Dywedodd Duw na fyddai byth yn gadael ei hun heb dystion. Mae Cristnogion yn aml yn cysylltu hyn â phregethwyr sy’n dweud wrth bobl am Dduw. Mae hyn wrth gwrs yn hanfodol, ond mae llawer mwy yn ein byd sy’n tystio i Dduw fel mae’r adnod yma o’r Beibl yn esbonio:
"Gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.” (Y Beibl)
Rydym yn byw mewn byd syrthiedig a thoredig ac eto mae presenoldeb a chymeriad da Duw i'w gweld yn y byd o'n cwmpas: yn y greadigaeth, natur a'i ddarpariaethau i ni.
Ond ble’r ydym yn gweld Duw heddiw yng nghanol ein sefyllfa, pan fo cymaint o ofid a marwolaeth? Beth yw'r 'tystion' i bresenoldeb Duw?
Rwy'n gweld Duw yn y myrdd o enghreifftiau o'i garedigrwydd cyffredinol. Mae Duw wedi creu pob un ohonom yn raslon debyg iddo Ef ei hun a gwelwn hyn yn anhunanoldeb y meddygon yn yr Eidal sy'n barod i roi eu bywydau i ddiogelu’r bregus; neu’r degau o filoedd o bobl ym Mhrydain sydd wedi gwirfoddoli i helpu'r GIG; neu'r ymateb anhygoel i’r cynllun ‘Street Champions’ ym Mhontardawe lle rwy’n byw. Mae pobl yn aml yn gofyn o ble daw dioddefaint, ond mae'r un mor bwysig gofyn o ble daw’r fath gariad aberthol? Rydym yn debyg i’n creawdwr.
Rwy'n Ei weld yn y galar a thristwch a deimlir gan y rhai sydd wedi colli anwyliaid. Rydym yn llawer mwy nag anifeiliaid. O ble mae'r fath gariad a thosturi yn dod?
Rwy'n Ei weld wrth i eneidiau ddeffro ac adfywio mewn adegau o argyfwng. Disgrifiodd C.S. Lewis (awdur The Lion, the Witch and the Wardrobe) ddioddefaint fel megaffon Duw i ddeffro byd byddar gan ei fod yn dangos ein hangen amdano. Dywedodd Iago (un o ddisgyblion Iesu) wrth Gristnogion iddynt ei ystyried yn “llawenydd pur” pan wynebant dreialon o bob math am eu bod yn dyfnhau ac yn aeddfedu ffydd. Pan fod popeth arall yn syrthio dim ond un Graig sy’n sefyll: Duw ei hun. Mae’n amlwg bod mwy o bobl wedi sylweddoli hyn yn 2020 nag ers nifer o flynyddoedd. O ble mae'r angen hwn am gysur, heddwch a lloches Duw yn dod?
Rwy'n Ei weld yn y gweinidog 75 oed oedd yn yr ysbyty gyda COVID-19. Roedd yn mynd ati i gysuro’r sawl o’i gwmpas gan ddal dwylo'r rhai oedd hefyd yn marw ac yn darllen y Beibl iddynt. Dyn caredig ac addfwyn yng nghanol storm bersonol.
Rwy'n Ei weld yn y meddyg oedd wedi ei lethu gan y marwolaeth a'r dioddefaint. Roedd wedi bod yn anffyddiwr ers blynyddoedd ac wedi colli pob gobaith, ond fe’i newidiwyd wrth weld y gweinidog hwnnw yn marw'n heddychlon, ac mae bellach yn credu ac yn ymddiried yn Iesu.
Rwy'n Ei weld yn y gras a chariad achubol a brofir gan filiynau, fel y meddyg hwnnw, sydd wedi eu hachub rhag marwolaeth ac anobaith, ac wedi derbyn maddeuant, perthynas â Duw a bywyd tragwyddol.
Rwy'n Ei weld yn fy mrodyr a chwiorydd yn yr eglwys; disgyblion Iesu, o wahanol oedrannau a chefndiroedd, sydd wedi goresgyn pob math o rwystrau technegol i barhau i addoli gyda'i gilydd, gweddïo, wylo a llawenhau, rhannu bendithion Duw, a mynd allan i wasanaethu eu cymdogion a chymunedau.
Ac yn y pen draw, rwy'n Ei weld yn y Beibl ac yn yr Arglwydd Iesu Grist, delw y Duw anweledig, ac ni allaf aros tan y Pasg eleni, pan yng nghanol popeth y gallwn gofio grym rhyfeddol marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Bu Iesu farw er mwyn dod a ni yn ôl at Dduw drwy gymryd y gosb yr oeddem ni'n ei haeddu.
Mae tystion i ddaioni Duw ym mhobman. Y cwestiwn yw: Ydyn ni'n gwrando? Yn y cyfnod unigryw hwn yn ein bywydau, pan fydd cymaint o’n cwmpas yn dawel, efallai cawn amser i glywed yr Un na ellir ei dawelu; i edifarhau a throi ato. Mae Ef yno, ac fe anfonodd ei Fab i farw ar y Groes fel nad oes yn rhaid i chi farw mewn anobaith. Drwy gredu ynddo cewch eich achub a mwynhau perthynas bersonol â Duw heddiw ac am byth.
Ysgrifennwyd gan Steffan Jones (Gweinidog ym Mhontardawe)
コメント