top of page
HOLI

Yr Eliffant yn yr ystafell... Oes gan wyddoniaeth yr ateb i bob dim?

Updated: Mar 31, 2020

Nid oes angen mynd i sw i weld anifeiliaid – maent ymhobman. Cathod, cŵn, adar, hyd yn oed llygod mawr, ond ydych chi wedi gweld yr eliffant sy’n ymddangos yn rheolaidd y dyddiau yma?


Yn gyffredinol cawn ein harwain i gredu fod gan wyddoniaeth yr ateb i bob dim ac os nad oes modd profi rhywbeth yn wyddonol yna does dim gwir sail iddo. Rydym i gredu mai dim ond gwybodaeth wyddonol sy’n hollol ddibynadwy ac felly, mewn egwyddor, mae gan wyddoniaeth y gallu i esbonio’r cyfan sydd yn wir a real am ein byd.

Mae’r safbwynt yma’n apelio’n fawr at nifer gan ei fod yn safbwynt syml sy’n dileu’r angen am Dduw. Mae’r meddylfryd yma yn cael effaith ar gymaint o elfenau o’n cymdeithas - gwleidyddiaeth, iechyd, addysg a’r cyfryngau, ac mae’n cael ei dderbyn fel gwirionedd gan lawer (yn ddiddorol mae nifer o wyddonwyr yn llawer llai argyhoeddedig). Byddai’n hawdd dadlau fod gwyddoniaeth bellach yn system gred i nifer. Ond wrth glywed a gweld y safbwynt yn cael ei wthio ydych chi wedi sylwi ar yr eliffant yn yr ystafell? Mae yna broblemau sylfaenol yn codi’n sgìl dweud bod gwyddoniaeth yn gallu ateb bob dim. Dyma ddwy broblem:


Nid gwyddoniaeth yw hyn

Mae gwyddoniaeth yn wych ac yn werthfawr. Mae gan wyddoniaeth a gwyddonwyr gymaint i’w gynnig i’n helpu i ddeall y byd o’n cwmpas ac i wneud bywyd pawb ar y ddaear yn well. Ond nid yw gwyddoniaeth ei hunan yn honni y gall ateb neu brofi pob dim. Gellir diffinio gwyddoniaeth fel ‘y broses a wneir gan gymuned o arbenigwyr o geisio deall ac esbonio’r ffordd y mae’r byd naturiol yn gweithio drwy ymchwilio, mesur a defnyddio technegau arbenigol’.


Mewn geiriau eraill mwy syml mae gwyddoniaeth yn ceisio deall sut mae pethau yn gweithio, ac mae’n gallu gwneud hyn gan fod patrwm clir i’w gael yn y byd o’n cwmpas. Ond mae’n rhaid gofyn y cwestiwn beth os oes yna realiti y tu allan i’r hyn y medrwn ei fesur neu ei brofi. All gwyddoniaeth brofi (neu ddad-brofi) Duw er enghraifft? Byddai nifer o wyddonwyr yn dadlau nad oes gan wyddoniaeth ateb i gwestiwn fel yna.


Mae Gwyddoniaeth yn wych am esbonio sut mae rhywbeth yn digwydd ond nid yw bob tro yn medru esbonio pam fod rhywbeth yn digwydd.


Darlun a ddefnyddir yn aml i ddangos hyn yw tegell sy’n berwi. Gall gwyddoniaeth esbonio’r hyn sy’n digwydd ar lawer lefel, yn gemegol, drwy thermodynameg neu gellir hyd yn oed creu model mathemategol i ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd. Er hyn i gyd, all gwyddoniaeth ddim esbonio pam fod y tegell yn berwi - er mwyn gwneud hynny byddai angen gofyn i’r person a drodd y tegell ymlaen (gan ddarganfod ei fod newydd yrru dros gath drws nesaf a’i fod angen setlo ei nerfau drwy wneud paned).


Fedrwn ni ddim byw fel yma

O ddilyn y ddadl fod gwyddoniaeth yn gallu esbonio pob dim, mae’n anodd iawn gweld gwerth a phwrpas i unrhyw beth. Dywedodd Franics Crick (un o’r dynion wnaeth ddarganfod strwythur DNA):


‘Yr ydych chi, eich gorfoledd a’ch gofidiau, eich atgofion a’ch gobeithion, eich syniad o werth a’ch ewyllys rhydd, yn ddim mwy nag ymddygiad nifer o gelloedd nerfol a’r cemegau sy’n gysylltiedig â hwy’


Pwy ohonom all fyw gan gredu ein bod ni’n ddim mwy na chanlyniad rhyw gemegau ac egni? Mae Crick fel pe bai yn dweud ein bod ar lwybr na all ei newid a gychwynnwyd gyda’r egni ar ddechrau’r cosmos, a phwy a ŵyr o ble y daeth yr egni hwnnw. Does dim modd byw fel yna.


Mae cariad, perthynas, creadigrwydd a moesoldeb yn rhoi pwrpas i fywyd. Mae’n arwydd fod rhywun wedi ein creu.


Mae gwyddoniaeth yn cael trafferth i esbonio gymaint o’r profiadau yn ein bywydau cymhleth a chyfoethog ni - nid oherwydd bod gwyddoniaeth yn israddol, ond oherwydd nad dyna yw gwaith gwyddoniaeth.


Mae credu mewn Duw yn gwneud synnwyr o wyddoniaeth - mae’n rhoi sail i fynd ati i geisio deall ein byd ni ac mae’n rhoi sail i ryfeddu a mwynhau bywyd. Ond mae adnabod yr un sydd wedi creu’r cyfan yn gwneud bywyd yn werth byw.

2 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page