roeddwn i wastad wedi bod yn hunan ddigonol ac roedd pawb yn meddwl mod i’n ymdopi’n dda gyda phethau mae’n debyg. Ond dwi ddim mor siŵr os oedd hynny’n wir ar lefel bersonol. Efallai na wnes i erioed fynd dros y dibyn i alcoholiaeth lawn ond roeddwn i’n yfed… lot. Roeddwn i hefyd yn defnyddio beth sy’n cael eu galw yn gyffuriau hamdden er nad oedd na ddim byd hamddenol iawn amdanyn nhw.

Oeddech chi’n meddwl am Dduw o gwbwl yn ystod yr amser yma?


Fy unig gysylltiad gydag eglwys fel oedolyn, hyd yn ddiweddar, oedd rhywbeth ddigwyddodd pan o’n i’n fyfyriwr. Mi ges i amser anodd iawn pan fu farw fy nhad ac ro’n i’n meddwl efallai y byddwn yn dod o hyd i ryw fath o gysur mewn eglwys. Mi es ryw fore Sul ac mi ges i ddigon o bobl yn syllu’n syn arna i ond dim sgwrs nag anogaeth o unrhyw fath gan neb. Gallai ddim dychmygu’r fath beth yn digwydd ym Mhenuel nac mewn unrhyw gapel arall dwi wedi bod ynddo’n ddiweddar. Ond roedd hynny’n ddigon i mi. Byth eto. Mae’n debyg mai dyna pryd wnes i ddechrau meddwl am fy hun fel atheist. Roeddwn i’n bendant iawn yn fy meddwl mod i’n atheist ac yn falch o hynny ac roedd gen i ddadleuon i gefnogi fy safbwynt hefyd.

Roeddwn i mor feirniadol o Gristnogion - dwi’n teimlo’n ofnadwy am hynny rŵan - ond a bod yn onest roeddwn i’n meddwl eu bod braidd yn od, diniwed a heb y crebwyll i resymu pethau drostynt eu hunain. Dwi’n meddwl mod i o’r farn pe bawn i’n cael dadl dda gydag un ohonynt y bydden nhw’n gweld hynny drostynt eu hunain.

Rydych chi wedi bod i eglwys yn ddiweddar ddywedoch chi? Pam?


Ar ôl gweithio fel dyn busnes am 17 mlynedd wnes i benderfynu mod i wedi cael digon a chymryd ymddeoliad cynnar. Roedden ni wedi symud i Sir Benfro ychydig flynyddoedd yng nghynt felly ro’n i’n treulio fy  amser yn potran o gwmpas y tŷ a’r ardd, yn gofalu am y cŵn a’r ieir ac yn hamddena ar gefn beics - gydag injan a hebddi. Gallai bywyd ddim bod yn well ond roedd y cyfan y troi o’m cwmpas i. Roedd fy mywyd fel atheist yn wych.

Yna, tua thair blynedd yn ôl cafodd Vanessa fy ngwraig broblemau iechyd. Roedd yr holl brofion yn awgrymu cancr - roedd apwyntiad wedi’i drefnu eisoes gyda’r llawfeddyg cyn diwrnod derbyn y canlyniadau terfynol - ac roedd hi’n amlwg beth oedden nhw’n ei feddwl.

Ond roedd y profion yn glir. Doedd dim cancr ac wrth gwrs roedd Vanessa uwch ben ei digon ond roedd yna fwy na hynny… roedd hi’n gwybod mai grym gweddi oedd wedi ei hiachau hi. Roedd ei mam a’i modryb wedi bod yn gweddïo ynghyd a llawer o’u ffrindiau. Roedd Vanessa’n Gristion ond heb arfer ei ffydd ers blynyddoedd ond roedd hi’n gwybod bod llaw Duw yn hyn. Dychwelodd adref a dechrau edrych am gapel i addoli ynddo. Daeth o hyd i Penuel, Roch, ychydig filltiroedd o’n cartref ac roedd yn teimlo’n gartrefol o’r funud gyntaf. Doedd a wnelo fi ddim oll a hyn, yr atheist ond ar ôl dipyn gofynnodd Vanessa i mi fynd gyda hi un diwrnod jest i gwrdd â’i ffrindiau.

