top of page

Cariad ar waith - Gweithio gyda phobl bregus ym Moldofa

Updated: Apr 2, 2020

Yr agosaf y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi dod i’r llen haearn a chomiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop yn ystod y saithdegau ar wythdegau yw’r ffilmiau ysbio yr ydym wedi eu gweld wrth dyfu i fyny. Mae’r delweddau o flociau o fflatiau llwyd, dynion gyda Kalashnikovs a gweithredoedd anonest yn llenwi’r meddwl. Digon anodd oedd realiti bywyd y tu ôl i’r llen yn enwedig i’r rhai nad oedd yn dilyn yr ideoleg gomiwnyddol. Byddai’r crefyddol, yr ymladdwyr rhyddid a hyd yn oed yr anabl yn aml yn diweddu yn y carchar neu mewn sefydliadau gan ddioddef yn y ffyrdd mwyaf ofnadwy. Beth felly fyddai’n cymell gweithiwr cymdeithasol ifanc o Gaerdydd i fentro mor bell o gartref i rai o’r gwledydd hyn? Dyna’n union wnaeth Maureen Wise, ac mae hi’n parhau i gadw cyswllt agos gyda’r mwyaf anghenus yn y gwledydd hyn heddiw.



Beth am gychwyn gyda’r gwaith yn Moldofa - fedrwch chi rannu ychydig am yr hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud yno?

Nid wyf yn gwneud cymaint ag yr oeddwn ers ymddeol, ond rwy’n parhau i fod mewn cyswllt agos drwy fy ngwaith gyda’r ‘cartrefi’ a’r holl ffrindiau hyfryd sydd gennyf allan yno. Mae’r cartrefi yn llefydd lle mae’r bobl anabl yr ydym wedi eu hachub o’r sefydliadau yn cael byw. Yn ystod cyfnod y comiwnyddion roedd gymaint o blant a phobl anabl yn cael eu rhoi yn y sefydliadau mwyaf ofnadwy, ac mae nifer yn parhau i fyw ynddynt. Rydym wedi gweithio gyda phobl leol i adeiladu pedwar tŷ lle y mae modd i rai o’r bobl anghenus hyn fyw yn rhannol annibynnol mewn urddas, rhyddid a chyda cynhaliaeth.


Fedrwch chi roi rhai enghreifftiau’r o’r amgylchiadau ofnadwy yma, ac ydynt yn parhau heddiw?

Lle mae cychwyn? Yn gyntaf mae’n rhaid i mi ddweud fod y llywodraeth yn ceisio cael gwared a’r sefydliadau i blant; maent yn ceisio dod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd sy’n ysgogiad mawr i wella pethau. Ond mae’r angen mawr yn parhau.

Mae un ddynes yn dod i’r cof. Roedd Ina yn 32 oed, yn dioddef o anabledd meddyliol ac yn byw mewn sefydliad. Roedd hi’n berson hyfryd ond anghenus iawn gan geisio sylw drwy’r amser. Roedd yn clingy ac yn mynd ar nerfau nifer o’r dynion a’r merched hynach - bob tro’r oeddem yn ymweld byddai ar bigau’r drain i’n cyfarfod gan weiddi drwy’r bariau yn y giatiau! Roedd hi wrth ei bodd yn canu ac anaml y byddai’n methu cyfarfod yr oeddem yn trefnu iddynt, roeddem yn ei charu gymaint. Ond un dydd, wrth gyrraedd, doedd dim golwg ohoni yn unman. Gofynnom lle’r oedd Ina, ond nid oedd neb yn siarad. Yn y diwedd cawsom wybod ei bod wedi marw – wedi ei chicio i farwolaeth. Roedd ei mam, oedd yn fargyfreithiwr uchel yn y wlad wedi casglu’r corff a mynd a hi adref yn syth i gael ei chladdu (fel sy’n arferol yn Moldofa). Er ein bod wedi’n cysuro o wybod ei bod hi’n Gristion ac felly yn y nefoedd allan o bob dioddef a phoen, roedd yn dal i dorri ein calonnau.

