Pan gyrhaeddodd Rebecca Gethin brifysgol Bangor, doedd ganddi ddim llawer o syniad beth oedd yn ei disgwyl. Cyfnod newydd, ffrindiau newydd a chyfle i brofi llwyddiant academaidd wrth fwynhau'r rhyddid a ddaw o adael gartref am y tro cyntaf.
Yma, cawn gyfle i glywed ei stori...
Diolch am siarad gyda ni. Beth am i ni gychwyn drwy i ti sôn ychydig am dy hunan a dy gefndir.
Rebecca ydw i, a dwi'n byw a gweithio ym Mangor ers bron i wyth mlynedd, ers i mi symud yma i ddod i'r brifysgol. Ges i fy magu ym Mow Street, ger Aberystwyth, gyda'm chwaer a'm dau frawd. Roedd fy rhieni yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau'r gorau i ni, a dwi'n cofio plentyndod llawn gweithgareddau fel chwarae offerynnau a mynd i gerddorfa'r sir, gwersylla gyda'r Guides, dawnsio, marchogaeth a chyfeiriadu. Rydym hefyd yn deulu sy'n hoff iawn o wneud hwyl ar ben ein gilydd a pheidio cymryd pethau yn rhy ddifrifol, a dwi dal yn mwynhau mynd adref i weld nhw a chlywed yr helyntion diweddaraf. Rydw mor ddiolchgar i'm rhieni am y fagwraeth wych ges i.
Mae'n amlwg dy fod wedi mwynhau bywyd adref fel plentyn. Sut brofiad ges ti yn yr ysgol... oeddet ti'n mwynhau?
Cwestiwn anodd i'w ateb! I raddau mi rydw i'n ofni edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn yr ysgol - roeddwn yn gallu bod yn teenager reit moody! Er hyn i gyd, roedd gen i grŵp anhygoel o gyfeillion a wnaeth gymaint i wneud fy amser yn yr ysgol yn brofiad bythgofiadwy. Rwy'n cofio nifer o ddigwyddiadau digri a hwyliog yn mynd ar dripiau cerdd a hanes ond yn bennaf roeddwn yn mwynhau'r dysgu yn yr ysgol. Nid oeddwn yn dda iawn am wneud pethau megis chwaraeon, felly roedd y dysgu ac yn arbennig y llwyddo'n academaidd yn dod â lot o fwynhad i mi.
Wedyn dod i Fangor i'r coleg... Pam? (Nid bod dim byd yn anghywir am ddod i Fangor!)
Dwi'n meddwl roedd e'n benderfyniad digon naturiol mewn un ystyr. Roeddwn yn mwynhau astudio ac yn reit dda am wneud hynny a chefais fy annog gan yr ysgol, a Mam a Dad, i fynd i'r coleg. Penderfynais astudio hanes, fy hoff bwnc trwy gydol yr ysgol, ac felly aeth fy nhad a finne i ambell i ddiwrnod agored, (yn bennaf i mi gael ymarfer gyrru!) a Bangor oedd yn teimlo'n iawn i mi. Nid oedd yn ddinas rhy fawr nac yn rhy fach, ac os oedd rhywbeth yn mynd o'i le 'doedd adref ddim ond taith bws i ffwrdd.
Ym mha ffordd roedd coleg yn wahanol i'r ysgol... wnes ti ffeindio'r newid yn hawdd?
Na dim o gwbl! Dwi'n meddwl i mi fwynhau fy rhyddid newydd ychydig gormod - cael aros yn y gwely tan ddau y pnawn a neb yn fy marnu! Bwyta Pringles i swper? Dim problem! Cafodd hyn effaith ar fy ngwaith, ac o'i gymharu ar ysgol doeddwn i ddim yn top of the class bellach. Roeddwn yn gweld eisiau'r strwythr yr oedd yr ysgol wedi ei roi i mi.
Arweiniodd hyn at bach o identity crisis i mi – roeddwn wastad wedi cael gymaint o'm hunan werth yn fy llwyddiant academaidd, ac yn sydyn doeddwn i ddim yn profi hynny ddim mwy. Roeddwn yn teimlo nad oedd gwir bwynt i fy mywyd gan nad oeddwn yn profi'r un llwyddiant ag o'r blaen.
