Mae dioddefaint yn broblem real. Does dim ond angen troi’r newyddion ymlaen ... daeargrynfâu, newyn, rhyfel, camdriniaeth a drygioni. Gwelwn ddioddefaint ym mhob man ac mae’n agos i ninnau hefyd gan fod modd i salwch, ansicrwydd, perthnasau yn torri a marwolaeth chwalu ar dawelwch ein bywydau. Mae’r cyfan i weld mor annheg.
Sut mae ymateb?
Gwelwn rhai yn gwylltio, eraill yn tristau, bydd eraill yn ddi-hid ac yna gwelwn lawer yn torchi llewis gan geisio gwneud y gorau o bethau. Sawl ymateb gwahanol - pob un yn hollol ddealladwy.
Mae rhywbeth o’i le
Mae’r rhan fwyaf ohonom am fyw ein bywydau heb orfod meddwl am y problemau y bydd yn rhaid i ni ac eraill wynebu rhyw ddydd. Byddwn yn ceisio helpu eraill, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agos atom, ond ein prif amcan yw mwynhau’r amser da tra medrwn. I fod yn onest, caiff gymaint ohonom drafferth i ddelio gyda’r sioc a’r siom sy’n taro pan fo pethau’n mynd o chwith.
Dyma’r ffordd naturiol i fyw os yw person yn credu ein bod yn ddim mwy nag anifeiliaid yn byw ar blaned sy’n hedfan yn ddiamcan drwy’r gofod. Bywyd yw’r hyn a wnawn ohono - mae i’w fyw a’i fwynhau.
Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei ffeindio’n anodd byw fel hyn. Peidiwch â’m camddeall, mae’n wych pan fo pethau’n mynd yn dda, ond mae’n stori wahanol pan fydd pethau yn anodd. Pan fydd y swigen yn chwalu a’r brwydro yn dechrau rydym yn dechrau chwilio am atebion: Beth sy’n mynd ymlaen? Pam fod hyn wedi digwydd? A feiddiaf ddweud e .... pam fod Duw wedi gadael i hyn ddigwydd i mi?
Mae’n amlwg fod rhywbeth yn bod gyda’r byd. Nid canlyniad anorfod ac anffodus yw dioddefaint, mae’n amlwg fod rhywbeth mawr o’i le. Onid oes gennym i gyd y teimlad dwfn yn ein heneidiau y dylai bywyd fod yn dda? Mae gymaint i’w fwynhau yn y byd, ond fedrwn ni ddim anwybyddu fod dioddefaint yn realiti.
Mae’n bwysig cydnabod fod dioddefaint yn anghywir ac yn broblem pan fyddwn yn ei wynebu ym mywydau eraill ac yn ein bywyd ni. Nid yw dioddefaint yn ddibwrpas, fe ddylai pethau fod yn wahanol a gwell. Mae’n arwydd fod angen edrych yn ddyfnach.
Mae yna ateb
Plîs peidiwch â’m camddeall - byddai’n hollol afrealistig a chreulon i geisio cynnig ateb hawdd a syml i un o broblemau mwy cymhleth ac anodd bywyd. Ni all neb ddeall pam fod un person yn dioddef yn fwy nag arall. Wedi dweud hyn, fel Cristion dwi’n gwybod fod yna wirionedd a realiti dyfnach sy’n gwneud synnwyr o’r hyn a welwn ac a brofwn.
Mae Duw yn dda ac roedd y byd unwaith yn dda ... yn well na da, roedd yn berffaith. Mae’r rhan fwyaf yn gwybod hyn i raddau – onid oes gennym i gyd gydwybod sy’n pigo pan fyddwn yn gwneud yr hyn sy’n ddrwg? Ond beth aeth o’i le?
Nid creu pobl fel robots i’w ddilyn yn ddi-gwestiwn wnaeth Duw, rhoddodd urddas a dewis i bob un ohonom ni.