Rwy’n cofio ymweld â sefydliad yn Romania yn weddol fuan yn fy amser yno. Roedd y lle yng nghanol unlle, dan eira trwm ac roeddem wedi cyrraedd yn hwyr mewn tywyllwch. Roeddem yn amcangyfrif bod tua 100 o blant yn yr adeilad a dim ond un gweithiwr i edrych ar eu hol. Roedd y cyfan yn ormod i’r gweithiwr ac roedd wedi cloi’r plant yn eu hystafelloedd. Gofynnais yn garedig iddi agor y drysau i mi gael gweld y plant.

Mae’r atgof yn parhau yn hollol glir, roedd yr arogl a’r amgylchiadau yn ofnadwy! Dwi’n cofio cerdded draw i bentwr o flancedi yn y gornel a’u codi, dim ond i weld wyneb merch fach ifanc oedd yn amlwg gydag anabledd corfforol. Dyma hi’n syllu drwyddai a thynnu’r flanced yn ôl dros ei hwyneb. Clywais am hanes mewn cartref plant amddifad arall lle bu farw nifer o blant oherwydd eu bod wedi eu cloi mewn ystafell gyda nifer o garpedi gwlyb oedd yn cael eu sychu ar y rheiddiaduron. Roedd y nwy wedi eu lladd. Roedd yr amgylchiadau yn aml yn ddirdynnol.


Sut oeddech chi’n ymdopi gyda gweld y pethau hyn, yn enwedig fel gweithiwr cymdeithasol?

Y prif ymateb yn aml oedd y teimlad o fod yn hollol annigonol, yn arbennig wrth i mi gychwyn fy ngwaith yn hyfforddi gweithwyr cymdeithasol yn Rwmania. Wedi i’r chwyldro dorri allan penderfynais fynd ati i chwilio am swydd yn un o’r gwledydd i helpu. Rwy’n grediniol fod Duw wedi cynllunio’r cyfan, oherwydd roedd fy sgiliau yn union beth oedd ei angen yn y gwledydd hyn. Dechreuais weithio i fudiad annibynnol o’r llywodraeth (NGO) gan roi cymorth gyda’r argyfwng oedd yn datblygu.


Gwelais bethau ofnadwy na allaf eu rhannu gyda chi. Roedd yn amser unig a chaled iawn ac roeddwn yn aml wedi fy llethu yn llwyr gan ei fod mor wahanol i’r hyn yr oeddwn wedi ei brofi yn ôl yng Nghymru. Roedd fel nofio mewn môr o angen - cartrefi amddifad fel gwersylloedd rhyfel, yr argyfwng dyddiol o geisio cael digon o fwyd a gwella’r hylendid. Yna roedd y gwaith mwy hirdymor o geisio cynllunio yn strategol, hyfforddi gweithwyr cymdeithasol, rheoli gwelliannau ac ailgartrefu pobl. Fedrwch chi ddim rhamantu’r gwaith, roedd yn erchyll, gyda marwolaeth yn eich wyneb drwy’r amser.


Beth oedd eich gwaith yno?

Ar ôl peth amser yn Bucharest, symudais i Osadea yng ngogledd y wlad er mwyn sefydlu ysgol ddysgu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Roedd wedi ei gysylltu â’i leoli gyda choleg Beiblaidd. Doedd gennym ddim llyfrau a fawr ddim adeiladau, ond roedd gennym gannoedd o fyfyrwyr. Roedd cymaint ohonynt wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd comiwnyddol, ond roedd ganddynt gariad rhyfeddol ac yn eiddgar i ddysgu. Am gyfle rhyfeddol a gefais! Datblygodd cannoedd o’r myfyrwyr yn ffigyrau allweddol i ailadeiladu’r wlad, a gwledydd eraill. Roedd myfyrwyr yn dod atom o bob math o wledydd cyfagos, a dyna lle’r cychwynnodd y cyswllt gyda Moldofa.


