Neges gan yr olygydd
Dwi wrth fy modd gyda coed – wastad wedi bod. Dwi’n cofio treulio oriau fel bachgen bach yn mwynhau’r rhyddid a’r antur o ddringo’r goeden fawr oedd yng ngwaelod gardd Nain a Tad-cu yn Aberystwyth. Yn anffodus mae confensiwn cymdeithasol (a dwy benglin wael iawn) yn golygu nad oes modd i mi brofi’r un cyffro, ond mae’r rhyfeddod yn parhau. Fedrwch chi ddim byw yng Nghymru heb sylwi’r cewri hynafol sydd o’n cwmpas – maent yn rhan o wead ein gwlad, maent yn pethyn yma.
Pontydd sy’n uno’r ddaear a’r awyr – yn odidog yn eu sefydlogrwydd a’u cadernid. Gwreiddiau dyfnion a dail o wyrdd bywiol. O dderbyn yr amodau cywir, gall un hedyn bach dyfu yn goeden fawreddog.
Nid dim ond ein profiadau sy’n ein cysylltu gyda choed – rydym yn debyg mewn nifer o ffyrdd. Onid ydym ni hefyd yn datblygu a thyfu? Rydym am fyw bywyd ffrwythlon, ac er mwyn gwneud hynny rhaid i ni fagu gwreiddiau dwfn a thynnu nerth o rywbeth neu rhywun.
Darllenais eiriau hyfryd yn ddiweddar. Geiriau hynafol a ysgrifennwyd mewn gwlad arall, i bobl o ddiwylliant gwahanol iawn, ond maent yn parhau i ganu’r gwir heddiw.
Disgrifiant y person cyflawn fel un sydd ... “fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio’i wreiddiau i’r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a’i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.”
Onid dyma yr ydym yn ei geisio? Bywyd ffrwythlon a llawen all barhau yn dawel yng nghanol y profiadau anodd mwyaf tanbaid ac sy’n ffynnu yn ystod y sychder mwyaf? Rwy’n cyfarfod gymaint sy’n chwilio am yr afon arbennig honno all roi cryfder a sefydlogrwydd a’u cadw drwy bob dim.
Lle mae darganfod y dŵr hwn?
Ar y wefan hon byddwch yn cyfarfod nifer o bobl sy’n honni eu bod wedi darganfod rhywbeth gwahanol. Fel coed, maent wedi gwthio’u gwreiddiau yn ddwfn ac wedi darganfod afon o ddŵr gwych sy’n bodloni ac yn eu nerthu i flodeuo a newid. Roedd rhai yn chwilio, tra i eraill ddarganfod y cyfan ar hap. Maent wedi darganfod hyn mewn person, neu efallai y byddai’n decach dweud ei fod e wedi eu darganfod nhw.
Gweddiaf y bydd y wefan hon yn gymorth ac yn eich gyrru i feddwl ychydig am fywyd a’r hyn sydd wir yn bwysig. Fel Cristnogion, nid ydym yn honni fod gennym yr atebion i gyd, ond mae gennym stori i’w hadrodd, ac yn fwy pwysig mae gennym berson i’w gyflwyno i chi...
Bendigedig yw’r sawl sy’n hyderu yn yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD yn hyder iddo. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio’i wreiddiau i’r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a’i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
- Allan o lyfr Jeremeia a ysgrifennwyd tua 600 cyn Crist.
Commenti