Penderfyniad dynoliaeth oedd peidio dilyn Duw, ac rydym yn parhau i wneud hynny heddiw. Mae gymaint o’r dioddefaint yn y byd yn ganlyniad ymddygiad pobl. Pobl sy’n cychwyn rhyfeloedd, ac er bod digon o fwyd ar y blaned i bawb, mae gymaint yn parhau i fyw mewn tlodi a newyn. Pobl hefyd sy’n achosi anhegwch cymdeithasol, llygredd, tor-priodas a chamdriniaeth. Fedrwn ni ddim beio Duw am y dioddefaint yr ydym yn ei achosi ein hunan.
Ond beth am salwch, trychinebau naturiol a damweiniau ofnadwy sydd ddim yn ganlyniad ymddygiad pobl? Mae’r Beibl yn glir nad yw pob dioddefaint y mae person yn wynebu yn digwydd o ganlyniad i rhywbeth maent wedi ei wneud. Effaith gwrthryfel y ddynoliaeth yn erbyn Duw sydd y tu ôl i’r byd toredig yr ydym yn byw ynddo. Daeth salwch a drygioni i’r byd y foment y gwnaeth y bobl gyntaf droi cefn ar Dduw. Mae gymaint o ddioddefaint yn digwydd heddiw gan ein bod yn byw mewn byd sydd wedi disgyn, a marwolaeth yw’r lle amlycaf y gwelwn hyn - rhywbeth sydd am ddigwydd i bob un ohonom. Gwelwn grac mawr yn rhedeg drwy’r byd a thrwy ein hymddygiad ni.
Wyt ti’n cael dy demtio i feddwl fod Duw yn ddi-hid am y dioddef? Wrth weld drygioni, mae llawer yn anghofio ein bod yn byw mewn byd sydd wedi cefnu ar Dduw, gan weld dioddefaint a drygioni fel arwydd nad yw Duw’n bodoli, wedi’r cyfan pe byddai’n dda yna byddai’n rhoi stop ar y cyfan. Mae’r Beibl yn dysgu’r gwrthwyneb - mae dioddefaint a drygioni yn bodoli gan ein bod wedi troi cefn ar Dduw, nid am ei fod e wedi troi cefn arnom ni.
Felly yw Duw yn ddihid? Er nad oes modd i ni ddeall pam nad yw Duw yn atal pob dioddefaint, ni fedrwn ddweud ei fod yn ddihid. Yn rhyfeddol, mae Duw wedi dioddef ei hunan.
Nid yw Duw wedi ein gadael. Daeth i’n byd toredig ni - daeth Iesu yn un ohonom - person real i fyw’r bywyd perffaith nad oeddem ni yn medru ei fyw. Dioddefodd a marw er mwyn cymryd y gosb yr oeddem ni’n ei haeddu am ein gwrthryfel. Meddylia am hynny am funud - edrychodd Duw ar ein dioddefaint, ac yn lle troi cefn, fe ddaeth a dioddef yn ein lle ni. Ac nid dim ond marw a wnaeth Iesu, ond daeth yn ôl yn fyw gan goncro marwolaeth ac arwain y ffordd at fywyd newydd. Dywedodd Iesu yn glir y bydd y byd yma yn dod i ben rhyw ddydd ac y bydd yn ail-wneud y cyfan. Bydd yr holl ddioddef yn mynd, dim mwy o salwch, dim dagrau a dim drygioni. Dyma pam fod Iesu hefyd yn son am uffern - lle y bydd yn cosbi pob drygioni.
Mae gan Iesu neges o obaith. Bydd Duw yn maddau ac yn gwneud person yn newydd pan fydd yn cyfaddef ei wrthryfel ac yn trystio yn Iesu, mab Duw.
Rwy’n gorffen gyda dyfyniad gan C.S. Lewis (awdur The Chronicles of Narnia):
“Mae Duw yn sibrwd yn ein pleser, yn siarad yn ein cydwybod, ond mae’n gweiddi yn ein poen: dyma ei fegaffon i ddeffro byd byddar.”
Wyt ti am wrando?
Steffan Job
Comments