top of page
  • HOLI

Iselder a Chancr- Stori Trystan

Updated: Apr 2, 2020

"Gallaf dystio fod yr iselder clinigol oedd gen i yn llawn gymaint o salwch â'r cancr a gefais"


Yma mae Trystan Hallam yn siarad am ei frwydr gyda salwch, y gobaith sy'n ei gynnal a'r hyn mae wedi ei ddysgu o weithio mewn ardaloedd cyferbyniol iawn o Gymru.



Er ei eni yn Abertawe mae Trystan Hallam yn sydyn iawn i nodi nad 'Jac' yw e, ond Scarlet i'r carn a fagwyd yn un o dri o fechgyn gan Peter a Glesni yn Rhydaman. Mae bellach yn byw yn Nhredegar gyda'i wraig Katherine a'u dau blentyn - Elis a Siwan. Aeth Holi draw i ddysgu mwy am stori'r gweinidog ifanc.


Diolch i ti am siarad gyda ni, gad i ni gychwyn gyda dy waith, gweinidog... gyrfa od iawn i Gymro erbyn hyn! Beth gychwynnodd y diddordeb mewn pethau ysbrydol?

Ydw dwi'n Weinidog, a fydden ni ddim am ddewis gwneud yr un peth arall. Does 'na ddim ffrind gwell na'r Arglwydd Iesu Grist, a dwi am ddweud wrth bawb amdano. Ces fy magu mewn cartref lle'r roedd Dad a Mam yn caru Iesu ac ar ddydd Sul byddem fel teulu'n mynd i'r capel, ac i'r ysgol Sul. Dwi'n cofio pan oeddwn i'n blentyn bach bach gwneud cestyll allan o'r llyfrau emynau a chwarae gyda fy nheganau He-Man.


Yna ar ryw noson ym mis Mehefin wrth wrando ar fy ngweinidog yn pregethu daeth 'na bŵer, grym go iawn ar fy nhraws - grym Duw. Wrth iddo bregethu des i sylweddoli nad oedd pethau'n iawn rhwng Duw a minne. Doeddwn i ddim wedi lladd neb na dwyn o fanc, ond roeddwn yn sylweddoli, er yn ifanc, nad oeddwn i'n medru cyrraedd safon perffaith Duw. Ar y nos Sul hyfryd yna yn 1987, fe ddes i weld fod Duw wedi delio gyda fy mhechod i drwy anfon Ei Fab, yr Arglwydd Iesu, i farw ar y groes ac i gymryd fy nghosb. Ac roedd e hefyd wedi concro marwolaeth trwy atgyfodi'n fyw! Es adre o'r oedfa, a siarad gyda Duw ar fy mhen fy hun. Mi wnes gyffesu fy mod i'n bechadur, a gofyn i'r Arglwydd Iesu faddau. Doedd yna ddim angylion yn canu, na rhyw fflachiadau o oleuni - ond roeddwn yn gwybod wrth drystio'n Iesu fod popeth yn iawn rhwng Duw a minne. Newidiodd hynny fy mywyd.


Felly, pam gweinidog?

Fel plentyn wnes i ddim dychmygu bod yn weinidog - dyn torri coed, dyn tân a gwnes fflyrtio gyda'r syniad o brif weinidog - ond dim gweinidog Cristnogol! Cychwynnodd pethe pan ges gyfle, wedi gorfod gadael prifysgol ar ôl dioddef iselder, i weithio yng Ngholeg y Bala (Coleg Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru). Roeddwn wrth fy modd yn cael dysgu plant a phobl ifanc am realiti Iesu. Dro ar ôl tro roeddwn yn cael gweld a dysgu eraill nad rhyw hen lyfr llychlyd oedd y Beibl - ond Gair Duw, a'i fod yn berthnasol i fywyd bob dydd yr unfed ganrif ar hugain. Y cynllun gwreiddiol oedd aros chwe mis yn y Bala, ond roedd gan Dduw gynlluniau eraill! Wedi dwy flynedd, cyngor Cristnogion hŷn a baich personol oedd yn tyfu, roedd rhaid i mi fynd yn weinidog.


Rwyt wedi gweithio'n agos iawn gyda phobl mewn ardaloedd gwahanol iawn… Bala, Llanbed, Caerdydd a nawr yn Nhredegar - ym mha ffordd mae'r cymdeithasau yma yn wahanol?

Dwi'n aml yn meddwl fel Cymry Cymraeg fod gennym ryw ramant wrth siarad am gymoedd y De, lle rwy'n byw ar hyn o bryd. Oes mae yna wahaniaethau diwylliannol, ieithyddol, hanesyddol a thiriogaethol yn y gwahanol fannau dwi wedi byw. Ond rwyf wedi gweld fod pobl yn debyg iawn i'w gilydd yn y bôn. Mae cyfeillgarwch, teulu ac iechyd yn bwysig i bawb ond mae fel pe bai yna ddiffyg bodlonrwydd mawr ym mywydau pobl hefyd. Dwi'n gweld gymaint yn ceisio llanw eu bywydau gyda phob math o bethau - gwaith, tŷ neu eiddo, rhyw a phleser, alcohol neu deulu. Mae gymaint o'r pethau yma yn dda, ond er bod bywydau pobl yn llawn dop o bopeth dan yr haul, mae fel pe bai gymaint o bobl yn anfodlon ac yn chwilio am fwy.