Roedd grŵp da o ffrindiau gennyf a oedd yn mwynhau noson allan, a daeth y nosweithiau yma yn ddull o ymdopi i mi. Byddai'r yfed mawr yn help i mi anghofio pwy oeddwn i a'r teimladau o fethiant – doeddwn i ddim yn hoffi fy hunan o gwbl. Ond dim ond fy ngwneud yn fwy crac gyda fy hunan wnaeth yr yfed... pam nad oeddwn yn gallu sortio fy hunan mas a jyst mynd i'r llyfrgell a gweithio?
Rwyt ti bellach yn gweithio ym myd Cristnogaeth ac yn byw bywyd parchus(!) fel Cristion... Beth ddigwyddodd?
Mae dal i fod yn dipyn o syndod i mi weithiau taw troi at Gristnogaeth sydd wedi fy helpu. Roedd fy nheulu yn arfer mynychu'r eglwys pan roeddwn yn fach, ac i fyny at fy arddegau hwyr roeddwn wastad wedi derbyn bod yna Dduw - fel derbyn bod Siôn Corn yn bodoli. Ond i fod yn onest doeddwn i ddim rili yn deall pwy oedd y Duw yma a beth oedd y pwynt o Gristnogaeth, tu hwnt i fynd i'r eglwys a chael Creme Egg ganddynt adeg Pasg.
Dwi'n cofio trio siarad gyda Duw a gofyn am help neu fynnu iddo brofi ei fod yn bodoli i mi, wrth i mi fynd trwy ambell i gyfnod anodd yn yr ysgol uwchradd, ond ni ddaeth yr help na'r arwyddion. Des i i'r casgliad nad oedd Duw yn bodoli, neu os oedd e, doedd e bendant ddim yn becso amdana i.
Yn y brifysgol, ces i wahoddiad gan gwpwl o ferched i fynd i'r Undeb Cristnogol Cymraeg. Roedd un o'r merched yn dod o Aberystwyth, ac roedd ei mam wedi gweithio gyda fy mam i, felly cytunais fynd. Roeddem yn cwrdd yn Y Greek ym Mangor uchaf yn wythnosol, a byddai gweinidog lleol yn dod ac yn esbonio ychydig o'r Beibl i ni. Dyna oedd y tro cyntaf i mi wirioneddol ddysgu beth oedd newyddion da Cristnogaeth - bod Duw yn fy ngharu i gymaint nes iddo roi ei fab i farw yn fy lle i, i dalu'r gosb am yr holl bethau roeddwn i wedi'u gwneud yn erbyn Duw. Roedd hyn yn dipyn o syndod i mi - doeddwn i wir ddim yn caru fy hunan nac yn credu fy mod yn haeddu cariad, ond dyma rhywun yn dweud fod Duw yn fy ngharu!
Er clywed y neges yma, a mynd i fwy o gyfarfodydd Cristnogol, roeddwn yn dal i fethu, ac yfed gormod ac roedd yr euogrwydd o ymddwyn felly yn parhau i'm poeni yn fawr - ond roedd yr euogrwydd jyst yn arwain at fwy o yfed!
Un noson, yn dathlu pen-blwydd un o'm ffrindiau ac yn yfed yn drwm, mi wnes i gerdded bant o'm ffrindiau a cwympo lawr Lôn Glanrafon yng nghanol Bangor, gan grafu fy wyneb a fy sbectol (oedd yn fy mhoeni yn fwy nag unrhywbeth!). Dwi'n cofio gorwedd ar y llawr yn gwaedu a meddwl 'Dwi rili ddim yn gallu parhau i fyw fel hyn'. Yn ffodus i mi, roedd Bugeiliaid y Stryd (elusen o bobl sy'n mynd allan ar nosweithiau i wasanaethu rhai sydd angen cymorth) yn y maes parcio ar waelod yr allt, ac fe ddaethon nhw i fy helpu. Roeddwn i'n teimlo gymaint o gywilydd - byse rhai o'r grŵp yma yn fy ngweld yn y capel cwpl o ddyddiau wedyn! Roeddwn i'n disgwyl cael pregeth a chondemniad, ond yn lle hynny profais gariad ac amynedd rhyfeddol. Roeddwn wedi synnu bod y bobl yma allan ar y stryd ganol nos er mwyn edrych ar ôl pobl fel fi.
