Mae bywyd yn y byd yma yn gallu bod yn anodd ac yn greulon. O edrych o’n cwmpas ni rydyn ni’n gweld byd sy’n dioddef – byd sy’n llawn rhyfel, trais a chamdrin, newyn a thlodi, digartrefedd, a thrychinebau naturiol fel daeargrynfeydd a llifogydd. Rydym ni i gyd hefyd yn gwybod beth ydi hi i brofi dioddefaint a phoen yn ein bywydau personol ni – yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae bywyd yn beth sydd, mor aml, yn brifo. Mae rhywbeth ym mhob un ohonom sy’n dweud nad ydi hyn yn iawn, nad ydi hyn yn dderbyniol, ac nad dyma sut y dylai pethau fod.
Gall hyn ein harwain i gwestiynu cymeriad Duw neu hyd yn oed fodolaeth Duw. Efallai dy fod wedi clywed sôn mai ‘cariad yw Duw’ ond dy fod yn ei chael yn anodd cymhwyso’r syniad hwnnw at y byd creulon o dy gwmpas ac at dy brofiad poenus di o fyw.
Mae Duw’r Beibl yn Dduw sy’n cytuno gyda ti nad yw pethau fel y dylen nhw fod. Pan greodd Duw’r byd, dywedodd ei fod yn ‘dda iawn’ – ond roedd y byd hwnnw yn un tra gwahanol i’r byd rydym ni’n byw ynddo heddiw. Mae rhywbeth wedi mynd o’i le – a phobl sy’n gyfrifol am hynny mewn gwirionedd.
Mae’r ddynoliaeth wedi gwrthryfela yn erbyn y Duw a’n creodd a chanlyniad ein gwrthryfel yw fod popeth wedi ei sbwylio. Pan wrthododd y dyn cyntaf wrando ar Dduw, torrwyd y berthynas rhyngddynt ac o ganlyniad daeth drygioni, poen a phroblemau i’r byd – dywedodd Duw ‘melltigedig yw’r ddaear o’th achos’. Yr un bobl ydym heddiw, a’r un gwrthryfel sydd yn ein calonnau ni. Dyma pam y dywed y Beibl fod y Ddaear ‘yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi’ – disgrifiad perffaith o’n profiad ni heddiw.
Mae’n bwysig pwysleisio nad yw unigolyn yn dioddef yn arbennig oherwydd iddo wneud rhywbeth ofnadwy ei hunan – mae’r Beibl yn dweud nad yw rhywun o reidrwydd yn dioddef mwy neu lai na pherson arall am iddo fyw bywyd gwell neu waeth. Ond mae dioddefaint a phoen yn ein hatgoffa nad yw pethau fel y dylen nhw fod yn y byd nac yn ein bywydau. Mae’n ein hatgoffa hefyd o wraidd y broblem – sef fod ein perthynas â Duw, ein crëwr, wedi ei sbwylio.
Darluniodd C.S. Lewis, awdur The Lion, the Witch and the Wardrobe, boen fel megaffôn y mae Duw yn ei ddefnyddio i’n deffro i’n sefyllfa. Wrth weld drygioni’r byd hwn cawn ein hatgoffa nad yw pethau yn iawn ac y bydd Duw yn dod a’r cyfan i ben rhyw ddydd drwy farnu pob gwrthryfel yn uffern.
Er nad yw pethau fel y dylen nhw fod, dydi Duw ddim yn ddi-hid ynghylch y peth. Mae’n torri ei galon dros y byd a throsot ti a fi.
Mae Duw yn tosturio wrthym yn ein dioddefaint. Sut rydym yn gwybod hyn? Oherwydd iddo fod yn fodlon gwneud rhywbeth am y peth!