Dyna pam dwi yn weinidog oherwydd rwy'n gwybod yn y pen draw ei bod yn amhosibl i ni brofi bywyd llawn a bodlon, heb i ni fod mewn perthynas â Duw. Dwi am i bobl ddod i drystio yn Iesu, dod i berthynas â Duw a chael y gwacter wedi ei lenwi yn eu bywyd.



Mi wnest ti sôn yn gynharach dy fod wedi gorfod gadael coleg oherwydd iselder. Tydi bywyd heb fod yn hawdd felly, fase ti'n ehangu ychydig ar yr hyn yr wyt wedi ei wynebu?

Fel soniais ynghynt bu rhaid i mi adael y brifysgol o achos iselder ysbryd dwys. Doeddwn i ddim yn deall ar y pryd, ond erbyn hyn rwy'n deall yn iawn mae salwch oedd yr iselder yma a doedd yna ddim rheswm na sbardun a yrrodd fi i deimlo'n isel. Roedd bywyd yn hapus braf - mwynhau bywyd prifysgol, ffrindiau da ac ati. Ond pan ddaeth yr iselder doeddwn ddim am wneud dim na gweld neb chwaith. Rhyw deimlad o fethu aros i'r nos ddod er mwyn gorffen dydd diflas arall, ond yna methu â chysgu ac aros am y wawr er mwyn i ddiflastod y nos ddod i ben. Ambell ddiwrnod roedd postio llythyr yn y blwch post canllath o'r tŷ yn uchafbwynt y dydd.


Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2003 ces gancr y ceilliau. Bu'n gyfnod anodd gyda llawdriniaeth a chemotherapi dwys - a doeddwn ni ddim bob tro'n gwybod a fyddwn yn gwella neu farw. Yna'r eisin ar y gacen, fel petai, oedd cyfnod arall o ryw flwyddyn a hanner wedi'r cancr o iselder dwys. Er bod y cyfnodau hyn wedi bod yn rhai anodd, roeddent yn gyfnodau gwerthfawr, lle drwy gariad Duw, y dysgais lawer am fywyd, marwolaeth, a'r ffordd fod modd delio â phethau anodd wrth ymddiried yn Iesu.


Mae llawer o sôn am iechyd meddwl ar hyn o bryd, yn enwedig gyda dynion ifanc. Mae'n anodd i nifer ohonom ddeall sut beth yw dioddef gydag iselder. Wyt ti'n meddwl ei fod yn beth cadarnhaol fod y tabŵ yn cael ei godi?

Dwi o blaid yr holl sylw os ydyw yn helpu pobl i ddeall bod salwch meddwl yn salwch go iawn. Gallaf dystio fod yr iselder clinigol oedd gen i yn llawn gymaint o salwch â'r cancr a gefais. Os yw trafod salwch meddwl yn help i ddod â mwy o ddealltwriaeth i'r cyhoedd ac yn gymorth i bobl ddelio gyda phethau, yna mae hynny'n dda o beth. Serch hynny, a dwi'n ceisio bod yn ofalus wrth ddweud hyn, mae yna beryg wrth drafod salwch meddyliol i wneud y pwnc yn fwch-dihangol. Yn gymdeithasol, mae yna beryg ein bod yn rhoi gormod o fai am ffaeleddau ar ffenomenau megis salwch meddwl yn lle cymryd cyfrifoldeb ein hunain. Mae yna gydbwysedd sydd ei angen.


Yn gynharach fe wnest ti sôn am bŵer Duw. Wnaeth Duw dy helpu wrth wynebu'r afiechyd a'r cyfnod erchyll?

Heb os nac oni bai fe wnaeth fy helpu. Er bod Duw mor enfawr, Crëwr y bydysawd, eto mae'n Dduw personol. Dydy Duw ddim wedi'n gadael ni yn ein dioddefiadau, yn wir fe ddaeth drwy ei Fab, Iesu Grist, i brofi poen y byd yma. Mae felly yn gallu cydymdeimlo gyda ni yn ein problemau.


Roedd yn help aruthrol i mi wybod, oherwydd bod Iesu wedi dioddef cosb ac unigrwydd llwyr oddi wrth Dduw ar y groes - doedd dim rhaid i mi ddioddef bod arwahan i Dduw. Hyd yn oed pan nad oeddwn yn teimlo fod Duw gyda mi - roeddwn yn atgoffa fy hun nad oeddwn ar wahân iddo. Yn ogystal, yn y cancr ac yn yr iselder, roedd gwybod nad y bywyd yma oedd yr unig fywyd, a bod nefoedd i'r sawl oedd yn credu yn Iesu yn gysur anhygoel. Fe fyddai'r dioddef yn dod i ben - roedd hynny yn gymorth mawr.