Felly wnaethoch chi ei dilyn hi a dod yn Gristion a throi cefn ar eich hen ddaliadau?


Ddim o gwbwl. Roeddwn i’n iawn. Pam dylwn i newid? Roedd gen i bopeth. Ro’n i’n hapus a doeddwn i ddim yn credu mewn Duw. Mi es efo Vanessa a dyna’r tro cyntaf erioed i mi wrando ar bregeth. Wn i ddim pam y gwnes i hynny ond mi wnes ac mi es yn ôl i glywed un arall. Mae gwahanol weinidogion yn pregethu yn Penuel yn eu tro felly mi glywais i lot o bobl wahanol gydag arddulliau gwahanol ganddynt a mwynhau llawer ohono. Roedden ni’n canu emynau ond hanner ymuno oeddwn i mewn gwirionedd.

Bydd pawb sy’n darllen yr erthygl hon wedi dyfalu erbyn hyn eich bod wedi dod yn Gristion - beth achosodd y fath newid dramatig?


Y gwir plaen ydy nad oedd gen i ddim dewis. Ches i ddim gweledigaeth na chlywed llais Duw na dim byd felly ond roedd yr hyn ddigwyddodd yn fy mywyd yr un mor ddramatig i mi.

Un diwrnod roeddwn i’n hanner canu’r emynau yn y capel - roedden ni’n canu ‘I Dduw bo’r gogoniant’. Mae’r ail bennill yn dweud ‘I’r ffiaidd droseddwr yr Iesu a rydd lawn bardwn ar unwaith pan gaffo wir ffydd’ ond doeddwn i ddim yn gallu canu’r geiriau. Roeddwn i’n brwydo i ddal y dagrau nôl. Wel dwi ddim yn un sy’n crio’n hawdd ond doeddwn i jest ddim yn gallu canu’r geiriau yna!

Pam?


Yn ystod y gân mi wnes i sylweddoli y gallai hynny fod yn wir amdanaf fi. Nid yn unig mod i’n ffiaidd droseddwr oedd wedi torri cyfraith Duw ond gallai’r pardwn fod ar gael i mi hefyd. Sylweddolais y gallai Duw fy achub. Doeddwn i ddim wedi bod yn ddyn drwg iawn ond roeddwn i wedi byw yn ôl fy rheolau fy hun. Roeddwn i’n dal i ystyried fy hun yn atheist ond roedd hi’n dod yn gynyddol amlwg nad oedd hynny’n wir bellach. Dwi wedi dweud sawl gwaith bod dod yn Gristion yn beth nad oeddwn yn ei groesawu ac ar y pryd felly roedd hi. Roeddwn i wastad wedi bod mor hyderus o’m safbwynt ac roeddwn wedi cyfiawnhau hynny laweroedd o weithiau. Mi ddois i sylweddoli mod i’n colli’r frwydr gyda fi fy hun.

Yna clywais un stori ddywedodd Iesu. Yn y bôn mae’r stori’n dweud nad yw hi byth yn rhy hwyr i droi ato beth bynnag sydd wedi digwydd yn eich bywyd cyn hynny. Felly doedd hi ddim yn rhy hwyr i mi, ddim hyd yn oed i mi  - rhywun oedd wedi gwadu bodolaeth Duw drwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Felly mi wnes i ymddiried yn Iesu a derbyn maddeuant diamod Duw.

Oedd hyn yn beth hawdd ac a yw’r profiad wedi eich newid chi?


Roeddwn yn ei chael hi’n anodd am amser i dderbyn beth oedd wedi digwydd i mi. Roedd y dadleuon atheistaidd yn dal i fod yn fy hen ben rhesymegol i. Dechreuais ddarllen ychydig o lyfrau a sylweddoli nad fi oedd yr unig un oedd wedi gorfod goresgyn y dadleuon hyn. Roedd yr ateb yno; ddim mewn manylder ac nid i  bob cwestiwn ond roedd yr ateb mawr yno.

