Mae yna rai digwyddiadau sy’n rhan o ymwybyddiaeth a gwead cenedl, ac mae trasiedi Aberfan yn un o’r rhai hynny i ni’r Cymry. Llithrodd miloedd o dunelli o wastraff glo a baw dros ysgol bentref fechan, gan ladd 116 o blant, 28 o oedolion a rhwygo allan galon y gymuned. Fel cymaint o’r rhai sydd wedi goroesi, mae Gareth Davies, oedd yn blentyn yn ysgol Pantglas ar y diwrnod ofnadwy hwnnw, yn sicr wedi gorfod brwydro trwy fywyd. Mae llawer wedi digwydd ers hynny (mae wedi rhannu mwy o’i hanes ar ein gwefan), ond wrth siarad ag ef heddiw mae’n amlwg bod un her fawr y mae’n dal i ymwneud â hi…
Diolch am rannu â ni eto Gareth. Pan wnaethon ni siarad ddiwethaf roeddech chi wedi ymddeol i Sir Benfro - mae’n debyg mai bywyd tawel oedd y nod, ond nid felly mae pethau wedi troi allan.
Fe allech chi ddweud hynny! Roeddwn i wedi cael digon o weithio mor galed, yn teithio i Lundain bob wythnos, ac roeddwn i eisiau arafu a mwynhau bywyd. Roeddwn yn hapus fy myd, doeddwn i ddim yn ddibynnol ar neb ac roeddwn yn gyfforddus, ond yn fuan wedi i mi ymddeol es i drwy rai newidiadau mawr mewn bywyd. Doeddwn i ddim yn credu yn Nuw o gwbl, ond trodd Duw fy mywyd wyneb i waered ac rwyf heddiw yn bennaeth elusen sy’n gweithio i gefnogi ffermwyr.
A allech chi ddweud wrthym am yr elusen?
Yn sicr. Tir Dewi yw ein henw ac rydym yn cynnig cymorth a chefnogaeth gyfrinachol i ffermwyr. Rydyn ni wedi tyfu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o fod yn elusen leol, i weithio mewn pedair sir arall, gyda dros 60 o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wedi cefnogi dros 200 o ffermydd sydd â chyfuniad amrywiol o broblemau. Mae’r anghenion yn enfawr.
Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod llawer am ffermio – ar wahân i’r ychydig a glywn ar y newyddion – a allech chi egluro ychydig mwy am y problemau rydych chi’n eu gweld?
Y ffordd hawsaf o egluro beth sy’n digwydd i ffermwyr yw gofyn i bobl feddwl am y cyfnod clo cyntaf. Roedd mor anodd ar bawb - unigrwydd, ansicrwydd, pobl yn colli eu swyddi a’u busnesau, problemau iechyd meddwl - pob un yn broblem real iawn, ond mae’r rhain yn faterion y mae ffermwyr wedi bod yn delio â nhw ers blynyddoedd. Dywed pobl fod ffermio mewn argyfwng, ond y ffermwyr sydd mewn argyfwng. Mae cymaint yn gweithio oriau hir ar eu pennau eu hunain, mae ansicrwydd gwirioneddol gyda Brexit ac mae’n mynd yn fwyfwy anodd gwneud bywoliaeth - mae peint o ddŵr y dyddiau hyn yn werth mwy na pheint o laeth yn ein siopau.
Mae llawer o ffermwyr, a’u teuluoedd, yn ei chael hi’n anodd, gyda marwolaethau oherwydd damweiniau yn y gwaith 18 gwaith yn uwch yn y sector ffermio o’i gymharu â gwaith diwydiannol arall. Bob wythnos mae ffermwr yn cymryd ei fywyd ei hun yn y wlad hon ac mae’r pwysau’n aruthrol. Mae’r heriau yn enfawr ac mae cymaint o angen, ond yn syml, rydyn ni’n ceisio helpu trwy wrando, darparu cefnogaeth, a dod ag asiantaethau ynghyd i helpu’r rhai mewn angen.
Felly pam a sut wnaethoch chi ddod yn rhan o’r gwaith hwn?
Ar ddiwedd y dydd, mae i gyd yn ymwneud â’r hyn a ddigwyddodd i mi. Doeddwn i ddim yn chwilio am Dduw, doeddwn i ddim hyd yn oed yn credu ynddo. I fod yn onest doeddwn i ddim yn croesawu’r profiad ar y pryd. Sylweddolais fy mod i wedi bod yn anwybyddu Duw ar hyd fy oes a fy mod i wedi bod yn byw yn ôl fy rheolau fy hun, ond y byddai Duw yn maddau i mi ac yn fy nerbyn. Gwelais fod Iesu wedi marw drosof a dyma fi’n troi oddi wrth y bywyd yr oeddwn wedi bod yn ei fyw a derbyn maddeuant diamod Duw. Newidiodd fi yn llwyr fel person.
Dyna pam rwy’n ymwneud â’r elusen; rwy’n teimlo bod Duw wedi rhoi gwaith a llawenydd
imi. Ni fyddwn erioed wedi cael fy ysgogi i wneud hyn cyn imi ddod yn Gristion, ond oherwydd fy mod wedi derbyn cymaint o gariad, rwyf am garu eraill. Sefydlwyd Tir Dewi gan Gristnogion ond wrth dyfu, mae llawer wedi ymuno â’r tîm sydd ddim yn Gristnogion, a gall unrhyw un dderbyn y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig, does dim rhaid mynd i’r eglwys na dim byd tebyg i gael cymorth gennym. Ond yn fy mywyd personol mae’n teimlo fel petai Duw yn agor drws ar ôl drws i wneud y gwaith yn llwyddiant ac i helpu cannoedd o bobl.
Diolch am rannu eich stori, rydym yn sicr yn dymuno’r gorau i chi. I orffen, pe gallech chi gael un dymuniad y Nadolig hwn, beth fyddai hwnnw?
Mae cymaint o bethau! Rwy’n credu mai un peth yr hoffwn ei weld yw i bobl werthfawrogi ffermwyr. Tra bod pobl yn bwyta eu cinio Nadolig eleni, hoffwn i bobl feddwl o ble mae’r bwyd hwnnw wedi dod - y cig, y llysiau a’r ffrwythau, a sylweddoli’r gwerth rhyfeddol y mae ffermio a ffermwyr yn ei gynnig i’r wlad hon.
www.tirdewi.co.uk
0800 121 4722
Darllen mwy o hanes Gareth ar ein gwefan: yma
Comentarios