Efallai fod cyfuno gwaith cymdeithasol gyda chrefydd yn swnio’n od, hyd yn oed yn anghywir i nifer o bobl yng Nghymru – sut fyddech chi’n esbonio’r cyswllt rhwng y coleg Beiblaidd a’r ysgol hyfforddi i weithwyr cymdeithasol?

Roedd pob myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs o’u dewis eu hunain ac roeddent yn astudio Cristnogaeth ac un elfen ymarferol arall - addysg, gwaith cymdeithasol neu gerddoriaeth (mae cerddoriaeth yn bwysig iawn yn Nwyrain Ewrop). Roedd gweledigaeth fawr gan yr arweinwyr a gychwynnodd y coleg. Roedden nhw’n gweld yr angen difrifol a’r sefyllfa ofnadwy yn y wlad, ac felly, fel Cristnogion roedden nhw’n gweld fod ganddynt rôl i chwarae i wella pethau.

Byddai’n hollol ddealladwy pe byddai’r Cristnogion am ganolbwyntio ar eu hunain wedi cymaint o flynyddoedd yn dioddef, ond roedd ganddynt y fath gariad tuag at eraill. Cariad real oedd yn gweithio’i ffordd allan i eraill ac i wasanaethu’r gymdeithas. Roedd yn hollol naturiol iddynt gyfuno’u ffydd gyda’u bywyd gan ofalu am bobl yn ysbrydol a materol. Weithiau, roedd eu cariad gymaint nes fy mod yn teimlo y medrwn ei gyffwrdd!


Mae’n amlwg fod y Cristnogion wedi cael effaith fawr arnoch.

Bydden i wrth fy modd pe baech chi’n cael eu cyfarfod! Mae eu ffydd yn real, ac maent wedi profi Duw mewn ffordd arbennig. Roeddent newydd ddod allan o system gaeth iawn lle’r oedd bod yn Gristion yn golygu bywyd anodd iawn. Doedd pethau ddim wedi gwella llawer wedi i’r drefn gomiwnyddol ddisgyn - roedd gymaint o lygredigaeth yn y llywodraeth ac roedd yn gostus i fod yn Gristion. Yr unig esboniad am yr hyn ddigwyddodd oedd bod Duw wedi symud. Byddai gan eglwysi filoedd o aelodau, ac er nad oedd ganddynt lawer o bethau materol, roedd ganddynt yr hyn oedd yn cyfrif, ac roedd yn hyfryd cael bod gyda nhw. Mae’n rhyfedd oherwydd gwelais yr union yr un angerdd dros Dduw yn y sefydliadau oedd wedi bod yn gaeedig ers blynyddoedd. Doedd pobl heb gael cyswllt gyda Christnogion eraill ond roedd yr un peth i’w weld, byddai pobl yn aml yn dod atom i ofyn sut oedd cael bod yn iawn gyda Duw. Roedd Duw yn real yn y wlad, ac roedd pobl yn gwybod fod angen iddynt adfer eu perthynas gyda fe.

Dyma oedd sail y gwaith yn Moldofa. Cysylltodd rhai o’m cyn-fyfyrwyr a gofyn i mi fynd draw i helpu. Wedi i mi weld yr angen - ar bob lefel - roedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth. Roedd pobl angen cymorth ac roedd pobl angen dod i adnabod Duw. Syrthiais mewn cariad gyda chymaint ohonynt - dyma nhw’n dod yn deulu i mi.



Sut gychwynnodd y diddordeb a’r cyswllt gyda dwyrain Ewrop?

