top of page
  • HOLI

Darllen y Beibl


Mae’r Beibl yn llyfr rhyfeddol, mae wedi dod â gobaith i filiynau dros filoedd o flynyddoedd. Dyma gasgliad o ddywediadau am Iesu o’r Beibl i ddod â gobaith ichi heddiw…


Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy’n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi.” Ioan 6:35


“Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.”  Ioan 10:11


“Myfi yw goleuni’r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.” Ioan 8:12


“Ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.” Luc 2:11


“Oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau.” Colosiaid 1:16


Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” Ioan 14:6


Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Datguddiad 21:4


Beth am ddarllen y Beibl dy hunan?


Gelli di ddysgu mwy am y Beibl, a derbyn copi am ddim - tud. 15

2 views0 comments

Recent Posts

See All

Mwy

bottom of page