Beth fydde dy gyngor i rywun sydd yn dioddef o iselder?

Efallai mai'r peth anoddaf i wneud pan fod rhywun yn dioddef o iselder, yn enwedig am y tro cyntaf, yw gofyn am help. Mae'n gallu bod yn anodd cyfaddef i'ch hunan nad ydych chi'n dygymod â bywyd. Ond os ydych wedi torri'ch braich fydde chi ddim yn gwrthod mynd at y doctor ac mae afiechyd meddwl yn salwch sydd angen triniaeth feddygol. Rwy'n ddiolchgar am y gofal meddygol wnes i ei dderbyn. Felly mae'n bwysig mynd i siarad gyda rhywun all eich helpu.


Ond yn ogystal fel Cristion fe fyddem yn annog pobl i ddarllen y Beibl. Dwi'n meddwl am y ffordd y bu llyfr y Salmau o gymorth i mi. Yn y Salmau, roeddwn yn darllen am brofiadau pobl Dduw, a oedd wedi dioddef profiadau tywyll iawn. Roedd Dafydd yn frenin ond fe wnaeth ysgrifennu: "Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan; bob nos y mae fy ngwely'n foddfa, trochaf fy ngobennydd â'm dagrau." (Salm 6:6). Mae bob amser yn gymorth i wybod fod rhywun arall wedi dioddef yr un peth ac i weld beth sydd wedi bod yn gymorth iddyn nhw. Mae'r Beibl yn llyfr realistig yn llawn pobl sydd wedi dioddef, ac eto yn y dioddef maent yn profi Duw'n gymorth ac yn gysur. Rwy'n ddiolchgar am bob gofal meddygol dderbyniais, ond rwyf hefyd yn ddiolchgar am Dduw oedd yn siarad â mi drwy'r Beibl yn fy mhrofiad anodd ar y pryd.


Mae'n amlwg o siarad gyda thi nad 'Cristion Dydd Sul' yn unig wyt ti... mae'r peth yn real ac mae gennyt feddwl mawr o Dduw ac rwyt ti'n dibynnu arno ym mhob sefyllfa. Maddau i mi ofyn hyn, ond fel rhywun sydd yn credu yn y 'Duw enfawr' yma ac felly yn rheoli pob sefyllfa, pam wyt ti'n dal i fod yn Gristion? Rwyt ti wedi profi llawer o ofidiau, salwch a chyfnodau anodd - cyfnodau sydd o dan reolaeth Duw - sut wyt ti'n deall yr hyn sydd wedi digwydd i ti a pam nad wyt ti wedi cefnu ar Dduw yn wyneb y poen?

Ydy, mae Duw yn rheoli pob sefyllfa - ond dyw e ddim yn dweud na fydd Cristion yn wynebu trafferthion bywyd. Mae'r byd yma wedi torri ac mae poen yn realiti, ond roedd yn gysur i mi, fod Duw yn rheoli hyd yn oed y sefyllfaoedd diflas roeddwn i'n eu hwynebu. Er nad oeddwn yn deall pam fod y pethau yn digwydd, roeddwn yn sicr nad oedd fy nioddef i'n ddibwrpas - o dan law gadarn Duw roedd fy salwch i'n werthfawr, ac yn wir yn gallu cael ei ddefnyddio gan Dduw er daioni.


Beth oedd y dewis arall? Os yw rhywun yn credu mai trwy siawns ein bod yma yna siawns yw'r cyfan sy'n digwydd i ni. Wrth ddilyn y ddadl i'r pendraw does dim rheswm, dim bwriad pendant i'n profiadau - mae'r cyfan yn ddi bwrpas. Mae hynny yn dywyllwch ac yn ofnadwy.


Ond nid dyna'r gwirionedd - mae Duw yn ben. Ac er y profiadau tywyll, pan na fyddwn yn medru synhwyro rheolaeth Duw, mae'r Cristion yn gwybod fod yna bwrpas pendant i'r profiadau tywyll yn ei fywyd. Dydy'r profiadau ddim yn ddi-werth, nac yn ddibwrpas.


Erbyn hyn, wrth edrych yn ôl, ac yn sicr er na fyddwn eisiau dioddef y profiadau hynny eto, dwi'n ddiolchgar amdanynt. Mi wnes i ddysgu mwy am fy hunan, dwi'n medru helpu eraill sy'n dioddef ac mi wnes i ddod i brofi perthynas ddyfnach gyda Duw sydd yn well nag unrhyw beth arall.


Cyhoeddwud am y tro cyntaf yn Holi Awst 2017

10 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page