Roedd gennyf ddiddordeb yn Rwsia yn ifanc ac astudiais Rwsieg fel myfyriwr ym Mangor – roedd dad yn wrth-grefyddol iawn ac yn hoffi dysgeidiaeth Karl Marx, felly dwi’n meddwl fod hynny wedi ennyn y diddordeb. Ond beth a daniodd y fflam oedd y cyfarfod gweddi yr oeddwn yn ei fynychu i weddïo dros y gwledydd comiwnyddol. Byddem yn cyfarfod yn rheolaidd, yn darllen llythyrau gan y Cristnogion o’r gwledydd hyn ac yna’n gofyn i Dduw ofalu amdanynt. Tyfodd y baich i mewn i bwysau nad oedd posib ei anwybyddu, ac yn y saithdegau, yn ystod fy ngwyliau cychwynnais helpu elusen oedd yn cefnogi Cristnogion yn y gwledydd comiwnyddol. Byddem yn gyrru ceir llawn o Feiblau a llenyddiaeth Gristnogol er mwyn eu smyglo i mewn i wledydd gwahanol - Rwsia, Slofacia, Gwlad Pwyl a Bwlgaria. Roeddwn weithiau yn ddigon ofnus, dwi’n cofio cael fy nal, fy archwilio a’m taflu allan o wlad. Ond doedd e ddim mor beryg i ni ag yr oedd i’r Cristnogion oedd yn byw yn y gwledydd. Dyma ni’n magu cyfeillgarwch dwfn.


Mae’n amlwg fod eich ffydd yn greiddiol i’ch bywyd - sut ddigwyddodd hyn?

Cefais fy magu mewn stad gyngor yn Llundain heb fawr ddim cyswllt gyda Christnogaeth. Rwy’n cofio mewn gwers yn y chweched dosbarth i mi edrych allan drwy’r ffenestr ar goed hardd a meddwl pwy oedd wedi eu creu. Dyma fi’n ffeindio Beibl adref ac yn dechrau ei ddarllen gan wybod yn syth ei fod yn wir. Roeddwn yn anfodlon iawn gyda’r math o berson yr oeddwn i, ond wrth i mi ddarllen daeth Iesu yn bwysig iawn i mi. Doeddwn i ddim yn mynd i’r eglwys na’r capel a doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw Gristion, ond roeddwn yn dod yn fyw yn ysbrydol. Dwi’n cofio darllen brawddeg yn y Beibl oedd yn disgrifio’r hyn yr oeddwn yn ei deimlo yn llwyr ‘Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma’. Dros y misoedd canlynol sylweddolais fod yr anfodlonrwydd yr oeddwn yn ei deimlo yn arwydd fod Duw yn agor fy llygaid i weld ei berffeithrwydd ef a’m hangen am ei faddeuant. Dyna pam fod Iesu wedi byw bywyd perffaith a marw ar groes er mwyn derbyn y gosb yr oeddem ni’n ei haeddu. Mae’r rhyfeddod hwn wedi tyfu drwy gydol fy mywyd a dwi am fyw fy mywyd er mwyn plesio Iesu.


Mae gymaint o bobl yng Nghymru yn meddwl am Gristnogaeth fel rhywbeth y mae rhywun yn ei wneud. Ond mae’n amlwg o’ch dealltwriaeth chi fod Cristnogaeth yn rhywbeth y mae rhywun yn ei brofi. Fyddech chi’n cytuno?

Mae angen i Dduw ddangos i bobl ei bŵer rhyfeddol gan fod gymaint o anghrediniaeth o gwmpas heddiw. Pan fydd rhywun yn gweld perffeithrwydd a sancteiddrwydd Duw ac yn dod yn ymwybodol o’u gwrthryfel yna mae’n anorfod fod pobl am droi ac ymddiried yn Iesu. Mae hyn yn arwain at fywyd hollol wahanol. Mae’n destun gofid i mi fod ffydd yn cael ei wthio allan o fywyd cyhoeddus - o’m profiad i, dyna mae pobl ei angen yn fwy nag unrhyw beth. Roeddwn yn rhannu gymaint pan oeddwn yn weithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd a Thredegar yn y saithdegau, a’m ffydd oedd sail a chymhelliad fy ngwaith cymdeithasol. Mae pobl angen Duw, fel y mae’r anialwch angen dŵr. Mae hyn yn wir yn Moldofa ac yng Nghymru.

2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page