top of page
  • HOLI

Bywyd Annisgwyl

Updated: Apr 2, 2020

Weithiau nid yw bywyd yn datblygu yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl.


Gall pethau newid yn sydyn, weithiau er gwell ac weithiau er gwaeth. Yn yr erthygl hon mae Sara Webster, meddyg yn Ysbyty Plant Alder Hey Lerpwl, yn rhannu ei stori.



Cefais fy ngeni ym Mangor ond roedd fy mlynyddoedd cynnar yn rhai o fyw mewn gwahanol rannau o Loegr wrth i ni symud o le i le gyda gwaith Dad. Pan oeddwn yn saith mlwydd oed fe symudon yn ôl i’r gogledd lle y mwynheais fagwraeth wledig hyfryd gyda fy rhieni a’m chwaer yng Nghaeathro ger Caernarfon.

Pan oeddwn i’n ifanc roedd gennyf asthma drwg iawn ac yn gorfod ymweld â’r ysbyty yn aml a dyna a’m hysgogodd i fod yn feddyg er mwyn medru helpu eraill fel y cefais i fy helpu. Cefais gynnig lle yn Ysgol Feddygol Lerpwl, ond yn ystod yr ail dymor datblygais meningitis meningococcal a gwenwyn y gwaed (septicaemia) - salwch difrifol iawn. Gwaethygais yn sydyn ac o fewn dim roeddwn yn yr adran gofal dwys ar beiriant cynnal bywyd gyda fy organau yn methu. Roedd y gwenwyn gwaed difrifol wedi atal y cylchrediad i fy nhraed ac felly ddeg diwrnod wedi i’r salwch ddechrau dyma’r meddygon yn gwneud y penderfyniad anodd o dorri fy nwy goes i ffwrdd o dan y pengliniau. Roeddwn mewn coma am chwe wythnos a phan ddeffrois cefais y newyddion fy mod wedi colli fy nghoesau ac na fyddai bywyd yr un fath eto.

Er ei fod yn gyfnod o ofn ac ansicrwydd mawr am y dyfodol, roeddwn yn gwybod ym mêr fy esgyrn fy mod wedi fy nghadw yn fyw am reswm. Rhoddodd hynny’r dewrder a’r heddwch i dderbyn yr hyn oedd wedi digwydd i mi ac i geisio byw fy mywyd unwaith eto.

Wrth edrych yn ôl dros y cyfan gwelaf fel yr oedd Duw yn gweithio gan fy mod wedi trystio yn Iesu pan oeddwn yn ferch bedair ar ddeg mlwydd oed. Roeddwn wedi bod yn byw yn bell oddi wrth Dduw, ond wrth farw ar y groes derbyniodd Iesu’r gosb yr oeddwn i’n ei haeddu gan roi maddeuant a’r addewid na fyddai byth yn fy ngadael. Roedd Duw yno pan nad oedd y meddygon yn medru rhoi unrhyw obaith i’m rhieni y byddem yn byw; pan oedd pethau yn dywyll iawn, roedd Duw’n gwybod yn wahanol; pan oedd y sefyllfa yn edrych yn anobeithiol, roedd Duw yn gwybod yn wahanol. Dysgais ymddiried yn y cynllun a’r pwrpas oedd ganddo ar gyfer fy mywyd. Nid yw Duw yn gwastraffu unrhywbeth, mae’n defnyddio’r pethau mwyaf ofnadwy yn ein bywyd i’n tynnu yn agosach ato gan ddysgu gwersi gwerthfawr i ni.

Mae hi bellach yn 30 mlynedd ers i mi golli fy nghoesau ac nid yw’r amser wedi bod yn hawdd, ond mae Duw wedi bod yn ffyddlon gan fy nerthu i wynebu sialens pob diwrnod newydd. Galluogodd Duw i mi orffen fy hyfforddiant meddygol ac rwyf bellach yn gweithio yn Ysbyty Plan Alder Hey yn Lerpwl. Priodais David yn 1991 a ganwyd dau o blant i ni, Elin ac Iwan, sydd wedi tyfu i fyny bellach.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar y negyddol a’r hyn rwyf wedi ei golli, rwyf wedi dysgu cyfrif fy mendithion gan wneud y mwyaf o’r hyn y gallaf ei wneud a’i fwynhau.

Nid wyf yn flin gyda Duw; sut medrwn fod? Nid yw bod yn Gristion yn golygu eich bod yn osgoi pethau anodd fel yma, ond mae cael Duw yn graig ac yn gysgod yn ystod y storm yn gwneud pob gwahaniaeth.

Dim ond merch arferol ydw i a weddïodd weddi syml pan yn bedair ar ddeg oed. Rwyf wedi darganfod Achubwr rhyfeddol sydd wedi cadw ei addewid ac sydd heb fy ngadael. Rwy’n gwybod y bydd yn parhau i fod yn gymorth a chryfder i mi drwy’r bywyd hwn ac ymlaen i’r bywyd nesaf.

6 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page