Yn hwyrach y noson yna (ar ôl cyrraedd yr hen Octagon a phenderfynu taw dyna'r lle olaf o'n i eisiau bod), ges i sgwrs gydag un o ferched yr Undeb Cristnogol Cymraeg. Roeddwn yn bryderus braidd am beth roedd hi'n mynd i ddweud, oherwydd roedd hi'n fy adnabod yn well na'r Bugeiliaid. Ond unwaith eto, dim ond cariad a brofais – dyma hi'n sgwrsio'n amyneddgar ac yn dod â chot law ar fy nghyfer.
Y bore wedyn (wel... prynhawn) roeddwn yn meddwl dros bopeth a ddigwyddodd y noson cynt. Teimlais gywilydd mawr am sut roeddwn i wedi ymddwyn, ond mwy na hynny, teimlais ryfeddod wrth ystyried sut roedd y Cristnogion yna wedi fy nhrin i. Dechreuais ystyried yr holl bethau 'roeddwn wedi eu clywed am gariad Duw a marwolaeth Iesu ar y groes drosta i. Des i i'r casgliad nad dim ond pobl dda oedd Bugeiliaid y Stryd a fy ffrind; roedden nhw wedi fy helpu oherwydd eu bod nhw wedi profi realiti cariad Crist, ac felly ei fod e hefyd yn fy ngharu i ac eisiau fy achub i. Roeddwn i eisiau cael fy achub... roeddwn yn sicr angen help o ryw fath! Felly, yn eistedd ar fy ngwely, gyda fy mhen tost, nes i siarad gyda Duw, gan ymddiheuro am fod yn mess, diolch iddo am ei gariad a gwaith Iesu Grist ar y groes, a g ofyn iddo fe helpu fi i fyw fel Cristion go iawn, fel rhywun oedd yn caru Iesu... fel rhywun oedd yn derbyn bod Iesu yn caru nhw.
Dipyn o newid felly. Ym mha ffordd mae dod yn Gristion wedi dy newid di ac yw pethau wedi bod yn hawdd wedyn?
Mae bod yn Gristion yn golygu nad oes dim yn dibynnu arna i ragor ac nid yw fy ngwerth i yn dod o'r hyn dwi'n ei wneud neu ddim yn ei wneud (gan gynnwys unrhyw lwyddiant academaidd). Mae Duw wedi gwneud popeth drosto i a dwi wedi fy rhyddhau, ac felly allan o ddiolchgarwch, nid er mwyn ennill ei gariad, rydw i'n ceisio byw er ei fwyn Ef.
Es i ymlaen i ennill gradd mewn Hanes, ac ym mis Gorffennaf enillais radd Meistr mewn Hanes Cymru hefyd. Fyswn i byth wedi cael y cryfder i barhau gyda'r gwaith academaidd oni bai i mi gael fy achub gan Iesu Grist. Nid oeddwn yn gwneud yr astudio yna er mwyn ennill gwerth i fi fy hunan rhagor, ond roeddwn yn gweithio'n galed er mwyn dod â chlod i Dduw, i ddiolch iddo fe am y bywyd newydd roedd e wedi rhoi i mi. Er cofia, roedd ambell i draethawd yn dal i gael ei gynhyrchu bach yn hwyr yn y dydd!
Nid yw credu yn Iesu fel rhyw foddion gwyrthiol sy'n newid a chywiro chi mewn eiliad. Mae'n work in progress - dwi dal yn rhoi gormod o'm bryd ar lwyddo weithiau, a rhaid i mi gael fy atgoffa taw nid dyna sy'n rhoi gwerth i mi. Weithiau rydw i dal i fynd yn isel ac yn ysu meddwi er mwyn anghofio'r pethau gwael amdana i, y methiannau a'r siomedigaethau i gyd.
Ond dwi'n trio cofio pwy ydw i nawr, ers ymddiried yn Iesu – mae'n fy ngharu gymaint, warts and all, nes iddo farw drosta i.
Mae gwerth i fy mywyd i oherwydd hynny, ac mae hyn yn rhywbeth dw i byth eisiau'i anghofio.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon am y tro cyntaf yn Holi Awst 2017
Comments