Mae’n hawdd beirniadu cymeriad Duw yn unol â’n hamgylchiadau. Ond mewn gwirionedd, dylem ni feirniadu ein hamgylchiadau yn unol â phwy yw Duw – a gwelwn hynny yn glir wrth edrych ar Iesu Grist. Daeth Iesu i’r byd creulon, toredig yma, a byw gan brofi poen o bob math – o bethau bob dydd fel blinder, gwaith caled, a theimlo’n llwglyd, i boen galar a chywilydd pobl yn gwneud hwyl am ei ben a’i fradychu. Cafodd ei ddienyddio yn y dull mwyaf poenus, sef ei groeshoelio. Ond nid y poen corfforol oedd waethaf am y groes gan ei fod wedi profi’r poen o gael ei wahanu oddi wrth ei Dad. Dyma’r poen y mae pob un ohonom ni yn ei haeddu am wrthryfela yn erbyn Duw – ond dioddefodd Iesu’r poen yma yn ein lle fel nad oes rhaid i ni wneud hynny.
Nid Duw dideimlad sydd gennym ni, ond Duw sydd yn ein gweld yn ein poen a’n llanast, ac wedi bod yn fodlon camu i mewn i’r sefyllfa i ddelio gyda gwraidd y broblem, gan dalu’r pris yn llawn am ein gwrthryfel. Mae’n erfyn arnom i gael ein cymodi ag Ef drwy ymddiried yn Iesu Grist.
Yn y Beibl darllenwn, ‘Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid’. Fe wnaethon ni droi ein cefn ar Dduw, ond y mae’r groes yn dangos i ni na wnaeth Duw droi ei gefn arnom ni! Mae’n ein caru ac am roi diwedd ar y dioddefaint drwy ein hachub o’n gwrthryfel.
Y mae Duw’n dad sy’n disgwyl am ei blant â’i freichiau ar led gan ddyheu i sychu ein dagrau a lleddfu ein poen. Mae’n dyheu i’r berthynas wnaethon ni ei sbwylio gael ei hadfer. A thrwy farwolaeth Iesu, mae ffordd i hynny ddigwydd – ‘rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw’. Pan fo rhywun yn troi at Dduw, cyfaddef ei wrthryfel, a thrystio fod Iesu wedi cymryd y gosb yn ei le, mae’n dod yn blentyn iddo.
Mae Duw wedi dweud y bydd yn derfynol yn sychu pob deigryn o lygaid ei blant – ‘fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni fydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen’. Bydd yn medru gwneud hyn oherwydd buddugoliaeth Iesu ar y groes ac mae’r Cristion yn gallu edrych ymlaen yn eiddgar at y diwrnod hwnnw. Nid yw marwolaeth yn frawychus i neb sydd wedi trystio yn Iesu gan ei fod yn gwybod mai dyma pryd y bydd diwedd yn dod i’r poen ac y bydd yn cael mynd at ei Dad nefol.
Ond mae Duw’n dyheu i dy gysuro di yn dy boen di heddiw. Y mae’n Dduw sy’n dyheu i ‘iachau’r rhai drylliedig o galon’ ac i ‘rwymo eu doluriau’. Y mae’n dyheu i dy gael yn ‘nodded dan ei adenydd’.
Wnaeth Iesu erioed athronyddu a chynnig esboniadau theoretig, oer a lled-braich yn wyneb dioddefaint a phoen. Yr hyn a wnaeth Iesu oedd tosturio a gwahodd pobl doredig, ym mhoen eu bywydau i ymddiried ynddo Fe ei hun, er mwyn iddo Fe gael ysgwyddo eu beichiau. Felly yn dy boen di, cer at yr Iesu, oherwydd dywedodd, ‘dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf orffwystra i chwi’.
Fel Cristion, rydw i’n gallu gorffwys yn gwybod mai fy Nhad sydd yn rheoli. Dydi hynny ddim yn golygu nad ydw i’n yn ei chael hi’n anodd deall pam y mae pethau poenus yn digwydd i fi yn y byd toredig hwn. Ond rydw i’n medru darllen fy amgylchiadau personol poenus yng ngoleuni cymeriad Duw – Y Duw ‘a’m carodd i ac a’i rhoes ei hun i farw trosof fi’. Pan yng nghanol y storm gallaf redeg i’w freichiau am loches yn gwybod ei fod yn fy ngharu a rhyw ddydd y byddaf gyda Fe am byth.
– Lowri Havard
Comments