Ydw, dwi wedi newid. Ddim yr hyn dwi’n gredu sydd wedi newid yn unig ond y fi; dwi wedi newid. Mae Duw wedi fy newid i. Y ffordd dwi’n meddwl, y pethau’n dwi’n eu dweud a’u gwneud… popeth. Ond y fi ydw i o hyd ac mae fy ffrindiau a fy hobïau gen i  o hyd ond dwi ddim yn teimlo bellach mod i’n gwneud unrhyw beth jest i fi fy hun. Dwi ddim wedi ymddeol bellach. Dwi’n helpu rhedeg elusen. Mae Tir Dewi’n rhedeg gwasanaeth cymorth a chefnogaeth i ffermwyr sy’n wynebu argyfwng yng Ngorllewin Cymru. Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan yr Eglwys yng Nghymru gydag arian ddaeth o gymynrodd. Cafodd ei chychwyn gan gyn esgob Tŷ Ddewi a’r Parchedig Ganon Eileen Davies. Dim ond fi sy’n cael fy nghyflogi ond mae tîm o wirfoddolwyr yn ymweld â ffermwyr i weithio trwy’u problemau gyda nhw. Mae rhai o’n ffermwyr wir yn stryglo ac mae problemau iechyd meddwl a hyd yn oed hunan laddiad yn codi’n aml yn y sgyrsiau.

Be fyddech chi’n ei ddweud felly wrth rywun fyddai’n dweud eich bod wedi stopio meddwl yn rhesymegol am bethau ac wedi troi eich cefn ar y dadleuon yn erbyn bodolaeth Duw?


O dyna gwestiwn da! Mi faswn i’n dweud mor rhesymol yw ffydd yn Nuw - y dystiolaeth hanesyddol yn y Beibl a phopeth sydd wedi digwydd ers hynny. Trobwynt mawr i mi oedd mynychu sesiwn ynglŷn â’r Beibl a sut y cafodd ei ysgrifennu gan fwy na 40 o bobl dros gyfandiroedd dros 1,500 o flynyddoedd ac ar waethaf hynny’n mae’n dal yn un stori gyflawn. A’r cyfan i gyd heb e-bost na ffôn symudol, ddim hyd yn oed gwasanaeth post. Rhowch gynnig ar hynny heddiw ac fe welwch y llanast fydd yn deillio o hynny.

Yna byddwn i’n gofyn Pa dystiolaeth sydd gen ti yn erbyn bodolaeth Duw? Does yna ddim tystiolaeth.

Y broblem ydy bod atheistiaid (gan gynnwys fi) yn cychwyn meddwl a dadlau gyda’r rhagdybiaeth nad yw Duw’n bod ac maent felly’n llunio’u dadleuon i gadarnhau’r rhagdybiaeth yma. Does neb na dim wedi profi nad yw Duw’n bod a gall hynny byth ddigwydd. Mae llawer o wyddonwyr bellach hyd yn oed yn cytuno na all gwyddoniaeth wrthbrofi bodolaeth Duw ond mae hanes yn dweud wrthym ei fod yn bodoli - mae gennym adroddiadau wedi’u cofnodi a’u dilysu mewn hanes.

Mae yna un darn arall o dystiolaeth y baswn i’n tynnu sylw ato - fi. Sut mae esbonio’r hyn sydd wedi digwydd i mi, fy mywyd i a sut dwi’n byw bellach?

Felly i ateb y cwestiwn be fyddwn i’n dweud wrthyn nhw? Eistedda lawr a gwranda ar y stori. Rhyfedda at y newyddion. Yna gofynna i Iesu ddod i brofi i ti ei fod yn wir i gyd.

Diolch am rannu ychydig o dy stori a dy fywyd gyda ni. Oes yna rywbeth yr hoffet ti ddweud cyn gorffen?


Mae’n debyg baswn i’n licio dweud mod i’n gwybod i sicrwydd heb unrhyw amheuaeth o gwbwl fod llaw Duw wedi bod arnaf o’r diwrnod cyntaf. Roedd o’n gwybod y byddwn i’n dod ato ac roedd yn aros am yr amser roedd wedi’i bennu. Mi wnaeth o ofalu amdanaf ar hyd y ffordd. Roeddwn i’n hapus fel atheist ond dwi ddim yn cofio defnyddio’r gair llawenydd. Bellach, dwi’n ei ddefnyddio drwy’r amser a dwi’n diolch bob dydd am bopeth mae’n ei wneud drosof fi.

9 views0 comments

Comments


bottom of page