top of page
  • HOLI

Beth yw’r neges Gristnogol?

Updated: Apr 2, 2020

Duw

Mae’r byd yma wedi ei greu gan yr unig wir Dduw yn dri person (Tad, Mab ac Ysbryd Glân) a gwelwn ei olion fel Creawdwr ym mhob man. Mae Duw yn fyw, yn dda ac yn berffaith.


Ti a fi

Mae pawb yn werthfawr ac heb ei diffinio gan genedligrwydd, rhyw, rhywioldeb, iechyd, gwaith, oed, profiad nag unrhywbeth arall; rydym i gyd wedi ein creu gan Dduw.


Cawsom ein creu gyda’r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain, ac fel dynoliaeth rydym wedi troi ein cefn ar Dduw yn bwrpasol. Rydym am fyw ein bywyd fel y dymunwn, nid fel y mae Duw am i ni fyw - mae’r Beibl yn galw hyn yn bechod.


Wedi torri

Gwelwn effaith y gwrthryfel yma ym mhob man; drwy fyd sydd wedi torri, salwch a marwolaeth a thrwy ein hanallu i ddilyn ffordd berffaith Duw o fyw.


Nid oes yr un ohonom yn medru osgoi hyn - mae pob un ohonom yn gwneud pethau anghywir ac yn meddwl meddyliau sydd ddim yn gywir. Rydym yn haeddu cosb dragwyddol am ein gwrthryfel yn erbyn ein Creawdwr da - dyma mae’r Beibl yn ei alw’n uffern.


Cariad

Mae’n amhosib i ni achub ein hunain oddi wrth ein gwrthryfel a’i ganlyniadau, ond nid yw Duw am i neb fynd i uffern – dyna pam y daeth Iesu. Daeth a byw bywyd perffaith a marw ar y groes gan ei fod yn ein caru. Yn y ffordd yma, cymerodd Iesu’r gosb yr ydym yn ei haeddu, a thrwy ddod yn ôl yn fyw fe goncrodd farwolaeth. O ganlyniad, medrwn gael maddeuant llwyr (a’n hachub oddi wrth uffern), a chael ein bywyd wedi ei newid yn syth (bydd ein gwrthryfel yn cael ei newid i gariad tuag at Dduw) - dyma mae’r Beibl yn ei alw’n achubiaeth.


Mae’r achubiaeth yma yn anrheg sy’n cael ei roi am ddim heb unrhyw haeddiant.


Ymateb

Pan fo Duw yn symud yng nghalon rhywun, mae’r person yn sylweddoli ei fod wedi torri cyfraith Duw a’i fod angen ei achub - yr achubiaeth sydd ond yn dod gan Iesu. Mae Duw yn ein galw i gyfaddef ein hangen ac i drystio yn unig yn Iesu a’r pris a dalodd ar y groes – dyma beth mae’r Beibl yn ei alw’n ffydd.

Pan fo person yn ymateb yn y ffordd yma, mae’n cychwyn bywyd newydd a pherthynas gyda Duw.

Y Beibl

Mae Duw yn parhau i ddysgu, helpu a rhoi arweiniad i ni drwy’r llyfr rhyfeddol yma heddiw. Os nad wyt wedi darllen y Beibl o’r blaen, cer i’r ddalen gynnwys a chwilia am Lyfr Marc – dyma hanes bywyd Iesu (mae mwy o fanylion am ba mor ddibynnol yw’r Beibl yma ar y wefan).


Gweddïo

Gofyn i Dduw ddangos ei hun i ti. Un o’r brawddegau mwyaf prydferth yn y Beibl yw ‘Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.’ Dyma addewid gan Iesu y bydd yn dangos ei hun i bwy bynnag sy’n gofyn am hynny. Nid oes angen geiriau arbennig - dim ond siarad o’r galon.


Edrych am Eglwys, Gapel neu Gristion

Paid â bod ofn ymweld ag eglwys neu gapel sy’n credu’r Beibl neu ofyn i Gristion rwyt yn ei barchu am y ffydd. Byddant yn fwy na hapus i rannu eu profiadau gyda thi.


Cysylltu gyda ni

Cysyllta gyda ni os hoffet wybod mwy.

4 views0 comments

Recent Posts

See All

Mwy

bottom of page